Cofnodion:
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Ms Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, a Ms Joanna Dainton, Pennaeth Datblygu Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol y Bwrdd Cynllunio Ardal, a oedd yn rhoi sylw i ystod o feysydd, er mwyn rhoi gwybodaeth i aelodau a'u diweddaru o ran y trefniadau comisiynu presennol a'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a ddarperir. Roedd yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
·
yr amcanion strategol mewn
perthynas â darparu gwasanaethau o'r fath, y trefniadau
cyllido, a'r gwasanaethau/prosiectau a gomisiynir;
· datblygiadau lleol a chadarnhad o'r trefniadau llywodraethu a chynllunio sydd ar waith yn rhanbarthol.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y cyflawniadau a wnaed yn 2017, a oedd yn cynnwys dosbarthu 397 o gitiau Naloxone. Gofynnwyd pwy oedd wedi derbyn cit Naloxone. Yn ogystal, dywedwyd y gallai codi ymwybyddiaeth o Naloxone a'i ddiben fod yn fuddiol. Gellid cyflawni hyn drwy gynnal y sioe deithiol ynghylch Naloxone ar draws y sir a darparu hyfforddiant i'r rheiny sy'n goruchwylio drysau tafarnau/clybiau. Esboniodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod Naloxone yn feddyginiaeth a ddefnyddir i atal effeithiau opioidau, yn arbennig mewn achosion gorddos a bod citiau wedi'u dosbarthu'n eang. Roedd yn cydnabod y byddai codi ymwybyddiaeth yn fuddiol ac y byddai hi'n ystyried ehangu'r rhaglen hyfforddiant yn y dyfodol. Ychwanegodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) fod Naloxone eisoes yn cael ei ddosbarthu'n eang ar draws ardal Hywel Dda.
·
Codwyd pryder mawr o ran
nifer gynyddol y bobl ifanc sydd â phroblemau mewn perthynas
ag alcohol a chyffuriau, a'r amcan yw cael gwared ar broblemau yn
hytrach na'u cuddio. Roedd Cyfarwyddwr
Iechyd y Cyhoedd yn cydnabod bod hwn yn faes heriol a bod ymchwil
yn cael ei wneud yn barhaus i sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn
cael eu comisiynu. Roedd y Bwrdd
Cynllunio Ardal yn cynnwys aml-asiantaethau, y mae pob un ohonynt
â chyfrifoldeb i fynd i'r afael â chymhlethdod y
materion sy'n codi. Mae'r gwasanaethau
triniaeth integredig sy'n darparu dull cyfannol a gr?p deuol sy'n
cefnogi ac yn llywio materion heriol o ran iechyd meddwl a
chaethiwed.
Yn ogystal, esboniodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd i'r Pwyllgor fod
gwybodaeth newydd wedi dangos nad yw dibyniaeth ar alcohol yn
gyfyngedig i bobl ifanc, roedd yn effeithio ar ystod eang o
oedrannau gan gynnwys grwpiau o oedran h?n. Addysg, atal ac
ymyrraeth gynnar oedd y prif feysydd a gafodd sylw gan y Bwrdd, a oedd yn hanfodol er mwyn
lleihau dibyniaeth ar alcohol.
Ychwanegodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a
Phartneriaeth y byddai'r Bwrdd Cynllunio Ardal yn ymgymryd ag
ymarferion i gomisiynu gwasanaethau yn y sector addysg mewn
ysgolion a cholegau.
· O ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r 5 ffordd o weithio, gofynnwyd a oedd unrhyw gydweithio â'r trydydd sector a chymunedau? Dywedodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth fod Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, sy'n wasanaeth i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6