Agenda item

CYSUR (BWRDD RHANBARTHOL DIOGELU PLANT) - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2014/15

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn tynnu sylw at yr hyn a gyflawnodd CYSUR yn y flwyddyn diwethaf a'r blaenoriaethau i'r dyfodol ar gyfer y bwrdd rhanbarthol, gan gynnwys adolygiad o'r trefniadau presennol.  Hefyd roedd yr adroddiad yn ystyried y tueddiadau a'r themâu o fewn Sir Gaerfyrddin. Estynnodd y Cadeirydd groeso i Liz Blazey, Rheolwr Bwrdd Rhanbarthol CYSUR, i'r cyfarfod.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch y broses ymgysylltu â'r Aelodau Etholedig. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod Aelod Arweiniol enwebedig pob Awdurdod yn derbyn agendâu perthnasol Bwrdd Gweithredol CYSUR ac yna'n cael eu briffio gan y Cadeirydd, sef Jake Morgan, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yr Aelodau Lleol yn cael hyfforddiant cyffredinol ynghylch diogelu ac roedd Aelodau'r Pwyllgor yn cael cynnig i ymweld â thimau rheng flaen. Roedd ef yn barod cynnig sesiynau ychwanegol a fyddai'n cael eu cynnal yn fwy rheolaidd. Yn ateb i sylwadau ynghylch diffyg cyfranogiad gan Aelodau Etholedig yn Mwrdd Gweithredol CYSUR a'r broses gwneud penderfyniadau, dywedodd nad oedd dim cynrychiolwyr o blith yr Aelodau Etholedig ar Fwrdd Gweithredol CYSUR. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr mai nod CYSUR oedd sefydlu'r systemau diogelu gorau posibl ar draws y rhanbarth, sef arferion proffesiynol yn hytrach na materion llywodraethu.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y trefniadau ariannol ar gyfer CYSUR. Eglurodd Rheolwr y Bwrdd Rhanbarthol fod cyllideb o £100k wedi cael ei chytuno gyda chyfraniadau gan bob Awdurdod. Roedd hyn yn cynnwys cymorth busnes a hyfforddiant wedi'i gomisiynu'n rhanbarthol. Mae'n bosibl y byddai gweithredu'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn pennu'r cyfraniadau gan bartneriaid i'r dyfodol.

 

Gofynnwyd beth oedd manteision gweithio'n rhanbarthol yn y modd hwn. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y rhan fwyaf o'r manteision heb gael eu gwireddu eto ond roedd y partneriaid megis Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a'r Gwasanaeth Prawf yn ei chael yn haws cyfathrebu materion strategol yn rhanbarthol.  Roedd yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH) wedi creu'r gallu i rannu gwybodaeth werthfawr ac i ymateb yn dra chyflym lle roedd y cyfeirio'n digwydd.  Roedd yn bosibl y gallai MASH rhanbarthol fod yn ddefnydd mwy effeithiol o adnoddau.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch Plant sy'n Derbyn Gofal sy'n cael eu lleoli gan awdurdodau eraill. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y Panel Rhianta Corfforaethol a Diogelu yn monitro nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal oedd yn cael eu lleoli gan awdurdodau eraill ac yn codi'r materion risg gyda Llywodraeth Cymru ond ni chafwyd ymateb hyd yma.

 

Gofynnwyd pam roedd cynnydd yn nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant sy'n cael eu cam-drin yn emosiynol ac yn nifer y rhai sy'n cael eu hailgofrestru. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod plant yn cael eu cofrestru am un prif fater ond eu bod yn aml yn destun amryw o faterion. Roedd nifer cynyddol o blant yn dioddef cam-drin domestig oedd yn destun pryder a fyddai'n cael ei roi fel arfer yn y categori Cam-drin Emosiynol; a dyna oedd i gyfrif am y cynnydd gan fod yr hyfforddiant diogelu a ddarperir i'r ysgolion a'r asiantaethau eraill oedd yn bartneriaid wedi codi ymwybyddiaeth. Un neges allweddol oedd bod angen gwella gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, roedd angen bwrw golwg ar fater ailgofrestru plant, fel y nodwyd yn yr adroddiad; roedd awydd i ddefnyddio'r gofrestr fel mesur tymor byr yn unig. Roedd yn bwysig nodi fod ei dimau ef yn parhau i weithio gyda theuluoedd pan fyddent yn dod oddi ar y Gofrestr Diogelu Plant a bod cynllun Plant mewn Angen yn cael ei roi ar waith bob amser.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch natur ymholiadau Adran 47. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant bod y rhain yn cael eu defnyddio pan fyddai atgyfeiriad yn mynd yn ymchwiliad ffurfiol, ar y cyd â'r Heddlu fel arfer, oherwydd tebygolrwydd bod trosedd wedi'i gyflawni yn erbyn plentyn gan achosi niwed sylweddol.

 

PENDERFYNWYD

 

5.1       Cymeradwyo'r adroddiad

 

5.2       Gofyn ar i Fwrdd Gwaith CYSUR roi ystyriaeth i gael cynrychiolaeth o blith yr Aelodau Etholedig ar y Bwrdd.

Dogfennau ategol: