Cofnodion:
5.1 Rhoddodd yr Uwch-swyddog Monitro a Gorfodi wybod i'r Pwyllgor bod y cais canlynol wedi cael ei dynnu'n ôl i'w ystyried yn y cyfarfod er mwyn datrys materion a phryderon ychwanegol sydd wedi cael eu codi.
W/35336 |
Adeiladu preswylfa ar dir yn Frondeg, 2 Bro Rhydybont, Llanybydder, SA40 9QX |
5.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-
W/35461 |
Adeiladu 30 preswylfa a gwaith seilwaith cysylltiedig ar y safle (safle diwygiedig) ar dir y tu cefn i Gae Ffynnon, Bancyfelin, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA33 5DQ
Roedd sylw wedi dod i law gan yr aelod lleol yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle.
Y RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i weld lleoliad arfaethedig y datblygiad ac i ystyried y pryderon mewn perthynas â:- · d?r wyneb a llifogydd yn yr ardal; · effaith bosibl y datblygiad ar bentref Bancyfelin; · problemau parcio presennol ger ysgol y pentref a phryderon o ran diogelwch priffyrdd.
Nodwyd bod y Cynghorydd P. Hughes yn Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ac nid yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd un o'r gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch y cais hwn wedi dewis rhoi ei sylwadau yn ystod cyfarfod heddiw yn hytrach na'r cyfarfod ar ôl yr ymweliad â'r safle. Aeth y Pwyllgor felly ymlaen i gael y sylwadau yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig, a oedd yn ail-bwysleisio rhai o'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-
· Pryderon ynghylch d?r wyneb a llifogydd yn yr ardal. · Mae'r problemau presennol a gwaredu'r draeniad naturiol yn debygol o ychwanegu at y problemau presennol ar hyd Stryd Fawr ac achosi problem llifogydd i breswylwyr y stryd. · Nid yw'r cais yn cyfeirio o gwbl at y ffaith fod rhan o'r datblygiad yn cael ei hadeiladu ar orlifdir.
[Sylwer: darparodd y gwrthwynebydd dystiolaeth fideo i'r Swyddogion Cynllunio o lif d?r wyneb yn yr ardal yn ystod glaw trwm.]
Dewisodd asiant yr ymgeisydd gyflwyno ei sylwadau yng nghyfarfod yr ymweliad safle. |
5.3 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
W/35973 |
SGWÂR CYHOEDDUS NEWYDD, CAFFI AC UNEDAU BUSNES BACH YN YR ARDAL GYHOEDDUS BRESENNOL SY'N GOFYN AM WAREDU'R RHEILIAU/WALIAU PRESENNOL, SGWÂR JACKSONS LANE, CAERFYRDDIN, SA31 1QD
Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ail-bwysleisio’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio lle mai'r prif bwyslais oedd yr effaith ar yr ardal gadwraeth drwy newid dros 50% o'r gwyrddni am lecyn wedi'i balmantu, darparu sgrin deledu fawr a'r farn bod y cais yn groes i bolisïau cynllunio cenedlaethol a lleol SP1 a GP1.
Atgoffodd y Cadeirydd y ddau wrthwynebydd ac aelodau'r Pwyllgor Cynllunio o natur y cais cynllunio a oedd yn gofyn am waredu'r rheiliau a'r waliau presennol yn unig.
Daeth sylw o blaid y datblygiad arfaethedig a mynegwyd barn petai'r cais yn cael ei ganiatáu y byddai'r cynlluniau yn atgyfnerthu cymeriad lleol a fyddai'n parchu ac yn gwella'r lleoliad a nodweddion diwylliannol a hanesyddol ardal y cynllun. |
Dogfennau ategol: