Mater - cyfarfodydd

TO RECEIVE THE LEADER OF THE COUNCIL’S ANNUAL REPORT AND FORWARD WORK PROGRAMME.

Cyfarfod: 15/05/2019 - Cyngor Sir (eitem 9)

9 DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR 2018-19 pdf eicon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2018-2019, a oedd yn edrych yn ôl ar lwyddiannau'r Cyngor dros y 12 mis diwethaf. 

 

Hwn oedd pedwerydd Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd ac roedd wedi bwrw golwg yn ôl ar yr hyn a ystyriai yn amser prysur iawn i bawb, gan y cynhawliwyd llawer o ddigwyddiadau a gwnaed cynnydd a newidiadau, yn enwedig o ystyried ansicrwydd Brexit a oedd wedi creu ansefydlogrwydd gwleidyddol ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol. Er gwaethaf hyn mynegodd falchder bod yr arweinyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin, rhwng Gr?p Plaid Cymru a'r Gr?p Annibynnol, yn gadarn ac yn benderfynol i wneud yr hyn sydd orau i gymunedau lleol. 

Atgoffwyd y Cyngor ganddo ei fod wedi cyhoeddi cynllun 5 mlynedd ar ddechrau'r weinyddiaeth bresennol, a oedd yn cynnwys bron 100 o brosiectau a rhaglenni allweddol a fyddai'n cyfrannu at wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y preswylwyr a'r cymunedau yn Sir Gaerfyrddin. Nododd yr Adroddiad Blynyddol y cynnydd a wnaed hyd yn hyn gan bob Adran yn y Cyngor. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am rai o'r datblygiadau a'r prosiectau a oedd wedi'u cwblhau neu a oedd ar y gweill, a ddangosai fod Sir Gaerfyrddin yn arwain y ffordd, yn llawn uchelgais, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i breswylwyr, cymunedau ac ymwelwyr. Roedd y rhain yn cynnwys:

 

Prosiect MakerSpace yn llyfrgelloedd Rhydaman; Apêl Teganau Nadolig;             Fforwm 50+; Gwobrau Diwylliant; Cefnogi busnesau bach newydd; Llysgenhadon Ieuenctid; Cymorth i Fentrau [Coaltown Coffee, Rhydaman]; Safle Buckley ar gyfer tai; Rhaglen cipluniau i ddisgyblion chweched dosbarth; Hyrwyddo busnesau gwledig; Rhentu tai; Tlodi Misglwyf; Cam Cyntaf; Gwobrau Chwaraeon;

 Cyflwynodd yr Arweinydd aelodau newydd y bwrdd gweithredol bach, sef 10 plentyn ysgol lleol, a fyddai'n cysgodi eu cymheiriaid h?n, a phwysleisiodd yr angen i sicrhau bod gan genedlaethau'r dyfodol gyfleoedd gwaith da, cymunedau cefnogol, a lleoedd gwych i'w mwynhau wrth iddynt ddod yn oedolion a magu eu teuluoedd eu hunain.

 

Cyfeiriwyd at lwyddiannau'r disgyblion o ran TGAU, y Fagloriaeth Genedlaethol a pherfformiad cyfnod allweddol 5 disgyblion 16-18 oed ac estynnodd yr Arweinydd ei ddiolch i'r holl Benaethiaid a staff yn ysgolion y sir am y gofal, arweiniad ac addysg yr oeddent yn eu darparu ar gyfer eu disgyblion. Yn ogystal, mynegodd ei falchder o weld cynnydd yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a'r dyhead i symud holl ysgolion y sir ymlaen yn y continwwm ieithyddol. Y gobaith oedd y byddai hyn yn galluogi cynifer o bobl ifanc â phosibl yn Sir Gaerfyrddin i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol. Ychwanegodd fod cynnydd y Cyngor ar y rhaglen foderneiddio addysg yn destun balchder. Mae prosiectau gwerth £20m wedi'u cwblhau yn y 12 mis diwethaf. Mae'r buddsoddiad diweddaraf wedi cynnwys cyfleusterau a gwelliannau newydd yn St. John Lloyd, Ysgol Parc y Tywyn, Ysgol Pontyberem, a cham 1 o'r gwaith yn Ysgol Llangadog. Byddai buddsoddiad pellach o £4.1m dros y flwyddyn nesaf yn Ysgol Pump-hewl, a byddai prosiectau eraill yn dechrau'n fuan yn Ysgol Gors-las, Ysgol Pen-bre  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9


Cyfarfod: 16/05/2018 - Cyngor Sir (eitem 9)

9 DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR pdf eicon PDF 848 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd ei Adroddiad Blynyddol 2017-2018, a rhoddwyd copïau ohono yn ystod y cyfarfod, a oedd yn edrych yn ôl ar lwyddiannau'r Cyngor dros y 12 mis diwethaf. 

