Mater - cyfarfodydd

TO RECEIVE THE LEADER OF THE COUNCIL’S ANNUAL REPORT 2019-20

Cyfarfod: 10/06/2020 - Cyngor Sir (eitem 6)

6 DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR 2019-20 pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd ei bumed Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor yn cwmpasu'r cyfnod 2019/20 ac edrychodd yn ôl ar gyflawniadau'r Cyngor dros y 12 mis blaenorol (yr oedd copïau ohonynt wedi eu rhoi i'r Cynghorwyr cyn y cyfarfod). Dywedodd er nad oedd yn bwriadu mynd drwy'r adroddiad yn fanwl, y byddai'n hoffi tynnu sylw at gyflawniadau canlynol y Cyngor dros y flwyddyn (gan gynnwys cyflwyniad fideo) cyn rhoi sylwadau ar effaith pandemig Covid 19 ar y Sir a graddfa ac ymateb y Cyngor i hynny.

 

Bu'r Cyngor yn gwylio'r fideo.

 

Atgoffodd yr Arweinydd y Cyngor mai dim ond blwyddyn yn ôl y cynhaliwyd cymal olaf Taith Merched OVO pan ddaeth miloedd o bobl i sefyll ar strydoedd y sir i annog y beicwyr yn eu blaenau ar eu ras 79 milltir drwy Sir Gaerfyrddin. Roedd cynnal y ras wedi rhoi cyfle i arddangos golygfeydd hardd y sir a'r croeso cynnes sy'n aros i'r rheiny sy'n ymweld â'r sir. Roedd y Cyngor hefyd wedi neilltuo £20,000 ar gyfer ei Gynllun Cymorth Digwyddiadau er mwyn i sefydliadau a grwpiau cymunedol gynnal eu digwyddiadau eu hunain. Roedd y rheiny'n cynnwys wythnos G?yl Dewi Sant Caerfyrddin, G?yl Ddefaid Llanymddyfri, Pride Llanelli a G?yl Canol Dre.

 

Roedd yn ystyried mai un o'r cyflawniadau y gallai'r Cyngor ymfalchïo fwyaf ynddo yn ystod y flwyddyn oedd yr Adroddiad "Symud Sir Gaerfyrddin Ymlaen". Roedd dros 60% o boblogaeth y Sir yn byw yn ei hardaloedd gwledig ac roedd gan y Cyngor bortffolio penodol i gynrychioli anghenion y bobl hynny. Roedd Menter y Deg Tref Wledig yn amlinellu'r weledigaeth strategol hirdymor ar gyfer adfywio cymunedau gwledig y sir drwy sicrhau cynaliadwyedd economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol i'r trefi hynny h.y. Llanymddyfri, Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf, Castellnewydd Emlyn, Talacharn, Cwmaman, Llanybydder, Cydweli, Llandeilo a Cross Hands. Fodd bynnag, yn wyneb Covid-19 sylweddolwyd yn fwy nag erioed fod yr angen i edrych yn lleol, ac wrth gefnogi a datblygu'r economi honno, byddai'r sir yn dod hyd yn oed yn fwy cydnerth a chadarn.

 

Byddai Cynlluniau'r Cyngor i gynyddu ei stoc dai ar draws y Sir hefyd yn cefnogi'r strategaeth wledig. Dros y pum mlynedd nesaf roedd y Cyngor wedi ymrwymo i fuddsoddi £150 miliwn i adeiladu 900 o dai cyngor newydd ar draws y sir, gyda llawer o'r rheiny mewn ardaloedd gwledig lle mae prinder tai wedi bod ers blynyddoedd lawer. Roedd gwaith hefyd ar y gweill ym Mhen-bre a'r Bryn, Llanelli i adeiladu 300 o gartrefi cyn 2022 ac er bod y gwaith wedi'i atal ar ddechrau'r cyfyngiadau symud roedd y safleoedd hyn yn dechrau ailagor ac roedd y gwaith wedi ailddechrau.

 

Roedd yr Awdurdod wedi adnewyddu ei ymrwymiad i newid yn yr hinsawdd, gan ddod yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu newid yn yr hinsawdd, sy'n amlinellu sut y byddai'n carbon sero-net erbyn 2030. Roedd y cynllun yn uchelgeisiol ac roedd y Cyngor wedi ymrwymo i'w lwyddiant. Roedd fflyd sy'n fwy ynni-effeithlon yn cael ei brynu, ac roedd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6