Mater - cyfarfodydd

CATEGORISATION.

Cyfarfod: 21/03/2018 - Pwyllgor ar y Cyd ERW (wedi'i disodli gan Y Partneriaeth) (eitem 6)

6 CATEGOREIDDIO. pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar y broses o gategoreiddio ysgolion yn rhanbarth ERW, adroddiad a oedd yn manylu ar yr hyfforddiant a roddid i'r Ymgynghorwyr Her, y prosesau cymedroli a sicrhau ansawdd, a chanlyniadau'r broses genedlaethol o gategoreiddio ysgolion, a gynhaliwyd yn nhymor yr hydref.

 

Er bod y tîm canolog, yn draddodiadol, yn ymwneud â'r broses gategoreiddio ar ddiwedd y cam sicrhau ansawdd, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y chwe Chyfarwyddwr Addysg yn ERW wedi cytuno y gallent fod yn rhan o'r broses ar gam cynharach. Roedd y broses gategoreiddio ddrafft wedi cael ei rhoi ar waith ym mis Gorffennaf 2017, ac wedi cael ei chwblhau ar ddiwedd mis Rhagfyr 2017. Er bod ERW yn gweithio gyda'r tri chonsortiwm addysg arall yng Nghymru i sicrhau cysondeb wrth gymedroli, dywedodd ei bod yn debygol y byddai newidiadau'n cael eu cyflwyno yn y dyfodol mewn perthynas â chategoreiddio a hunanwerthuso, a bod trafodaethau ynghylch hynny yn mynd rhagddynt yn genedlaethol. Fodd bynnag, roedd cynigion cadarn yn yr arfaeth mewn perthynas â hynny.

 

Cadarnhaodd Mr Vincent fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Estyn i ddatblygu fframwaith hunanwerthuso cenedlaethol a chyflwyno amrywiaeth newydd o ddangosyddion perfformiad; disgwylid y byddai fframwaith drafft yn cael ei gynhyrchu erbyn mis Medi 2018, ac y byddai mesurau perfformiad dros dro yn cael eu cyflwyno yn ystod 2019. Cadarnhaodd y byddai'n barod i gyflwyno adroddiad ar yr adborth a gafwyd ar y cynigion hynny mewn cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor yn y dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at ddiben cychwynnol y broses gategoreiddio, sef nodi'r cymorth yr oedd ar ysgolion ei angen i sicrhau gwelliannau, yn hytrach na bod yn offeryn i nodi ysgolion gwael. Felly, roedd yn bwysig bod y neges yn cael ei chyfleu i rieni nad oedd yr ysgolion a gategoreiddiwyd yn rhai Coch neu Ambr yn ysgolion a oedd yn methu, ond yn hytrach yn ysgolion yr oedd arnynt angen cymorth ychwanegol i sicrhau gwelliant parhaus.

 

Cyfeiriwyd at y broses gategoreiddio ac at yr ysgolion hynny yn y rhanbarth a oedd wedi'u nodi'n ysgolion yr oedd arnynt angen cymorth. Mynegwyd y farn bod angen i adroddiad gael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor, a oedd yn manylu ar y broses ymyrryd a lefelau'r ymyrraeth a oedd ar gael i ERW a'r Awdurdodau Addysg.

 

CYTUNWYD:

 

6.1

y dylid derbyn yr adroddiad ar y broses gategoreiddio;

6.2

y dylid cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor a oedd yn manylu ar y broses ymyrryd a lefelau'r ymyrraeth a oedd ar gael i ERW a'r Awdurdodau Addysg.