Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd Cynllun Busnes drafft ERW ar gyfer 2018-21 i'r Cyd-bwyllgor ei ystyried. Roedd y Cynllun Busnes hwn yn cynnwys yr holl flaenoriaethau strategol a fyddai'n arwain gwaith y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol, yn ogystal â'r blaenoriaethau a nodwyd gan bob un o'r chwe Awdurdod Lleol, ac roedd yn gyson â Chenhadaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod angen i ragor o waith gael ei wneud ar y ddogfen, gan roi ystyriaeth i'r trefniadau cyllido newydd, deilliannau, a'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau lleol yn ogystal â Phum Blaenoriaeth Cenhadaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru.
Wrth ymateb i gwestiwn am y gwaith o gyd-adeiladu'r Model Cenedlaethol, cadarnhawyd mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am gysylltu â Phrif Weithredwyr Arweiniol a Rheolwyr Gyfarwyddwyr y pedwar consortiwm rhanbarthol, ynghyd â CLlLC. Rhagwelwyd y byddai'r fersiwn ddrafft gyntaf yn cael ei chwblhau yn y dyfodol agos; byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn dilyn hynny, gan ddilyn yr un patrwm, yn fras, â'r hyn a fabwysiadwyd ar gyfer y model cenedlaethol cyfredol.
Cyfeiriwyd at y diffyg manylder yn y cynllun busnes mewn perthynas â chynlluniau cyflawni a gweithredu, ynghyd â'r angen i sicrhau bod y meysydd hynny'n cael eu nodi mewn unrhyw fersiwn ddrafft ddiwygiedig cyn iddi gael ei chyflwyno i'r Cyd-bwyllgor.
CYTUNWYD y dylid ailysgrifennu Cynllun Busnes drafft ERW ar gyfer 2018-2021.