“A allech chi nodi'r rhesymau pam y mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu hysbysebu am fynegiannau o ddiddordeb ar gyfer trafodion eiddo, yn hytrach na phroses dendro agored gystadleuol i gaffael gwasanaethau ym Mharc Howard?"
Cofnodion:
“A allech chi nodi'r rhesymau pam y mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu hysbysebu am fynegiannau o ddiddordeb ar gyfer trafodion eiddo, yn hytrach na phroses dendro agored gystadleuol i gaffael gwasanaethau ym Mharc Howard?"
Ymateb gan y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:-
“Mae'n bwysig i ni gofio fod Parc Howard yn Llanelli yn cynnwys adeilad eiconig yn y parc ac oddeutu 25 erw o dir a gerddi. Os yw Aelodau'n cael y cyfle, ewch i ymweld â Pharc Howard er mwyn ichi weld drosoch eich hun y trysor sydd gennym fel Sir. Caiff y Parc ei gynnal a'i gadw'n dda iawn ac mae'n lle arbennig iawn. Mae yno lynnoedd, maes chwarae antur newydd i blant a bydd ffrâm ddringo ar gael yno yn fuan ac mae gan y Parc poblogaidd hwn botensial gwirioneddol. Mae'r Amgueddfa yn llawn trysorau hefyd. Yn ddiweddar, agorwyd y cyntaf o bedwar llwybr cyfeiriannu lle gall pobl ddilyn y marcwyr, cerdded o amgylch y Parc a dysgu am yr ardal ar yr un pryd. Mae'r Gwasanaeth Amgueddfeydd yn gweithredu mewn hinsawdd o newid na welwyd mo'i debyg o'r blaen ac mae'n rhaid i ni fel Cyngor dderbyn fod newid yn anorfod. Mae'r dyddiau pan oedd gennym ddigonedd o arian i gynnal amgueddfeydd wedi hen fynd ac felly mae'n rhaid i ni chwilio am ffyrdd newydd a gwahanol o gynnal a chadw'r trysorau hyn a dyna yw'n cyfrifoldeb ni ym Mharc Howard. Mae angen inni edrych ar y posibiliadau ar gyfer y Parc a'r plasty ac fel cam cyntaf, gofynnom pwy allai fod â diddordeb mewn ein helpu ni a gofynnwyd am fynegiannau o ddiddordeb. Gwnaethom hyn er mwyn gweld a oedd gan unrhyw un syniadau eraill efallai nad oeddem ni wedi meddwl amdanynt i ategu'r ddarpariaeth bresennol. Mae'n fan gwych i gynnal digwyddiad ac roeddem ni eisiau gwybod tybed a hoffai busnesau lleol ein helpu ni. Dyma oedd y cam naturiol cyntaf ar gyfer cael gwybod a fyddai diddordeb gan rywun mewn ein helpu ni a beth oedd y posibiliadau. Mynegwyd diddordeb a bellach mae'r diddordeb hwnnw'n cael ei ystyried wrth inni symud ymlaen i ddatblygu'r ased arbennig hwn er budd pobl Llanelli, Sir Gaerfyrddin ac unrhyw un sy'n ymweld o bell ac agos a charwn apelio am gymorth a chydweithrediad er mwyn sicrhau llwyddiant Parc Howard.”
Gofynnodd y Cynghorydd James y cwestiwn atodol canlynol:-
“Yn Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd a gyflwynwyd gennych y tro diwethaf, nodwyd gennych y byddech yn awyddus i gadw Parc Howard ym meddiant y Cyngor drwy beidio â defnyddio proses dendro agored i gynnwys cwmnïau a'i gadw ym meddiant y Cyngor. Nid yw preswylwyr a defnyddwyr y parc yn gwybod dim am y manylion sy'n gysylltiedig â'r cynnig hwn. A allwch o leiaf nodi hyd y brydles sy'n ffafriol gennych ar hyn o bryd fel yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol neu fel Bwrdd Gweithredol yn gyffredinol?"
Ymateb y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:-
“Nid ydym wedi cyrraedd y cam hwnnw eto a phan fyddwn ni, fe fyddwn ni'n ei ystyried. Mae'n dibynnu ar y math o ddiddordeb a ddangosir a pha agweddau ar ddiddordeb a ddangosir. Mae'n bosibl y bydd mwy nag un sy'n ein helpu ni. Byddwn ni'n gwneud hynny ar ôl i ni gyrraedd y cam hwnnw."