PENTRE AWEL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am bartneriaid academaidd posibl nad ydynt hyd yma wedi llofnodi memoranda cyd-ddealltwriaeth gyda'r Awdurdod. Er y byddai'r budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn yr achos hwn hyd nes i'r memoranda cyd-ddealltwriaeth gael ei lofnodi yn drech na hynny.
[NODER: Roedd y Cynghorydd A.G. Morgan wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020 (gweler cofnod 13) wedi ystyried adroddiad a oedd yn rhoi datganiad diweddaru ynghylch Pentre Awel mewn perthynas â chyflwyno achos Busnes y Fargen Ddinesig, cytundebau gyda phartneriaid academaidd a datblygiad dylunio cam 1. </AI28><TRAILER_SECTION>
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:
“Bod y Cyngor:
14.1 Cymeradwyo'r achos busnes terfynol (fel yr atodir yn atodiad 14.1) i'w gyflwyno'n ffurfiol i Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe i'w gymeradwyo i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. |
14.2 Cytuno a rhoi cymeradwyaeth i lofnodi'r Memorandwm o Ddealltwriaeth â phartneriaid academaidd. Nodi bod y trafodaethau hyn yn cyd-fynd â'r cynllunio cyffredinol ar gyfer addysg, sgiliau a hyfforddiant. |
14.3 Cymeradwyo cwblhad gwaith datblygu dyluniadau manwl ac allbynnau RIBA Cam 14.3.” |
PENTRE AWEL
Dogfennau ychwanegol: