8 ADOLYGIAD BLYNYDDOL O'R CYFANFSODDIAD PDF 423 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Er mwyn cydymffurfio â Deddfau Llywodraeth Leol 1972 a 2000, a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, mae'n ofynnol i'r Cyngor adolygu ei Gyfansoddiad yn flynyddol ac felly sefydlodd y Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad i gyflwyno argymhellion ar gyfer newid cyfansoddiadol.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwelliannau fel yr argymhellwyd gan y Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad sy'n diweddaru Cyfansoddiad y Cyngor. Bu'r Cyngor yn ystyried y gwelliannau fel y dangosir yn yr adroddiad ac amlygwyd y canlynol yn ei atodiadau:-
Pwyllgorau Craffu Erthygl 6
Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, Rhan 4.1
Rheolau'r Weithdrefn Graffu, Rhan 4.5
Protocol ar gyfer Cyfathrebu ag Aelodau Etholedig, Rhan 5.6
penderfynwyd:
8.1 Cymeradwyo a mabwysiadu argymhellion canlynol Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad yn dilyn ei adolygiad blynyddol o'r Cyfansoddiad:-
a) Diwygio Erthygl 6 o'r Cyfansoddiad i ddiweddaru a 'thacluso' Meysydd Gorchwyl Craffu (yn unol ag argymhelliad Swyddfa Archwilio Cymru o ran gwneud Gwaith Craffu yn 'Addas at y Dyfodol')
b) Tynnu'n ôl y dirprwyaethau a roddwyd i'r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith yn y Cynllun Dirprwyo i Swyddogion (nad ydynt erioed wedi'u harfer ganddynt) gyda golwg ar roi'r swyddogaeth i'r Bwrdd Gweithredol (Rhan 3 Tabl 4 Cyfrifoldeb am Swyddogaethau a Rhan 3. 2 Cynllun Dirprwyo i Swyddogion)
c) Diweddaru Rheolau Gweithdrefn y Cyngor (Rhan 4.1) i nodi trefn agenda ddiwygiedig ar gyfer cyfarfodydd cyffredin y Cyngor ac i adlewyrchu presenoldeb o bell.
d) Diweddaru Rheolau'r Weithdrefn Graffu (Rhan 4.5) i adlewyrchu cyngor y Ganolfan Craffu Cyhoeddus y dylai Aelodau'r Bwrdd Gweithredol fynychu eu Pwyllgor Craffu priodol i gyflwyno eu hadroddiadau a chael eu dwyn i gyfrif.
e) Diweddaru Rhan 5.6 - Protocol ar gyfer cyfathrebu ag aelodau etholedig i adlewyrchu penderfyniad y Cyngor i gynnal cyfarfodydd di-bapur.
8.2 Bod y Swyddog Monitro yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw fân newidiadau, cywiro gwallau teipio neu wallau drafftio a sicrhau bod yr holl groesgyfeiriadau yn y Cyfansoddiad yn gywir ac y rhoddir gwybod am y rhain i Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad pan fydd angen.
8.3 Bod Cyfansoddiad y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn cael ei fabwysiadu, yn amodol ar argymhellion 8.3 a nodir uchod.
8. ADOLYGIAD BLYNYDDOL O'R CYFANFSODDIAD PDF 423 KB
Dogfennau ychwanegol: