Mater - cyfarfodydd

QUESTION BY COUNCILLOR SHAREN DAVIES TO COUNCILLOR GLYNOG DAVIES - EXECUTIVE BOARD MEMBER FOR EDUCATION AND CHILDREN

Cyfarfod: 20/09/2017 - Cyngor Sir (eitem 6)

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD SHAREN DAVIES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

"Gyda'r cyhoeddiad diweddar y bydd Ysgol Pontyberem yn cael ei datblygu, a fyddai’r aelod cabinet cystal â rhoi dyddiad cychwyn i'r Cyngor ar gyfer datblygu Ysgol Dafen".

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Gyda'r cyhoeddiad diweddar y bydd Ysgol Pontyberem yn cael ei datblygu, a fyddai'r aelod cabinet cystal â rhoi dyddiad cychwyn i'r Cyngor ar gyfer datblygu Ysgol Dafen".

 

Y peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw hyn; nid oes unrhyw gynghorwyr nac yn wir unrhyw un arall yn yr ardal hon wedi gofyn i mi am gyfarfod i drafod y sefyllfa yn Ysgol Dafen. Rydym i gyd yn ymwybodol o gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif ac rydym ni, fel sir, wedi elwa'n sylweddol ar hyn ac rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid hwn. Ceir ysgolion newydd ar hyd a lled y sir. Ar hyn o bryd rydym yn cwblhau gwaith ar yr ysgolion hynny a oedd ym Mand A, ar hyn o bryd mae yna gontractwyr yn gweithio yn Ysgol Penrhos, Ysgol Trimsaran, Ysgol Coedcae, Ysgol Pontyberem ac Ysgol Parc y Tywyn. Ysgolion Band B fydd nesaf, er nad ydym yn hollol sicr eto faint y bydd rhaid i ni ei gyfrannu a faint fydd yn dod oddi wrth y llywodraeth; roedd hyn yn destun trafodaeth danbaid yng Nghaerdydd ddoe. Bydd y cynllun hwnnw'n cael ei roi ar waith rhwng 2019 a 2024 a, Sharen, nid yw Dafen hyd yn oed ar y rhestr honno eto ond eleni gwariwyd £175k ar do newydd a gwaith ailweirio yn Ysgol Dafen, gwariwyd £172k ar yr iardiau er mwyn bodloni'r rheoliadau Iechyd a Diogelwch ac rwyf wedi clywed gan awdurdod da fod Pennaeth yr ysgol yn hapus dros ben â'r hyn yr ydym wedi'i wneud ac yn ddiolchgar i ni am yr hyn a wnaethom. Felly, dyna'r buddsoddiad sydd wedi digwydd. Os wnewch chi siarad â'r aelod lleol dros Ddafen efallai y bydd ganddo ragor o wybodaeth i'w rhoi i chi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Davies y cwestiwn atodol canlynol:-

 

Oni fyddai'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg yn cytuno, oherwydd y gwaith adeiladu newydd arfaethedig yn ardal Llwynhendy, y Bynea a Dafen, y dylai ysgol Dafen gael ei hystyried cyn gynted â phosibl ar gyfer ei hailddatblygu yn sgil yr angen mawr am adnewyddu'r ysgol. Byddai hyn yn helpu i ddarparu nid yn unig yr isadeiledd ar gyfer darpariaeth yr ysgol ond hefyd ar gyfer addysg y plant hynny.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Rhaid i ni gadw at weithdrefn sgorio lem a dyna sut y mae rhai ysgolion wedi'u cynnwys ym Mand A ac eraill ym Mand B. Ond, a allech chi ddod â'r dystiolaeth i mi ac mi wnaf yn bendant roi ystyriaeth i'r mater a byddaf yn siarad â'm swyddog i weld a oedd yna, o bosibl, gamgymeriad yn y system sgorio.
 Mi wnaf edrych ar hyn, ond rhaid i ni gadw at y system sgorio.