Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JOHN JENKINS I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

"Gan fod gwrthwynebiad amlwg a helaeth gan y cyhoedd yn Llanelli i gynllun yr Awdurdod hwn i greu maes parcio y bydd modd cael mynediad iddo drwy fan mynediad cwbl anaddas ar Hen Heol yn lle'r cwrt tennis sy'n cael ei ddefnyddio'n aml ym Mharc Howard; heb ystyried y broses gynllunio ac ar wahân i hynny, a fyddai Arweinydd y Cyngor yn cydnabod bod yr elfen hon o gynllun mawr Parc Howard yn amhoblogaidd dros ben ac a fyddai'n fodlon dangos ei resymoldeb a'i barodrwydd i wrando ac i ymgysylltu â'r gymuned yn Llanelli drwy dynnu cais cynllunio rhif S/35541 yn ei ôl, a hynny dim ond er mwyn aros am ymgynghoriad cyhoeddus ystyrlon, ar wahân i'r broses gynllunio, ynghylch darparu llefydd parcio yng nghynllun mawr Parc Howard?"

 

 

Cofnodion:

“Gan fod gwrthwynebiad amlwg a helaeth gan y cyhoedd yn Llanelli i gynllun yr Awdurdod hwn i greu maes parcio y bydd modd cael mynediad iddo drwy fan mynediad cwbl anaddas ar Hen Heol yn lle'r cwrt tennis sy'n cael ei ddefnyddio'n aml ym Mharc Howard; heb ystyried y broses gynllunio ac ar wahân i hynny, a fyddai Arweinydd y Cyngor yn cydnabod bod yr elfen hon o Brif Gynllun Parc Howard yn amhoblogaidd dros ben ac a fyddai'n fodlon dangos ei resymoldeb a'i barodrwydd i wrando ac i ymgysylltu â'r gymuned yn Llanelli drwy dynnu cais cynllunio rhif S/35541 yn ei ôl, a hynny dim ond er mwyn aros am ymgynghoriad cyhoeddus ystyrlon, ar wahân i'r broses gynllunio, ynghylch darparu llefydd parcio ym Mhrif Gynllun Parc Howard?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Mae'r cynnig ar gyfer maes parcio yn y lleoliad hwn wedi cael ei ystyried ers blynyddoedd lawer ac roedd yn rhan o'r Prif Gynllun gwreiddiol ar gyfer Parc Howard pan gyflwynwyd cais am arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 2015.  Dros y 18 mis/2 flynedd ddiwethaf, rwyf wedi cynnal cyfanswm o 6 chyfarfod â grwpiau cynrychioliadol i drafod cynlluniau a dyheadau ar gyfer y Parc er mwyn sicrhau bod y Parc yn parhau ym meddiant y cyhoedd.  Roedd y cyfarfodydd hynny yn cynnwys Cymdeithas Parc Howard, Cyfeillion Amgueddfa Llanelli, Cyngor Tref Llanelli, yn ogystal â Threftadaeth Gymunedol Llanelli.  Roedd y cynigion, gan gynnwys yr angen am faes parcio er mwyn cefnogi masnachu Parc Howard mewn modd sensitif, wedi cael cefnogaeth gyffredinol cynrychiolwyr y sefydliadau hynny ac yna wedi'u cymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol ar 26ain Gorffennaf, 2016.  Nid yw'r cwrt tennis a'r llecyn gemau'n cael eu defnyddio digon a byddwn yn dal i gadw cwrt tennis arall y tu ôl i'r lle chwarae i blant.  Mae'r fynedfa i'r maes parcio arfaethedig o'r Hen Heol wedi'i dylunio gan ein peirianwyr priffyrdd ni ein hunain ac maent yn bodloni'r holl ofynion dylunio ar gyfer y math hwn o gyfleuster. Mae'r cynigion ar gyfer y maes parcio wedi cael eu creu ar sail yr hyn a nodwyd yn wreiddiol yn y Prif Gynllun ac ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad fel rhan o'r broses gynllunio. Rwyf o'r farn bod ymgynghori â grwpiau allweddol wedi bod yn fwy nag "ystyrlon" ac mae'r broses gynllunio yn rhoi bob cyfle i'r cyhoedd gyflwyno sylwadau ynghylch y cynigion. Ni fyddaf yn tynnu'r cais yn ei ôl a byddaf yn gadael i'r Pwyllgor Cynllunio ystyried sylwadau'r cyhoedd a phenderfynu ynghylch y cais maes o law ac rwy'n disgwyl iddynt wneud hynny ar sail ystyriaethau cynllunio perthnasol."

