9 FERSIWN ADNEUOL DRAFFT O GYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033 PDF 439 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020 (gweler cofnod 7) wedi ystyried adroddiad ar y Cytundeb Cyflawni diwygiedig a'r Diweddariad Covid-19 mewn perthynas â mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033.
Roedd y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019 wedi cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos (a gafodd ei ymestyn i 8 wythnos) ar y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuol 2018-2033 ynghyd â'i ddogfennau ategol (Asesu Rheoliadau Cynefinoedd ac Arfarniad Cynaliadwyedd) a dau Ganllaw Cynllunio Atodol drafft. Yn ogystal, roedd ymgynghoriad 3 wythnos wedi'i gynnal mewn ymateb i effaith y cyfyngiadau symud.
Roedd yr adroddiad cyfredol yn cynnwys effaith Covid 19 ar yr ymgynghoriad hwnnw a’r gwaith oedd yn mynd rhagddo o ran paratoi'r CDLl diwygiedig. Roedd hefyd yn ystyried goblygiadau'r achosion o coronafeirws ar yr amserlen ar gyfer mabwysiadu'r CDLl a'r cynnig i ddiwygio'r Cytundeb Cyflawni (a'i amserlen a’r Cynllun Cynnwys y Gymuned) cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gytuno.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:
“10.1 |
Cymeradwyo cynnydd parhaus Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018 – 2033 (a dogfennau ategol) a'r dull a amlinellir yn yr adroddiad;
|
|
||
|
10.2 |
Cymeradwyo Diwygio'r Cytundeb Cyflawni i gynnwys estyniad o 7 mis i'r amserlen a diwygiadau dilynol eraill gan gynnwys y rhai sy'n deillio o Covid-19;
|
||
|
10.3 |
Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol, cartograffig a/neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Fersiwn Ddrafft o'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo." |
||
9.4 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033 PDF 439 KB
Dogfennau ychwanegol: