Mater - cyfarfodydd

DATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL AR GYFER AGREGAU – DE CYMRU – AIL ADOLYGIAD (RTS2)

Cyfarfod: 21/12/2020 - Cabinet (eitem 13)

13 DATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL AR GYFER AGREGAU – DE CYMRU – AIL ADOLYGIAD (RTS2) pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ar yr adolygiad a gynhaliwyd o'r Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau – De Cymru a gynhyrchwyd yn unol â gofynion Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregau (MTAN 1).

 

Nododd y Bwrdd mai diben yr RTS2 oedd darparu strategaeth ar gyfer cyflenwi agregau adeiladu yn y dyfodol ym mhob rhanbarth (Gogledd a De Cymru) gan ystyried y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chydbwysedd y cyflenwad a'r galw a'r syniadau cyfredol am gynaliadwyedd fel y'u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd yn darparu mecanwaith ar gyfer annog rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol o fewn rhanbarth am gyfnod o 25 mlynedd ar gyfer creigiau wedi'u mathru a 22 mlynedd ar gyfer tywod a graean a gafwyd o'r tir. Roedd y ddogfen hefyd yn ystyried effaith yr egwyddor agosrwydd, capasiti amgylcheddol a nifer o ffactorau eraill yn ymwneud â chyflenwad a galw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid cymeradwyo'r Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau – De Cymru – Ail Adolygiad (RTS2).