Mater - cyfarfodydd

I YSTYRIED APÊL GAN YMGEISYDD FKJ YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Cyfarfod: 10/11/2020 - Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. (eitem 5)

I YSTYRIED APÊL GAN YMGEISYDD F.K.J. YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol oedd yn ymwneud â'r ymgeisydd. Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, ond ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd na'i deulu.

 

Croesawodd y Cadeirydd swyddogion o wasanaethau'r Gyfraith, yr Amgylchedd ac Addysg a Gwasanaethau Plant i'r cyfarfod. Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau ysgrifenedig yr apelydd o ran gwrthod Cam 1 y Panel Adolygu i ganiatáu trafnidiaeth ysgol am ddim i F.K.J. i'r ysgol agosaf a dynodedig gan yr AALl a oedd wedi'i lleoli o fewn pellter cerdded statudol, ac felly nid oedd yn cydymffurfio â'r meini prawf a amlinellwyd ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau'r swyddogion adrannol, ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos a'r asesiad o'r llwybr cerdded posibl o gyfeiriad cartref F.K.J i'r ysgol ddynodedig.

 

PENDERFYNWYD bod yr apêl a gyflwynwyd gan F.K.J. am gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol yn cael ei chadarnhau.