Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 2Gorffennaf 2018 (gweler Cofnod 7) wedi ystyried adroddiad ynghylch y cynigion i gyflwyno Gorchymyn Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Llanelli. Pe byddai'n cael ei fabwysiadu byddai'r Gorchymyn yn caniatáu ar gyfer amrywiaeth o ddefnydd o fewn ardal ofodol benodol yng nghanol y dref i symud ymlaen heb fod yr angen am ganiatâd cynllunio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:
“9.1 Derbyn y sylwadau sydd wedi dod i law mewn perthynas â'r Gorchymyn Datblygu Lleol Drafft ar gyfer Canol Tref Llanelli; |
9.2 Cymeradwyo'r argymhellion y manylwyd arnynt yn yr adroddiad; |
9.3 Cymeradwyo cyflwyno'r Gorchymyn Datblygu Lleol (sy'n cynnwys argymhellion yr adroddiad a'r wybodaeth ddiweddaraf am dystiolaeth) i Lywodraeth Cymru gael cytuno arno; |
9.4 Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Gorchymyn Datblygu Lleol; |
9.5 Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r swyddogion ddiweddaru'r sylfaen dystiolaeth a gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol i'r Gorchymyn Datblygu Lleol, a sicrhau bod unrhyw faterion ychwanegol o ran cydymffurfiaeth gyfreithiol hefyd yn cael eu hintegreiddio.” |