Mater - cyfarfodydd

REVENUE BUDGET STRATEGY 2021/22 TO 2023/24

Cyfarfod: 03/03/2021 - Cyngor Sir (eitem 5)

5 STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2021/22 - 2023/24 pdf eicon PDF 372 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

1.     Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cynghorwyr, os oeddent wedi datgan buddiant cynharach yn rhinwedd bod yn Llywodraethwyr Ysgol ALl, nad oedd angen iddynt ddatgan y buddiant hwnnw eto gan fod yr adroddiad yn ymwneud â Chyllideb Refeniw gyffredinol y Cyngor

2.     Bu i'r Cynghorwyr D.C Evans, E. Dole, T. Higgins, K. Madge, B.A.L Roberts, A.G. Morgan, a J. Edmunds ailadrodd eu datganiadau cynharach

3.     Bu i'r Cynghorwyr L.R. Bowen, A. Vaughan Owen, G. Jones, P. Hughes a R. Evans ddatgan buddiant ar ddechrau'r eitem hon gan fod aelodau o'u teuluoedd yn cael eu cyflogi gan yr Awdurdod)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 tan 2023/24 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, pryd y bu'n manylu ar gefndir y cynigion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor, ynghyd â'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ddweud wrth y Cyngor fod yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf ar Strategaeth y Gyllideb Refeniw ac yn nodi argymhellion y Bwrdd Gweithredol o ran y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2021/22 i 2023/24. Ychwanegodd fod proses cyllideb Llywodraeth Cymru wedi bod yn llawer hwyrach nag arfer ar gyfer 2021/22, ac nad oedd ffigurau'r setliad terfynol wedi'u cyhoeddi tan y diwrnod cynt (2 Mawrth) ac nad oedd y gyllideb derfynol yn cael ei thrafod tan 9 Mawrth.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y setliad terfynol yn cadarnhau nad oedd dyraniadau refeniw a chyfalaf y Cyngor wedi newid, yn unol â'r ffigurau dros dro ynghyd â rhai newidiadau i grantiau penodol. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau'r swm o £206m ar gyfer Cronfa Galedi Covid-19 i gefnogi costau ychwanegol a cholli incwm yn ymwneud â'r pandemig ar gyfer 6 mis cyntaf y flwyddyn ariannol nesaf (2021/22).

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod adolygiad o elfennau allweddol tybiaethau a dyraniadau'r gyllideb wedi rhoi rhywfaint yn fwy o le yn y gyllideb, o'i gymharu â chynnig y gyllideb wreiddiol, gan arwain at ailedrych ar rai o'r cynigion ac ystyried opsiynau pellach.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod manylion llawn y setliad dros dro wedi'u nodi yn yr adroddiad (a chadarnhawyd nad oedd newid iddo yn y setliad terfynol). Roedd y cyllid cyfartalog ar gyfer Llywodraeth Leol ledled Cymru wedi cynyddu 3.8%, ac roedd Sir Gaerfyrddin hefyd i dderbyn 3.8%. Er bod hyn wedi galluogi'r awdurdod i ddyrannu cyllid yn y gyllideb ar gyfer gwasgfeydd sylweddol o ran pwysau chwyddiant a phwysau na ellir ei osgoi, roedd dal angen gwneud arbedion er gwaethaf croesawu'r cynnydd mewn cyllid, gan fod y cynllun yn cynnwys arbedion sylweddol wedi'u gohirio tan y blynyddoedd i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5


Cyfarfod: 22/02/2021 - Cabinet (eitem 6)

6 STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2021/22 - 2023/24 pdf eicon PDF 390 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ynghylch Cyllideb Refeniw 2021/2022 ac yn darparu'r ffigurau mynegiannol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/2023 a 2023/2024. Hefyd roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb gan roi diweddariad ynghylch dilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad amodol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion gafwyd i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Amlinellodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau i'r Bwrdd nifer o ffactorau a oedd yn dylanwadu ar y gyllideb, gan gynnwys y ffaith na fyddai'r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru yn dod i law tan 2 Mawrth 2021. Gan ystyried cyhoeddi'r setliad terfynol yn hwyr, dywedodd fod elfennau allweddol o ragdybiaethau a dyraniadau'r gyllideb wedi'u hadolygu ac wedi rhoi rhywfaint mwy o gyfle i'r awdurdod ailedrych ar rai o gynigion gwreiddiol y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod manylion llawn y setliad amodol, a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, yn nodi bod cyllid Llywodraeth Leol ar sail Cymru gyfan wedi cynyddu 3.8% ar gyfartaledd ar setliad 2020/21, ac mai dyraniad Sir Gaerfyrddin oedd 3.8% (£10.466m). Er bod y setliad hwnnw wedi galluogi'r awdurdod i ddyrannu cyllid yn ei gyllideb ar gyfer nifer sylweddol o wasgfeydd chwyddiant a rhai na ellid eu hosgoi, roedd dal angen gwneud arbedion, ac er bod y gyllideb ddrafft gychwynnol wedi cynnwys gohirio swm sylweddol o arbedion i'r blynyddoedd i ddod, oherwydd effaith covid, roedd wedi darparu ar gyfer y newidiadau yng nghyllideb 2021/22, ond byddai dal angen gwneud newidiadau sylweddol pellach dros y blynyddoedd i ddod.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru, a oedd i'w gyhoeddi ar 2 Mawrth 2021, a dywedodd fod yr adroddiad yn ceisio awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â'r Arweinydd, y Prif Weithredwr, a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i Strategaeth y Gyllideb cyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 3 Mawrth 2020. Fodd bynnag, roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi gwneud rhai addasiadau i rai o'r ffigurau eraill yn yr adroddiad, fel rhan o'r drefn arferol wrth i wybodaeth gliriach fod ar gael, gyda chyfanswm y dilysiad presennol yn ychwanegu rhyw £10m at y gyllideb. Roedd y dilysiad mwyaf sylweddol yn ymwneud â thâl, a oedd wedi caniatáu ar gyfer 2.5% bob blwyddyn.  Fodd bynnag, nid oedd hynny'n berthnasol i athrawon, a oedd yn cael eu cwmpasu gan drefniadau tâl ar wahân o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru, gyda dyfarniad 2020 yn gynnydd o 3.1%, gyda'r effaith ran-flynyddol yn rhagdybiaeth gyson o 2.5% ar gyfer unrhyw ddyfarniadau yn y dyfodol, a oedd yn cael ei gydnabod yn risg allweddol i'r gyllideb.

 

Atgoffwyd y Bwrdd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, yn seiliedig ar setliad amodol y gyllideb, newidiadau i rai o'r rhagdybiaethau allweddol ynghylch dyfarniadau cyflog yn y dyfodol ac effaith oedi yn y rhaglen gyfalaf, fod rhywfaint o gyfle i wneud newidiadau i'r strategaeth, a'i fod wedi cytuno'n flaenorol i leihau'r cynnydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6