4 RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO. PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
4.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
S/38282 |
Bwriad i adeiladu Ysgol Cyfrwng Cymraeg ar gyfer 174 o ddisgyblion a Meithrinfa ar gyfer 30 o blant sy'n cynnwys mynediad cysylltiedig, maes parcio, cae chwaraeon, maes chwarae amlddefnydd a gwaith seilwaith a thirlunio cysylltiedig. Ar dir i'r dwyrain o Barc Pendre, Cydweli, SA17 4AJ
(NODER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd J. Gilasbey y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.)
|
S/39961 |
Estyniad deulawr arfaethedig ac addasu garej yn rhannol yn 14 Llys Cilsaig, Dafen, Llanelli, SA14 8QT
|
4.2 PENDERFYNWYD y dylid derbyn y rhesymau gwrthod, yn seiliedig ar y rhesymau a ddarparwyd gan y Pwyllgor Cynllunio ar 11 Chwefror 2020, a nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio: -
S/39358 |
Newid defnydd yr eiddo o breswylfa dosbarth C3 i Gartref Preswyl Plant dosbarth C2 yn 2 Erw Las, Llwynhendy, Llanelli, SA14 9SF
(NODER: Nid oedd y Cynghorwyr D. Cundy, C. Jones, D. Jones, A. Lenny, D. Phillips a G.B. Thomas ,ar ôl datgan diddordeb yn gynharach, yn bresennol yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2020, ac er iddynt aros yn y cyfarfod yn ystod y trafodaethau, ni wnaethant gymryd rhan yn y trafodaethau na phleidleisio ar benderfyniad yr adroddiad). |
4. RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol: