10 GORCHYMYN DATBLYGU LLEOL - DWYRAIN CROSS HANDS PDF 517 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno Gorchymyn Datblygu Lleol yn Nwyrain Cross Hands.
Roedd yr adroddiad yn nodi bod Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands yn lleoliad cyflogaeth rhanbarthol o bwys yn Sir Gaerfyrddin ac yn rhan bwysig o Barth Twf Cross Hands. Gan ddarparu 19 erw o dir y gellir ei ddatblygu, byddai datblygiad ar y raddfa hon yn creu tua 1,000 o swyddi newydd. Mae'r galw am leoliadau diwydiannol a busnes yn Cross Hands a'r Sir yn uchel gyda chyfraddau defnydd ym mhortffolio diwydiannol y Cyngor yn gyson dros 90%.
Nodwyd bod Gorchymyn Datblygu Lleol yn rhoi cyfle i Awdurdod Cynllunio Lleol symleiddio'r broses gynllunio drwy ddileu'r angen i ddatblygwyr/ymgeiswyr gyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod ac i gyflwyno cynigion datblygu fel cais am Orchymyn Datblygu Lleol, gan ganiatáu i awdurdod weithredu'n rhagweithiol mewn ymateb i amgylchiadau lleol penodol yn ei ardal ddaearyddol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y Gorchymyn Datblygu Lleol arfaethedig yn cael ei ystyried drwy'r broses adrodd ddemocrataidd.