Y RHAGLEN ADOLYGU A DIWYGIO.
Cofnodion:
Atgoffodd y Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor am ei benderfyniad blaenorol i sefydlu tîm prosiect i fynd ati i adolygu a diwygio ERW. Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, er bod ERW yn ymwybodol o'r adolygiad cyfredol o'r Model Cenedlaethol, a allai effeithio ar y rhaglen adolygu a diwygio, dywedodd y byddai'r Papur Gwyrdd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru ynghylch y bwriad i leihau nifer yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru i 10, yn golygu goblygiadau ychwanegol o ran y diwygio hwnnw. Fodd bynnag, nodwyd bod y Gweinidog, yn rhan o'r cyhoeddiad hwnnw, wedi nodi bod disgwyl i'r trefniadau cydweithredu presennol barhau.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Arweiniol hefyd at lythyr, a ddosbarthwyd yn y cyfarfod, gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a oedd yn gofyn am adroddiad cynnydd ar gynlluniau ERW ar gyfer gwella Trefniadau Llywodraethu yn y dyfodol a sicrhau bod strwythurau addas ar waith i'w alluogi i ymateb i Argymhellion Estyn, ac ar y gwaith o baratoi cynllun gweithredu. Dywedodd y byddai cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet yn cael ei gynnal ar 24 Ebrill 2018, a bod sylwadau'r Cyd-bwyllgor yn cael eu ceisio ynghylch y materion i'w codi.
Wrth roi sylw i'r mater, roedd y Cyd-bwyllgor wedi ystyried yr angen i amlygu'r cynnydd a oedd yn cael ei wneud o ran cyfeiriad ERW ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys darparu enghreifftiau o arfer gorau a thystiolaeth o'r modd yr oedd yn bwriadu gwella sgiliau a deilliannau'r dysgwyr.
Atgoffodd y Prif Weithredwr Arweiniol y Cyd-bwyllgor ei fod wedi cytuno'n flaenorol fod angen cynnal cyfarfod i drafod y fethodoleg ar gyfer dosbarthu grantiau ar gyfer 2018-19, ac awgrymodd y dylid cyflwyno adroddiad yn y cyfarfod hwnnw, pe byddai mod, yn amlinellu'r pwyntiau arfaethedig i'w cyflwyno i'r Ysgrifennydd Cabinet ar 24 Ebrill.
CYTUNWYD y dylid derbyn y diweddariad.