Mater - cyfarfodydd

COUNCIL TAX REDUCTION SCHEME 2021-22

Cyfarfod: 13/01/2021 - Cyngor Sir (eitem 5)

5 CYNLLUN LLEIHAU TRETH Y CYNGOR 2021-22. pdf eicon PDF 554 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22 a chafodd wybod bod Llywodraeth San Steffan, yn 2013, wedi creu cynllun lleol yn lle Cynllun Budd-dal y Dreth Gyngor cenedlaethol. Dywedwyd, yn dilyn y newid hwnnw, bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun safonol yn 2013/14 a chynllun unffurf (gyda mân newidiadau) i Gymru gyfan yn y blynyddoedd dilynol, er bod hynny'n cynnwys ychydig o feysydd lle roedd awdurdodau lleol yn gallu arfer eu disgresiwn yn lleol fel y nodir yn yr adroddiad.  Er bod y cynllun wedi'i sefydlu ar sail Cymru gyfan, roedd yn ofynnol yn ôl y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig fod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn ffurfiol erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn.

 

Ers i'r cynllun gael ei gyflwyno, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi defnyddio ei bwerau disgresiwn (yn yr un modd â'r rhan fwyaf o Awdurdodau Cymru) ac wedi diystyru'n llawn unrhyw Bensiynau Anabledd, Pensiynau Gweddwon Rhyfel a thaliadau tebyg wrth gyfrifo hawl. Pwysleisiwyd y byddai Sir Gaerfyrddin, drwy dderbyn argymhellion yr adroddiad, yn parhau i ddiystyru'r taliadau hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor ar gyfer 2021/22:

 

5.1

Yn mabwysiadu'n ffurfiol Gynllun safonol Cymru Gyfan ar gyfer Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a ddarperir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013;

 

5.2

Yn gweithredu'r ffigurau uwchraddio blynyddol (a ddefnyddir wrth gyfrifo hawl) a'r diwygiadau technegol eraill sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021, a fydd yn dod i rym ym mis Ionawr 2021 ac mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol mewn perthynas â Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a wnaed ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2021;

 

5.3

Yn parhau i arfer ei ddisgresiwn o ran elfennau disgresiynol cyfyngedig y cynllun rhagnodedig, fel y'u hamlinellir yng Nghrynodeb Gweithredol yr adroddiad.