 

Hwn oedd y trydydd Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd ond yr adroddiad cyntaf  ers etholiadau 2017 lle gwelwyd newid sylweddol yn y cydbwysedd grym o fewn y Cyngor. Bu'n edrych yn ôl ar y cyfnod hwn y llynedd pan groesawodd 29 o wynebau newydd i feinciau siambr y cyngor, sy'n cynrychioli dros draean o gyfanswm nifer y cynghorwyr. Er y bu cryn dipyn o sesiynau hyfforddi a seminarau sefydlu yn ystod y flwyddyn, y gobaith oedd bod gan yr aelodau newydd well dealltwriaeth o dipyn o ran sut y mae llywodraeth leol yn gweithio, a'u bod mewn sefyllfa well i wneud penderfyniadau hollbwysig dros y pedair blynedd sy'n weddill o'r Cyngor hwn. Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd oes y Cyngor hwn yn para mwy o lawer na'r pedair blynedd sy'n weddill o'r tymor presennol.

 

Gan gyfeirio at y thema o gyni ariannol dywedodd fod arbedion ariannol wedi ceisio cael eu sicrhau ym mhob agwedd ar waith y Cyngor, a'i fod yn llawn edmygedd o staff y Cyngor am feddwl am lu o syniadau blaengar i arbed arian. Fodd bynnag, roedd y gwasanaethau wedi cael eu naddu i'r asgwrn a bellach roedd bron yn amhosibl dal ati i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen. Y gobaith oedd y byddai ymddeoliad y Prif Weinidog oedd ar y gorwel, yn arwain at newid mewn pwyslais a byddai Llywodraeth Leol yn cael ei amddiffyn rhag toriadau pellach. Serch hynny, er iddo fod yn gyfnod anodd, roedd llawer wedi digwydd yn Sir Gaerfyrddin dros y 12 mis diwethaf ac roedd yn bosibl teimlo'n gadarnhaol iawn am y dyfodol.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at amcanion Rhaglen TIC i feddwl ac ymddwyn yn wahanol a thrwy hynny hefyd weithredu'n wahanol. Hyd yn hyn roedd wedi helpu i nodi a chyflawni tua £12 miliwn o arbedion ariannol gwirioneddol ac arbed costau. Roedd llawer o welliannau yn digwydd ar draws yr Awdurdod ochr yn ochr â Rhaglen TIC, a llynedd gydag awydd i gydnabod a gwobrwyo hynny, lansiwyd seremoni wobrwyo TIC ym mis Gorffennaf.  Rhoddwyd pump o brosiectau ysbrydoledig ar y rhestr fer, a'r enillydd cyffredinol oedd aelodau'r Tîm Dewisiadau Tai am y modd y bu iddynt wella eu systemau o ran rhoi ystod eang o gyngor i bobl y mae arnynt angen tai. Roedd TIC hefyd wedi cefnogi menter gorfforaethol allweddol o ran trawsnewid digidol sy'n cwmpasu rhaglenni 'newid sianel' er mwyn ehangu'r modd y gallai trigolion ryngweithio gyda gwasanaethau drwy greu cyfrif a rheoli'r gwasanaethau ar-lein. Lansiwyd menter allweddol o ran gweithio hyblyg hefyd a fyddai'n gwneud gwell defnydd o dechnoleg a swyddfeydd yr awdurdod gan roi mwy o hyblygrwydd i staff wrth weithio a darparu gwasanaethau. Er mwyn helpu ysgolion i wneud arbedion i ddiogelu cyrhaeddiad ac addysg disgyblion crëwyd swydd TIC penodol ar gyfer ysgolion a rhoddwyd rhaglen ar waith i nodi'r arbedion posibl y gallai, ac yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9