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jenkins y cwestiwn atodol canlynol:-

“A allwch chi enwi un sefydliad yn unig sydd wedi ysgrifennu i gefnogi'r maes parcio?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

“Y cyfan rwy'n ceisio'i wneud yw achub Parc Howard.  Rhoddwyd Parc Howard ar y rhestr Trosglwyddo Asedau.  Fel Cynghorydd Tref Llanelli, roedd hawl gennych i dderbyn hynny ond penderfynodd Cyngor Tref Llanelli nad oeddent am dderbyn yr ased na Pharc Howard.  Yna daeth yn ôl i mi ac i'r Cyngor hwn felly roedd yn rhaid i ni wneud rhywbeth a dyna'r rheswm pam buom yn cyfarfod â'r 4 gr?p rwyf wedi'u nodi chwe gwaith dros 18 mis er mwyn cynnal trafodaethau hir ynghylch sut rydym am fynd ati i wneud hynny a sut rydym yn sicrhau bod Parc Howard yn parhau ym meddiant y cyhoedd. Dyna addewid a wnes i yn ystod fy ail wythnos fel arweinydd ddwy flynedd a hanner yn ôl ac nid wyf wedi newid fy meddwl ers hynny.  Bydd yn parhau ym meddiant y cyhoedd oherwydd mae'n perthyn i'r bobl ond er mwyn gwneud hynny mae angen cynllun arnom a rhan o'r cynllun hwnnw yw bod angen i holl bobl Llanelli allu defnyddio'r Parc.  Nid dim ond y bobl sy'n agos at y Parc, sy'n gallu cerdded i'r Parc neu'r rheiny y mae'r Parc yn gyfleus ar eu cyfer ond y bobl hynny yn Nhy-isa, y bobl yng Nglanymôr, y bobl yn Llwynhendy a'r bobl mewn ardaloedd pellach.  Pan oedd fy mhlant yn fach, buom ni yno bob penwythnos ond roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i le parcio oddeutu hanner milltir i ffwrdd.  Mae hyn er mwyn sicrhau bod y Parc ar gyfer holl bobl Llanelli ac nid i rai yn unig ac er mwyn sicrhau bod y maes parcio hwnnw yn darparu ar gyfer y posibilrwydd o greu rhyw fath o incwm sy'n ystyrlon yng nghyd-destun yr arian sydd ei angen er mwyn sicrhau dyfodol y lle.  Gellir cymharu'r sefyllfa â pharc tebyg a'r un sy'n dod i'm meddwl i yw Castell Picton yn Sir Benfro.  Tebyg iawn â gerddi gwych o'i amgylch. Mae yno 168 o lefydd parcio ac maen nhw'n gobeithio ehangu i 288 o lefydd parcio.  Eisoes, trwy'r gwaith maen nhw wedi'i wneud o ran y parcio, mae'n golygu bod nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu o 15,000 i 31,000. Mae hynny wedi dyblu'r defnydd o'r parc. Mae'n eithaf syml, pan ddywedodd Cyngor Tref Llanelli "na" i'r ased, dywedais i "ie".  Dywedais y byddwn ni'n cwrdd â'n gilydd ac yn creu cynllun sy'n golygu bod y Parc hwn yn parhau i fod ym meddiant y cyhoedd.  Rwyf i am i'r Parc barhau ym meddiant y cyhoedd ar gyfer pobl Llanelli.  Rydym wedi clywed y bore yma am yr angen am barciau sy'n addas ar gyfer ein pobl ifanc ac eto yr wythnos diwethaf mewn Pwyllgor Cynllunio wrth drafod cais cynllunio am ddarn o offer ym Mharc Howard ar gyfer pobl ifanc, pleidleisiodd 7 Cynghorydd yn ei erbyn.  Pa fath o bobl sy'n pleidleisio yn erbyn cyfleuster i bobl ifanc mewn parc cyhoeddus yn eu ward a'u tref eu hunain?  Mae'n anodd credu'r fath beth ac mae Llanelli'n haeddu gwell a mwy o ystyriaeth na hynny. Gallwn sôn am y parc yn Aberdâr, sy'n debyg eto o ran parcio oherwydd eu bod yn dymuno i'r holl bobl ddefnyddio'r parc fel rydym ni'n ei ddymuno yn Llanelli. Mae Parc Howard yn drysor ac rydym eisiau ei gynnal a'i gadw ym meddiant y cyhoedd."