Mater - cyfarfodydd

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I AD-DREFNU YSGOL HEOL GOFFA I SAFLE NEWYDD A CYNYDDU CAPASITI O 75 I 120

Cyfarfod: 21/12/2020 - Cabinet (eitem 7)

7 RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I AD-DREFNU YSGOL HEOL GOFFA I SAFLE NEWYDD A CYNYDDU CAPASITI O 75 I 120 pdf eicon PDF 462 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gan i'r Cynghorydd L.D. Evans ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

Yn unol â chofnod 11 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2019, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ar ganlyniad yr ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd rhwng 21 Medi 2020 a 1 Tachwedd 2020 ynghylch y cynigion i adleoli Ysgol Heol Goffa i safle newydd a chynyddu nifer ei lleoedd o 75 i 120.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wedi cael cyfle i roi sylwadau ar yr adroddiad yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020, lle'r oedd wedi penderfynu argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi.

 

Petai'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno i gyhoeddi Hysbysiad Statudol, adroddwyd mai'r bwriad oedd gwneud hynny ar 11 Ionawr 2021. Wedi hynny, byddai adroddiad sy'n crynhoi unrhyw wrthwynebiadau a gafwyd gan randdeiliaid yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant, i'r Bwrdd Gweithredol ac, yn y pen draw, i'r Cyngor i wneud penderfyniad yn ei gylch.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1

nodi'r sylwadau a gafwyd ac ymatebion yr Awdurdod Lleol yn dilyn y broses ymgynghori;

7.2

bod Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig yn cael ei gyhoeddi.