Cofnodion:
[SYLWER: Roedd y Cynghorydd H.I. Jones, ar ôl datgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, wedi gadael y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]
Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad safle preifat y Pwyllgor a gyflawnwyd yn gynharach y diwrnod hwnnw, (Cofnod 4.1 y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 29 Mehefin, 2017), a drefnwyd er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor weld y safle yn dilyn y sylwadau a oedd wedi dod i law a nodir isod.
·
ennyn dealltwriaeth o
effaith bosibl y datblygiadau ar seilwaith yr ardal a diogelwch y
preswylwyr.
· gweld lleoliad arfaethedig y tanciau/pympiau carthffosiaeth a'r potensial o edrych dros ben yr ardal gyfagos.
· rhoi cyfle i'r pwyllgor cyfan ymweld â'r safle oherwydd dim ond 6 o'i aelodau oedd yn aelodau o'r pwyllgor cynllunio blaenorol a oedd wedi ymweld â'r safle mewn cysylltiad â'r cais cynllunio amlinellol gwreiddiol sef S/15702.
Cyn amlinellu adroddiad y Pennaeth Cynllunio ynghylch y cais, dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) ei fod wedi derbyn dau lythyr arall yn cynnwys sylwadau a darllenwyd eu cynnwys i'r Pwyllgor ac aethpwyd i'r afael â'r pryderon.
Cyfeiriwyd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint ac atodiad at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylwadau yn mynegi pryderon am y datblygiad arfaethedig gan ail-bwysleisio’r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, ac roeddynt yn cynnwys y canlynol:
· Bydd y datblygiad yn niweidiol i bentref Bynea oherwydd bydd mwy o berygl o lifogydd a risg i iechyd y cyhoedd oherwydd y galw gormodol ar y garthffos gyhoeddus.
· Bydd dulliau gwaredu d?r wyneb yn cael effaith niweidiol ar seilwaith D?r Cymru ac yn cynyddu'r risg o lifogydd i rannau isaf y Bynea yn enwedig pan fydd hyn yn cael ei gyfuno â chyfnodau o law trwm.
· Ni ddylid caniatáu'r datblygiad hyd nes y gall D?r Cymru roi sicrwydd bod y gwaith ar seilwaith carthffosiaeth yn y Bynea ac o'i amgylch wedi'i gwblhau a bod y system garthffosiaeth yn gallu ymdopi â'r galw ychwanegol.
· Pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd o ran addasrwydd y seilwaith ffyrdd cyfagos i ddarparu ar gyfer y nifer fawr o gerbydau a ddaw yn sgil y datblygiad gan effeithio ar drigolion lleol.
· Mae diffyg amwynderau dinesig cyffredinol yn yr ardal leol, gan gynnwys mynediad i siopau a chyfleusterau hamdden yn ogystal â darpariaeth annigonol o ran lleoedd yn yr ysgol i gyd-fynd â'r galw ychwanegol am y gwasanaeth.
· Byddai'r datblygiad yn cael effaith uniongyrchol ar lif traffig a thagfeydd ar ffyrdd o fewn ardal y Cyngor Cymuned cyfagos yn ogystal â'r ardal gyfan yn gyffredinol.
· Cynnydd annerbyniol yn llif y traffig a thagfeydd ar hyd Heol y Mynydd a'i chyffordd â ffordd Penllwyngwyn.
· Annigonolrwydd y rhwydwaith priffyrdd lleol i ddarparu ar gyfer y traffig ychwanegol a'r effaith ar ddiogelwch ffyrdd. Cyfeirir yn benodol at yr effaith ar ffyrdd a diogelwch ar hyd Heol Genwen a Phenygraig yn ogystal â Heol Pendderi a Heol yr Orsaf.
· Agosrwydd y datblygiad i eiddo yn Llys Pendderi a'r effaith ar golli preifatrwydd a rhwystro golygfeydd presennol o'r aber.
· Bydd diffyg amwynderau yn yr ardal yn arwain at ddatblygu cymuned sy'n ddibynnol ar gar.
· Ni fydd y preswylfeydd dau lawr a dau lawr a hanner yn gydnaws â'r eiddo sy'n bodoli eisoes.
· Mesurau parcio annigonol o fewn y datblygiad.
· Yr angen am neuadd gymunedol o fewn y datblygiad.
· Byddai'r datblygiad yn amharu ar yr ardal gan roi pwysau ychwanegol ar y seilwaith lleol yn hytrach na gwella'r ardal.
· Yr effeithiau iechyd a diogelwch o ran storio carthion yn y tanciau tanddaearol a'r orsaf bwmpio gysylltiedig.
· Ni all y seilwaith d?r gwastraff presennol ymdrin â'r d?r gwastraff a gynhyrchir gan y safle mewn amodau glaw trwm ac nid yw hyn wedi cael ei warantu gan D?r Cymru.
· Effaith maint y d?r sy'n cael ei storio yn y tanciau casglu d?r ar y lefel trwythiad.
· Bydd nifer y ffyrdd sy'n mynd allan o'r ystâd yn creu priffordd beryglus.
· Nid oes mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus i'r safle.
· Nid yw'r datblygiad arfaethedig yr un fath â'r hyn y cytunwyd arno gan y Pwyllgor Cynllunio pan gafwyd caniatâd cynllunio amlinellol.
· Nid yw'r preswylfeydd dau lawr a hanner yn gydnaws â'r ardal ac maent yn edrych dros yr eiddo cyfagos.
· Nid yw'r datblygiad yn bodloni'r safonau a nodir yn y Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 diweddar y mae'n rhaid i'r Cyngor Sir ei dilyn o ran ni ellir gwarantu diogelwch defnyddwyr y ffordd ac nid oes unrhyw ateb o ran y traffig ychwanegol a gynhyrchir naill ai o ran diogelwch neu ragor o lygredd (s?n, traffig, aer, baw, llifogydd).
· Effaith ar dagfeydd yr M4
· Effaith y datblygiad ar ffyrdd a diogelwch.
· Effaith draenio'r datblygiad ar godi'r lefel trwythiad
· Diffyg seilwaith yn yr ardal megis gofal iechyd, addysg a thrafnidiaeth gyhoeddus.
· Nid yw'r system garthffosiaeth yn ddigonol ac ni fyddai'n ymdopi â'r tai ychwanegol gan arwain at lifogydd yn yr eiddo sy'n bodoli eisoes yn Llwynhendy.
· Diffyg mannau parcio.
· Cynnydd yn y d?r ffo a'r llifogydd islaw'r safle.
· Diffyg ymgynghori â phreswylwyr cyfagos.
· Effaith ar feddygfeydd lleol.
· Effaith ar fywyd gwyllt yr ardal gan gynnwys ystlumod ac adar.
· Colli bioamrywiaeth a chynefinoedd – fflora a ffawna.
· Diffyg capasiti yn yr ysgolion lleol ac nid oes parc yn cael ei ddarparu.
Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd.
Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor nad oedd y cais hwn yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y materion a gadwyd yn ôl ar gyfer y datblygiad preswyl arfaethedig a gafodd ganiatâd cynllunio amlinellol o dan gais cynllunio S/15702 ar 22Rhagfyr 2015. Roedd y rhain yn cynnwys manylion am y dull mynediad arfaethedig, ymddangosiad, tirlunio, diwyg, maint y datblygiad ac y byddai'r datblygiad yn cynnwys 240 o anheddau yn cynnwys cymysgedd o eiddo dwy, tair a phedair ystafell wely.
PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio S/33342, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
Dogfennau ategol: