10 ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2019-2020 PDF 109 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Fel rhan o ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ar gyfer Rheoli'r Trysorlys, rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth ar gyfer 2019-20.
Mabwysiadodd y Cyngor Bolisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r rhaglen gyfalaf bum mlynedd ar gyfer 2019-20 ar 20 Chwefror 2019. Rhestrodd yr adroddiad blynyddol y gweithgareddau a gynhaliwyd yn 2019-20.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR dderbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodaeth ar gyfer 2019/20.