Agenda item

CYFLWYNO TÂL NEWYDD AM DDEFNYDDIO GWELYAU HYBLYG MEWN CARTREFI GOFAL

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd H.I. Jones wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant personol sef bod ei wraig yn Brif Weinyddes Nyrsio yn Ysbyty Dyffryn Aman a bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd J.Williams wedi datgan buddiant personol sef ei bod yn ofalwr di-dâl.

 

Cafodd y cynnig ynghylch cyflwyno tâl newydd am leoliad Gwely Hyblyg mewn cartref gofal ei roi gerbron y Pwyllgor iddo ei ystyried. Nododd yr Aelodau fod y mater wedi'i gyfeirio at y Pwyllgor Craffu – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd gan y Cyngor Sir, yn dilyn cyfarfod y Cyngor ar 8fed Gorffennaf 2015.

 

Mynegodd y Cadeirydd ac aelodau o'r Pwyllgor eu siom nad oedd y mater hwn wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu, cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ym mis Mehefin 2015. Cydnabu Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol sylwadau'r Pwyllgor ond atgoffodd yr aelodau fod y cynnig wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 24ain Chwefror 2015 fel rhan o Strategaeth Cyllideb Refeniw 2015/16 – 2017/18. Gan fod y penderfyniad wedi'i wneud gan y Cyngor Sir, roedd swyddogion wedi mynd rhagddo â'r cynnig.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Holwyd am y gwahaniaeth rhwng gwely cyfnod gwella a gwely hyblyg gan ei bod yn ymddangos nad oedd fawr ddim o wahaniaeth rhyngddynt.  Aeth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a'r Uwch-reolwr Cymorth Busnes (Gofal Cymdeithasol) ati i hysbysu'r Pwyllgor y darperid gwelyau cyfnod gwella er mwyn i bobl h?n barhau'n annibynnol, magu hyder, ac adfer eu hiechyd ymhellach er mwyn paratoi i ddychwelyd adref neu i drefniadau gofal tymor hir eraill. Ar y llaw arall diben gwelyau hyblyg oedd cynorthwyo i hwyluso rhyddhau cleifion o'r ysbyty ac atal derbyn cleifion i'r ysbyty, yn enwedig wrth aros am ddechrau/ailddechrau pecynnau gofal cartref neu wrth aros am fân addasiadau i gartref megis gosod canllawiau.  Cydnabu'r Cyfarwyddwr y byddai'n ymddangos, o safbwynt y cyhoedd, fod y ddau wasanaeth hyn yn gorgyffwrdd ac y gallai fod yn amser priodol i adolygu cynaliadwyedd hirdymor y cynllun, yn enwedig o ystyried y gwelyau cyfnod gwella oedd ar gael ar draws y sir. Fodd bynnag, roedd hon yn dasg ar wahân i'r penderfyniad ynghylch codi tâl ai peidio. Cytunodd y Pwyllgor â'r awgrym hwn.  

 

Awgrymwyd ei bod yn annheg cosbi unigolion yn ariannol mewn achosion lle roedd bai ar yr Awdurdod Lleol eu bod efallai’n gorfod defnyddio gwely hyblyg yn y lle cyntaf (e.e. unigolion yn aros am ganllaw neu gymhorthion eraill i gael eu gosod yn eu cartref). Hefyd roedd yr Aelodau o'r farn fod hyn yn amlygu diffyg cyfathrebu rhwng gwasanaethau'r Awdurdod a bod angen i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a'r Gwasanaethau Tai gydweithio'n llawer agosach i sicrhau y gallai unigolion ddychwelyd adref yn syth.

 

Awgrymwyd bod y Bwrdd Iechyd yn cymryd mantais ar yr Awdurdod Lleol gan y gallai'r Bwrdd ryddhau cleifion o'r ysbyty i gyrraedd ei dargedau, er nad oedd unigolion yn gallu dychwelyd adref am resymau dilys. Gofynnwyd a allai'r tair wythnos gyntaf fod yn rhad ac am ddim, â chymhorthdal gan y Bwrdd Iechyd. Aeth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ati i hysbysu'r Pwyllgor y bu rhywfaint o drafod adeiladol â'r Bwrdd Iechyd yn ddiweddar ynghylch gwelyau cyfnod gwella ac roedd yr Awdurdod newydd gael cyllid gan y Bwrdd Iechyd gan brynu gwelyau o'r fath i leihau'r pwysau ar wardiau ysbytai. Nododd gynigion y Pwyllgor a chytunodd y gallai swyddogion gynnal adolygiad o'r cynllun Gwelyau Hyblyg yn y dyfodol, yn ogystal ag ystyried effaith gwahanol gyfraddau codi tâl. Fodd bynnag, ni fyddai hyn o reidrwydd yn mynd i'r afael â'r pwysau cyllidebol.

 

Mewn ymateb i ymholiad am y camau nesaf, aeth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ati i atgoffa'r Pwyllgor y byddai'n rhaid i'r Bwrdd Gweithredol wrthdroi'r penderfyniad hwn a hefyd y byddai angen ystyried bod £73,000 eisoes wedi'i dynnu o gyllideb yr Adran ac y byddai'n rhaid ymdrin â'r bwlch cyllido hwn. Yna cynigiwyd bod y Pwyllgor yn gofyn i'r Bwrdd Gweithredol wrthdroi ei benderfyniad a bod cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn cael eu defnyddio i dalu am y diffyg ariannol am y flwyddyn ariannol hon. Hefyd, oherwydd y teimladau cryf ymysg aelodau o'r Pwyllgor am y mater hwn, gofynnwyd am i'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd fynd i'r cyfarfod Bwrdd Gweithredol lle y byddai'r mater hwn yn cael ei drafod, i fynegi pryderon y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1       Derbyn yr adroddiad.

 

8.2       Gofyn i'r Bwrdd Gweithredol wrthdroi penderfyniad y Cyngor Sir ac argymell y dylid ymdrin â'r diffyg yng nghyllideb eleni drwy ddefnyddio cronfeydd ariannol wrth gefn y Cyngor.

 

8.3       Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnal adolygiad o'r Cynllun Gwelyau Hyblyg i ganfod a yw'n addas at y dyfodol.

 

8.4       Bod swyddogion, fel rhan o adolygiad o'r Cynllun, yn ystyried gwahanol gyfraddau codi tâl yn dibynnu ar hyd y cyfnod a dreulid mewn gwely hyblyg.

 

8.5       Bod y Pwyllgor yn dymuno i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd fynd i'r cyfarfod perthnasol o'r Bwrdd Gweithredol i fynegi teimladau cryf y Pwyllgor ynghylch y mater hwn.

 

 

Dogfennau ategol: