Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR

Cyfarfod: 21/09/2020 - Cabinet (eitem 8)

8 ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2020, o ran 2020/2021. Roedd y sefyllfa gyllidebol yn cydnabod y pwysau ychwanegol sylweddol a roddwyd ar yr Awdurdod wrth ymateb i bandemig Covid-19.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £7,400k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £8,000k ar lefel adrannol.

 

Tynnwyd sylw’r Bwrdd Gweithredol at y ffaith nad oedd y rhagolwg yn cynnwys unrhyw lwfans ar gyfer gostyngiad yng nghasgliad y Dreth Gyngor ac roedd hyn yn cael ei fonitro’n agos gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod yr Awdurdod yn cyflwyno hawliad caledi misol i Lywodraeth Cymru am wariant Covid-19 ychwanegol. Roedd y rhan fwyaf o'r costau'n cael eu had-dalu, er bod rhai yn cael eu hystyried yn anghymwys ac nid oedd yn glir pa mor hir y byddai'r dull cyllido yn parhau.

Yng ngoleuni'r gorwariant sylweddol a ragwelwyd ar lefel adrannol, gofynnwyd i Brif Swyddogion a Phenaethiaid Gwasanaeth adolygu'r opsiynau a oedd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau yr oedd Covid-19 wedi'i roi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

8.1       Derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol.

8.2       Bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau y mae Covid-19 wedi'i roi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.