Mater - cyfarfodydd

ELECTION OF CHAIR OF THE COUNCIL FOR THE 2021-22 MUNICIPAL YEAR

Cyfarfod: 10/06/2020 - Cyngor Sir (eitem 4)

ETHOL CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR2020-21.

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd K. Madge ac eiliwyd gan y Cynghorydd L.M. Stephens a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd I.W. Davies yn cael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2020/21.

 

Mynegodd y Cynghorydd K. Madge ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Davies ar gael ei ethol gan ddweud, oherwydd rheolau cadw pellter cymdeithasol, ni allai gyflwyno'r Gadwyn Swyddogol i'r Cynghorydd Davies yn bersonol, ond trefnwyd bod y gadwyn yn cael ei hanfon i'w gartref.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ieuan Davies ei ddatganiad yn derbyn y swydd, ac arwisgodd y Gadwyn Swyddogol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Davies ei ddiolch i'r holl Gynghorwyr am eu cefnogaeth wrth ei benodi'n Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ac roedd yn edrych ymlaen at ei flwyddyn yn y swydd yn cynrychioli'r Cyngor ac yn cyfarfod â phobl pan fyddai'r cyfyngiadau symud presennol yn cael eu llacio.  Talodd y Cynghorydd Davies deyrnged hefyd i Gadeirydd y llynedd sef, y Cynghorydd K. Madge

 

Rhoddwyd teyrngedau hefyd i Gadeirydd y llynedd gan Arweinyddion Gr?p Plaid Cymru, y Blaid Annibynnol, Gr?p Llafur, a'r Gr?p Annibynnol Newydd am y gwasanaeth rhagorol yr oedd wedi'i roi i'r Cyngor yn ystod ei flwyddyn yn y swydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am eu holl eiriau caredig gan ddweud, oherwydd y rheolau cadw pellter cymdeithasol, ni fyddai'r Gadwyn Swyddogol yn cael ei chyflwyno i'w Gydymaith (Mrs Sue Allen) y diwrnod hwnnw. Y gobaith oedd trefnu digwyddiad seremonïol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

 

Yn ogystal talodd y Prif Weithredwr deyrnged ar ran staff yr Awdurdod i Gadeirydd y llynedd, a'i Gydymaith (Cynghorydd Kevin Madge a Mrs Catrin Madge) a oedd wedi cyflawni'r rôl mewn modd proffesiynol dros ben gan fod yn hynod o gefnogol i waith y Cyngor. Mynegodd ei llongyfarchiadau i'r Cadeirydd a'i Gydymaith a oedd newydd gael eu hethol (y Cynghorydd Ieuan Davies a Mrs Sue Allen) ar eu penodiad.  Cyfeiriodd hefyd at natur y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni fel un o nifer o brofiadau newydd, a dywedodd er bod y rhai a fyddai fel rheol yn y Siambr heddiw i ddymuno'n dda i'r Cadeirydd yn methu â gwneud hynny, roeddent wedi mynd ati i roi eu dymuniadau gorau at ei gilydd ar fideo.

 

Bu'r Cyngor yn gwylio'r fideo.

 

Dymunodd y Prif Weithredwr flwyddyn hapus a llwyddiannus iawn i'r Cadeirydd yn ei swydd.