Mater - cyfarfodydd

SWANSEA BAY CITY DEAL JOINT COMMITTEE AGREEMENT

Cyfarfod: 22/10/2020 - Cyngor Sir (eitem 9)

9 CYTUNDEB CYD-BWYLLGOR BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 374 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd gweithredol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020 (gweler cofnod 6) wedi ystyried adroddiad ar adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i benderfyniad Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddiwygio Cymal 5 o Atodlen 2020 o Gytundeb y Cyd-bwyllgor mewn perthynas â threfniadau Cworwm y Cyd-bwyllgor Craffu a oedd yn ymwneud â dileu Cymal 6 a'i ddisodli gyda'r canlynol:

 

“Ni fydd y Cworwm ar gyfer cyfarfodydd yn llai na 6 aelod, a rhaid iddo gynnwys o leiaf 1 aelod o bob un o'r 4 Awdurdod. Ni chaniateir i'r Cyd-bwyllgor Craffu fynd ati i graffu ar fater sy'n ymwneud â phrosiect os nad yw'r aelod sy'n cynrychioli'r Cyngor sy'n ymwneud â'r prosiect hwnnw yn bresennol yn y cyfarfod”

 

Dywedwyd cyn y gall unrhyw welliant i Gytundeb y Cyd-bwyllgor ddod i rym, byddai angen iddo gael ei ystyried yn y lle cyntaf gan y Cyd-bwyllgor ac yna ei osod gerbron pob un o'r 4 awdurdod lleol i'w ystyried a'i fabwysiadu. Yn unol â'r cytundeb hwnnw, roedd y Cyd-bwyllgor wedi ystyried y gwelliant ar 9 Gorffennaf 2020 ac roedd bellach yn cael ei gyflwyno i bob un o'r 4 awdurdod i'w cadarnhau

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 “9.1 “gymeradwyo penderfyniad Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe i'r gwelliant o ran trefniadau cworwm y Cyd-bwyllgor Craffu, fel y nodir yn yr adroddiad;

9.2   awdurdodi'r Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith i wneud gweithred o amrywiad er mwyn gweithredu'r newidiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor.”

 


Cyfarfod: 14/10/2020 - Cyngor Sir (eitem 9.3)

9.3 CYTUNDEB CYD-BWYLLGOR BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 374 KB

Dogfennau ychwanegol: