13 CYFANSODDIAD Y CYNGOR PDF 177 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi bod cyfrifoldeb ar y Cyngor yn gyfansoddiadol i fabwysiadu Cynllun Lwfansau'r Cynghorwyr ond mai Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol sy'n dynodi'r cyfansymiau i'w talu gyda'r nod o ddarparu fframwaith cenedlaethol cyson o ran cydnabyddiaeth i gynghorwyr. Roedd y Cyngor wedi ystyried newidiadau ar gyfer 2019/20 yn ystod ei gyfarfod ar 10 Ebrill 2019. Roedd copi o'r Cynllun Lwfansau a fabwysiedir gan y Cyngor ar gyfer 2019/20 a oedd wedi'i ddiwygio i'w weithredu am flwyddyn y cyngor 2019/20 wedi'i atodi i'r adroddiad er mwyn ei ystyried.
Nodwyd y dylid hefyd gynnwys enwau'r Cynghorwyr F. Akhtar, J.M. Charles a H.I. Jones ar y rhestr o aelodau sy'n gymwys i gael y taliad cyflog sylfaenol ac y dylid dileu enwau'r Cynghorwyr I.W. Davies a K. Madge.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diwygiadau i'r swyddogaethau trwyddedu er mwyn adlewyrchu argymhellion Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad ar 8 Mai 2019.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
13.1 Mabwysiadu Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2019/20 fel y manylir arno yn yr adroddiad;
13.2 Cymeradwyo unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Cyfansoddiad o ran aelodaeth a wnaed yn gynharach yn y cyfarfod;
13.3 Diwygio swyddogaethau trwyddedu - Swyddogaeth 23 - swyddogaethau Dewis Lleol Rhan 3.1 Tabl 2 yn unol â'r Polisi Trwyddedu diwygiedig a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 12 Rhagfyr 2019;
13.4 Bod y Swyddog Monitro yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw fân newidiadau, cywiro gwallau teipio neu wallau drafftio a sicrhau bod yr holl groesgyfeiriadau yn y Cyfansoddiad yn gywir ac y rhoddir gwybod am y rhain i Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad pan fydd angen;
13.5 Bod Cyfansoddiad y Cyngor ar gyfer 2019/20 yn cael ei fabwysiadu, yn amodol ar argymhellion 1-4 a nodir uchod.
12 CYFANSODDIAD Y CYNGOR PDF 207 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn cynghori, yn gyfansoddiadol, fod ganddo dros fabwysiadu Cynllun Lwfansau'r Cynghorwyr ond bellach y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol oedd yn dynodi'r cyfansymiau i'w talu gyda'r nod o ddarparu fframwaith cenedlaethol cyson o ran cydnabyddiaeth i gynghorwyr. Bu'r Cyngor yn ystyried newidiadau ar gyfer 2018/19 yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2018. Roedd copi o'r Cynllun Lwfansau a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar gyfer 2018/19 oedd wedi ei ddiwygio ar gyfer ei weithredu ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/19 ynghlwm wrth yr adroddiad i'w ystyried.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diwygiadau ychwanegol er mwyn adlewyrchu argymhellion Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad yn ystod ei gyfarfodydd a gynhaliwyd ar 12 Chwefror a 20 Ebrill 2018.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
12.1 Diwygio Rhan 4.1 o'r Cyfansoddiad i egluro bod angen cynigydd ac eilydd ar gyfer Rhybuddion o Gynnig a chaniatáu i Rybuddion o Gynnig gael eu cyflwyno'n electronig. (RhGC 12.1);
12.2 Mabwysiadu'r Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2018/19 (Rhan 6.1) yn amodol ar gynnwys y canlynol:-
a) bod Cadeirydd y Cyngor, Arweinydd a Dirprwy Arweinydd yr Wrthblaid a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu perthnasol yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol (Adran 4.5 - Dyletswyddau Cymeradwy);
b) bod Cynghorydd yn mynychu cyfarfodydd neu ddigwyddiadau y mae'r Cynghorydd wedi’i benodi neu wedi’i enwebu'n ffurfiol gan y Cyngor i'w mynychu mewn rôl Hyrwyddwr neu Lysgennad e.e. Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Llysgennad Anabledd ac ati (Adran 4.5 – Dyletswyddau Cymeradwy);
c) Disgrifiad o rôl Llysgennad/Hyrwyddwr (Atodiad D);
12.3 Cymeradwyo unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Cyfansoddiad o ran aelodaeth a wnaed yn gynharach yn y cyfarfod;
12.4 bod y Swyddog Monitro yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw fân newidiadau, cywiro gwallau teipio neu wallau drafftio a sicrhau bod yr holl groesgyfeiriadau yn y Cyfansoddiad yn gywir ac y rhoddir gwybod am y rhain i Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad pan fydd angen;
12.5 yn amodol ar 12.1 – 12.4 uchod, bod Cyfansoddiad y Cyngor yn cael ei fabwysiadu ar gyfer 2018/19.