Mater - cyfarfodydd

CROSS HANDS REGENERATION INITIATIVES

Cyfarfod: 30/11/2020 - Cabinet (eitem 14)

MENTRAU ADFYWIO CROSS HANDS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd cyhoeddus mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na budd y cyhoedd gan y byddai datgelu cynnwys yr adroddiad yn gwanhau sefyllfa'r awdurdod mewn unrhyw ymarfer tendro dilynol ac o bosibl yn arwain at fwy o gost i gyllid cyhoeddus nag a fyddai fel arall.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mentrau adfywio parhaus yn Cross Hands gan gynnwys cymeradwyo'r estyniad i'r cytundeb Cyd-fenter presennol (rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru) hyd at 31 Mawrth 2024.  Hefyd, cymeradwyo'r gwaith o ddatblygu a darparu datblygiad cyflogaeth defnydd cymysghunan-adeiladol ar Lain 3 Safle Cyflogaeth Dwyrain Cross Hands. 

 

Er cywirdeb, nodwyd, yn adran ymgynghori'r adroddiad, y dylid nodi yr ymgynghorwyd â'r Cynghorydd A. Vaughan-Owen ac nid y Cynghorydd A. Scourfield.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

14.1 Ymestyn cytundeb presennol Cyd-fenter Cross Hands hyd at 31 Mawrth 2024 (2 flynedd o fis Mawrth 2022).

14.2 Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol  i ddatblygu'r gwaith ogyflawni prosiect Llain 3 drwy bob cam datblygu/gweithredu hyd at ei gwblhau fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Gan gynnwys awdurdod i fwrw ymlaen â'r prosiect heb neu gyda chyfraniad y Ganolfan Adeiladu Gweithredol, yn amodol ar drafodaethau cyfreithiol parhaus gyda'r Ganolfan Adeiladu Gweithredol a'u cynrychiolwyr cyfreithiol.

14.30 Bod y Pennaeth Adfywio, drwy ymgynghori â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn cael awdurdod dirprwyedig i werthu lleiniau o fewn Cyd-fenter Cross Hands yn unol â'r strategaeth werthu ac mewn cytundeb â Llywodraeth Cymru fel partner y gyd-fenter.