Mater - cyfarfodydd

PROPOSAL TO SHORTEN THE INTERNAL SCHOOL ORGANISATION DECISION MAKING AND DETERMINATION PROCESS

Cyfarfod: 13/01/2021 - Cyngor Sir (eitem 7)

7 CYNNIG I LEIHAU'R BROSES BENDERFYNU FEWNOL YNGHYLCH TREFNIADAETH YSGOLION pdf eicon PDF 424 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 21 Rhagfyr 2020 (gweler cofnod 6), wedi ystyried adroddiad ar gynigion i fyrhau'r Broses Fewnol bresennol o Benderfynu ar Drefniadaeth Ysgolion wedi iddi gael ei chymeradwyo gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant ym mis Medi 2018.  Datblygwyd y cynnig presennol mewn ymateb i effaith y pandemig Covid-19 ar waith y Tîm Moderneiddio Darpariaeth Addysg a'r oedi o tua 6 mis a fu yn ei raglen waith o ganlyniad.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant wrth y Cyngor petai'n mabwysiadu argymhelliad y Bwrdd Gweithredol byddai'n golygu dileu ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant o Gamau 2 a 3 y broses ar y sail bod y Bwrdd Gweithredol yn gallu cymeradwyo Cam 2 a bod y Cyngor Sir yn gallu cymeradwyo Cam 3.  Pe bai hyn yn cael ei fabwysiadu, byddai'r broses ymgynghori yn cymryd tua 2 fis yn llai. Y broses newydd wedyn fyddai:-

 

Cam 1 – Y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant a'r Bwrdd Gweithredol

Cam 2 – Y Bwrdd Gweithredol

Cam 3 – Y Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor

 

Nodwyd bod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wedi cymeradwyo'r cynnig yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

"Y dylid cymeradwyo'r cynnig i fyrhau'r Broses Fewnol o Benderfynu ar Drefniadaeth Ysgolion ac y dylid dileu'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant o Gamau 2 a 3 o'r broses ymgynghori”.


Cyfarfod: 21/12/2020 - Cabinet (eitem 6)

6 CYNNIG I LEIHAU'R BROSES BENDERFYNU FEWNOL YNGHYLCH TREFNIADAETH YSGOLION pdf eicon PDF 424 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a fanylai ar gynigion i fyrhau'r Broses Fewnol bresennol o Benderfynu ar Drefniadaeth Ysgolion wedi iddi gael ei chymeradwyo gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant ym mis Medi 2018. Datblygwyd y cynnig presennol mewn ymateb i effaith y pandemig Covid-19 ar waith y Tîm Moderneiddio Darpariaeth Addysg a'r oedi o tua 6 mis a fu yn ei raglen waith o ganlyniad.

 

Er bod y tîm bellach wrthi'n ymgymryd â'r holl waith a gynlluniwyd cyn y pandemig o fewn amserlen mor agos â phosibl at y gwreiddiol, adroddwyd bod yna broblem yn ymwneud â datblygiad cynigion i ad-drefnu ysgolion. Fel y cyfryw, ystyriwyd lleihau'r Broses Fewnol o Benderfynu ar Drefniadaeth Ysgolion er mwyn helpu'r tîm i ail-flaenoriaethu'r ymgynghoriadau gofynnol mewn modd effeithiol ac amserol.

 

Er mwyn cyflawni'r lleihad hwnnw, cynigiwyd bod ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn cael ei ddileu o Gamau 2 a 3 y broses ar y sail bod y Bwrdd Gweithredol yn gallu cymeradwyo Cam 2 a bod y Cyngor Sir yn gallu cymeradwyo Cam 3. Pe bai hyn yn cael ei fabwysiadu, byddai'r broses ymgynghori yn cymryd tua 2 fis yn llai. Y broses newydd wedyn fyddai:-

 

Cam 1 – Y Pwyllgor Craffu: Addysg a Phlant a'r Bwrdd Gweithredol

Cam 2 – Y Bwrdd Gweithredol

Cam 3 – Y Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor

 

Nododd y Bwrdd fod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wedi cymeradwyo'r cynnig yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020 ac argymhellodd fod y Bwrdd Gweithredol yn diwygio'r broses ar gyfer datblygu cynigion ac ymgynghoriadau statudol fel y nodir yn yr adroddiad h.y. dileu'r ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yng Nghamau 2 a 3 o'r Broses Fewnol o Benderfynu ar Drefniadaeth Ysgolion.

 

Cyfeiriwyd at y siart llif enghreifftiol a oedd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad ac at y ffaith y dylid cynnwys yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant wrth y Bwrdd fod hyn yn digwydd fel mater o drefn ond byddai'n sicrhau bod y siart yn cael ei newid yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid cymeradwyo'r cynnig i fyrhau'r Broses Fewnol o Benderfynu ar Drefniadaeth Ysgolion ac y dylid dileu'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant o Gamau 2 a 3 o'r broses ymgynghori.