Mater - cyfarfodydd

AREA PLANNING BOARD'S DRUG & ALCOHOL MISUSE ANNUAL REPORT 2016/17

Cyfarfod: 21/05/2018 - Cyd-Gyfarfod o'r Pwyllgorau Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd & Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 6)

6 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD CYNLLUNIO RHANBARTHOL YNGHYLCH CAMDDEFNYDDIO CYFFURIAU AC ALCOHOL 2017 pdf eicon PDF 450 KB

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Ms Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, a Ms Joanna Dainton, Pennaeth Datblygu Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol y Bwrdd Cynllunio Ardal, a oedd yn rhoi sylw i ystod o feysydd, er mwyn rhoi gwybodaeth i aelodau a'u diweddaru o ran y trefniadau comisiynu presennol a'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a ddarperir. Roedd yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

 

·       yr amcanion strategol mewn perthynas â darparu gwasanaethau o'r fath, y trefniadau cyllido, a'r gwasanaethau/prosiectau a gomisiynir;

·       datblygiadau lleol a chadarnhad o'r trefniadau llywodraethu a chynllunio sydd ar waith yn rhanbarthol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y cyflawniadau a wnaed yn 2017, a oedd yn cynnwys dosbarthu 397 o gitiau Naloxone.  Gofynnwyd pwy oedd wedi derbyn cit Naloxone.  Yn ogystal, dywedwyd y gallai codi ymwybyddiaeth o Naloxone a'i ddiben fod yn fuddiol. Gellid cyflawni hyn drwy gynnal y sioe deithiol ynghylch Naloxone ar draws y sir a darparu hyfforddiant i'r rheiny sy'n goruchwylio drysau tafarnau/clybiau. Esboniodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod Naloxone yn feddyginiaeth a ddefnyddir i atal effeithiau opioidau, yn arbennig mewn achosion gorddos a bod citiau wedi'u dosbarthu'n eang.  Roedd yn cydnabod y byddai codi ymwybyddiaeth yn fuddiol ac y byddai hi'n ystyried ehangu'r rhaglen hyfforddiant yn y dyfodol. Ychwanegodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) fod Naloxone eisoes yn cael ei ddosbarthu'n eang ar draws ardal Hywel Dda.  

 

·       Codwyd pryder mawr o ran nifer gynyddol y bobl ifanc sydd â phroblemau mewn perthynas ag alcohol a chyffuriau, a'r amcan yw cael gwared ar broblemau yn hytrach na'u cuddio.  Roedd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn cydnabod bod hwn yn faes heriol a bod ymchwil yn cael ei wneud yn barhaus i sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn cael eu comisiynu.  Roedd y Bwrdd Cynllunio Ardal yn cynnwys aml-asiantaethau, y mae pob un ohonynt â chyfrifoldeb i fynd i'r afael â chymhlethdod y materion sy'n codi.  Mae'r gwasanaethau triniaeth integredig sy'n darparu dull cyfannol a gr?p deuol sy'n cefnogi ac yn llywio materion heriol o ran iechyd meddwl a chaethiwed.

Yn ogystal, esboniodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd i'r Pwyllgor fod gwybodaeth newydd wedi dangos nad yw dibyniaeth ar alcohol yn gyfyngedig i bobl ifanc, roedd yn effeithio ar ystod eang o oedrannau gan gynnwys grwpiau o oedran h?n. Addysg, atal ac ymyrraeth gynnar oedd y prif feysydd a gafodd sylw gan y Bwrdd, a oedd yn hanfodol er mwyn lleihau dibyniaeth ar alcohol.  Ychwanegodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth y byddai'r Bwrdd Cynllunio Ardal yn ymgymryd ag ymarferion i gomisiynu gwasanaethau yn y sector addysg mewn ysgolion a cholegau.

 

·       O ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r 5 ffordd o weithio, gofynnwyd a oedd unrhyw gydweithio â'r trydydd sector a chymunedau? Dywedodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth fod Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, sy'n wasanaeth i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6


Cyfarfod: 02/03/2018 - Cyd-Gyfarfod o'r Pwyllgorau Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd & Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 6.)

6. ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD CYNLLUNIO RHANBARTHOL YNGHYLCH CAMDDEFNYDDIO CYFFURIAU AC ALCOHOL 2017 pdf eicon PDF 450 KB