Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
3.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
W/37160 |
Adeilad amaethyddol i storio peiriannau fferm, biniau bwyd ar gyfer da byw a storio cynnyrch, Pwll Llallau, Cwmfelin-boeth, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0RU
(NODER: Gadawodd y Cynghorydd S. M. Allen, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y cais) |
3.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal yn ymwneud â pherchenogaeth tir ac er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:
W/38125 |
Cynllun i ddatblygu 36 o breswylfeydd a gwaith cysylltiedig ar dir i'r de o ystad Dôl y Dderwen, Llangain, Sir Gaerfyrddin SA33 5BE
Y RHESWM: Er mwyn galluogi'r Pwyllgor i weld y trefniadau o ran mynd i mewn ac allan o'r safle yn sgil pryderon am ddiogelwch priffyrdd. |
Dyddiad cyhoeddi: 10/05/2019
Dyddiad y penderfyniad: 02/05/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 02/05/2019 - Pwyllgor Cynllunio
Dogfennau Cefnogol: