Mater - cyfarfodydd

QUESTION BY COUNCILLOR ALUN LENNY TO COUNCILLOR EMLYN DOLE, LEADER OF THE COUNCIL

Cyfarfod: 22/10/2020 - Cyngor Sir (eitem 6)

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Yn ddiweddar, fe nododd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod bron I 700,000 o bobl wedi canfod eu hunain mas o waith rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf oherwydd Covid-19. Erbyn mis Gorffennaf fe wnaeth diweithdra godi'n uwch na 4%. Gyda'r cynllun furlough yn dod i ben ar ddiwedd y mis yma (Hydref 31) mae'n anochel y bydd diweithdra yn cynyddu eto. Ni allwn guddio rhag y gaeaf llwm sydd o'n blaenau. Felly, gyda hyn mewn golwg, a yw'r Awdurdod hwn yn hyderus bod digon o gymorth lles ar gael i'w drigolion, a bod y gefnogaeth yna ar gael yn rhwydd?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ddiweddar fod bron i 700,000 o bobl mewn sefyllfa lle roeddent yn ddi-waith rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf oherwydd Covid-19.    Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd diweithdra wedi cynyddu i fwy na 4%. Gan fod y cynllun ffyrlo yn dod i ben ar ddiwedd y mis hwn (31 Hydref), mae'n anochel y bydd diweithdra'n cynyddu eto. Rhaid derbyn ein bod yn wynebu gaeaf anodd.     Felly, o gofio hyn, a yw'r Awdurdod hwn yn hyderus bod digon o gymorth lles yn bod i'w drigolion a bod y cymorth hwn ar gael yn hwylus?”     

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

A allaf i ddiolch yn gyntaf i'r Cynghorydd Lenny am ei gwestiwn; cwestiwn rwy'n ei groesawu ar yr adeg dyngedfennol hon. Mae'n gwbl berthnasol i'r hyn rydym wedi bod yn ei wneud, yn ogystal â'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud, o ran ein rhaglen adfer ar gyfer Covid-19.  Mae'r rhaglen adfer honno yn ymateb i realiti difrifol yr effaith mae Covid-19 wedi ei chael, ac yn parhau i'w chael, ar ein heconomi a'n cymunedau, ynghyd â'r problemau bydd ein pobl yn Sir Gaerfyrddin yn eu hwynebu o ganlyniad. Rydym yn paratoi cynllun Trechu Tlodi ar hyn o bryd. Bydd llawer o'r cynllun hwnnw'n ymwneud â chymorth lles wrth gwrs. Yn ogystal â bod yn ddadansoddiad o anghenion fe fydd yn gynllun gweithredu – beth allwn ni ei wneud i wella'r sefyllfa a wynebir gan bobl, ynghyd â pha gamau mae angen i ni eu cymryd er mwyn gwneud cynnydd a chyfrannu at ddatrys y problemau gwirioneddol fydd gan gynifer o bobl.

 

Fe wyddoch mai un o fy mhenderfyniadau cyntaf fel Arweinydd oedd gwrthdroi penderfyniad fy rhagflaenydd i ddychwelyd y ddesg flaen dros dro yng nghanol tref Llanelli i D? Elwyn. Penderfynais y dylai aros yng nghanol y dref, a sefydlwyd yr Hwb yn Stryd Vaughan, gan roi cyngor a chymorth i bobl ar amryw o'n gwasanaethau Cyngor, gan gynnwys desg arian parod, cymorth tai, rhaglenni ymgysylltu â chyflogaeth, a chyfleusterau TG i helpu pobl sy'n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth, addysg, prentisiaethau a gwirfoddoli. Daw cannoedd o bobl drwy'r drysau bob wythnos gan helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref. Ers hynny mae cyfleuster Hwb tebyg wedi'i sefydlu yng nghanol tref Rhydaman ac yn ein swyddfeydd yn Heol Spilman yng Nghaerfyrddin.

 

Mae nifer o gynlluniau cymorth cyflogadwyedd yn cael eu darparu yn Sir Gaerfyrddin, ac mae rhai ohonynt yn cael eu darparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, gydag eraill yn cael eu cydgysylltu gan Gyrfa Cymru o dan borth Cymru'n Gweithio.  Dau o'r cynlluniau rydym yn eu darparu yw Gweithffyrdd + a Chymunedau am Waith.

 

Nod Gweithffyrdd + yw gwella cyflogadwyedd Pobl Economaidd Anweithgar a Phobl Ddi-waith yn y Tymor Hir/Tymor Byr sy'n 25 oed a h?n ac sy'n wynebu rhwystrau cymhleth o ran cyflogaeth.  Mae Tîm Gweithffyrdd + yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin gyfan ac wedi'i leoli yn y Canolfannau Hwb yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.  Bydd pob cyfranogwr yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6


Cyfarfod: 14/10/2020 - Cyngor Sir (eitem 6.1)

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Yn ddiweddar, fe nododd y SwyddfaYstadegauGwladolfodbroni 700,000 o bobl wedicanfodeuhunain mas o waithrhwng mis Mawrth a mis GorffennafoherwyddCovid-19.  Erbyn mis Gorffennaf fe wnaeth diweithdra godi'n uwch na 4%.  Gyda'rcynllun furlough yndod i ben ar ddiwedd y mis yma (Hydref 31) mae'nanochel y bydddiweithdrayncynyddu eto. Ni allwnguddiorhag y gaeafllwm sydd o'nblaenau.  Felly, gyda hynmewngolwg, a yw'rAwdurdodhwnynhyderus bod digon o gymorthllesargaeli'wdrigolion, a bod y gefnogaeth yna argaelynrhwydd?”

Dogfennau ychwanegol: