Agenda item

CANOLFAN CYNHWYSIAD ECONOMAIDD COLESHILL - ADRODDIAD CYNNYDD

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd H.I. Jones wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd E.Morgan wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch yn nyrs seiciatrig gyflogedig.

 

Roedd y Cynghorydd J.Williams wedi datgan buddiant personol sef ei bod yn ofalwr di-dâl.

 

Cafodd adroddiad cynnydd ynghylch Canolfan Cynhwysiad Economaidd Coleshill ei roi gerbron y Pwyllgor iddo ei ystyried. Cyflwynwyd yr adroddiad cynhwysfawr yn dilyn cais gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2015. Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion ynghylch modelau darparu gwasanaethau yn y Ganolfan yn y dyfodol.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegwydgwerthfawrogiad o'r gwaith a wnâi'r Ganolfan, yn enwedig y cyfleoedd a roddai i amrywiaeth eang o unigolion. Awgrymwyd bod angen ymgymryd â mwy o waith marchnata i hyrwyddo ei gweithgareddau. Cyfeiriwyd hefyd at y swm sylweddol o gyllid Ewropeaidd a oedd bellach wedi dod i ben. Gofynnwyd am ragor o fanylion ynghylch costau staffio/adeiladau yn gysylltiedig â'r incwm a grëwyd. Dywedodd yr Uwch-reolwr (Cynhwysiad Cymunedol) fod sawl prosiect o dan fantell Coleshill a bod pob ystafell wedi'i gosod ar hyn o bryd. Roedd fframwaith gweinyddu hefyd ar waith a gefnogai brosiectau eraill gan ddod ag incwm ychwanegol. Aeth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ati i atgoffa'r Pwyllgor fod angen cyfri'r 'costau cudd' a oedd yn gysylltiedig â'r math hwn o wasanaeth yn hytrach na dim ond ystyried y costau a'r incwm sylfaenol. Roedd yn bwysig cofio y byddai'r unigolion hynny a gyflogid gan yr Awdurdod Lleol yn ei chael yn anodd dod o hyd i waith rywle arall oherwydd y cymorth ychwanegol yr oedd arnynt ei angen.

 

Gofynnwyd a allai'r gwasanaeth Cynnal a Chadw Tiroedd yr oedd y Ganolfan yn ei gynnig gael gwaith gan gynghorau tref a chynghorau cymuned, yn enwedig gan fod llawer o gyfleusterau bellach yn cael eu trosglwyddo o'r Awdurdod Lleol i'r cynghorau hynny. Dywedodd yr Uwch-reolwr (Cynhwysiad Cymunedol) y bwriedid cynnal cyfarfod â defnyddwyr posibl y gwasanaeth a bod trafodaethau wedi'u cynnal eisoes â Chyngor Tref yn y sir. Roedd y Gwasanaeth eisoes yn cynnal a chadw'r tiroedd yn stadiwm Parc y Scarlets ac o'i gwmpas. Yn wir roedd y cyllid blaenorol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop wedi atal y Gwasanaeth hwn rhag cystadlu yn y farchnad agored ond gan fod y cyllid wedi dod i ben bellach, roedd y Gwasanaeth yn gallu cynnig am waith.

 

Cyfeiriwyd at y gostyngiad yn nifer y gweithwyr a gyflogid yng Nghaffi SA31 yn Neuadd y Sir ac awgrymwyd hefyd nad oedd y caffi hwn yn gwireddu ei botensial o'i gymharu â'r ddwy ffreutur a arferai fodoli yn y ddau brif adeilad gweinyddol yng Nghaerfyrddin. Aeth yr Uwch-reolwr (Cynhwysiad Cymunedol) ati i hysbysu’r Pwyllgor fod y gostyngiad yn nifer y staff yng Nghaffi SA31 wedi cyd-ddigwydd â diweddu prosiect COASTAL a diwedd y cyllid Ewropeaidd.  Fodd bynnag, roedd y niferoedd bellach yn cynyddu a disgwylid y byddai 10 disgybl o  Heol Goffa ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yn cael cymryd rhan mewn cyfleoedd arlwyo yn ystod y flwyddyn. O ran y gwasanaethau a ddarperid yng Nghaffi SA31, nododd fod gr?p ffocws wedi'i sefydlu i ystyried ei gyfeiriad yn y dyfodol. Hefyd roedd holiaduron wedi'u dosbarthu yn Neuadd y Sir i ganfod pa fath o luniaeth yr oedd y gweithwyr am ei weld yn cael ei gynnig yno. Aeth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ati i atgoffa'r Pwyllgor fod canol y dref wedi newid yn ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf a bod amrywiaeth eang o leoedd gwerthu bwyd bellach ar gael i'r staff. Roedd yn bwysig felly fod Caffi SA31 yn marchnata ei hunan ac yn dangos yn benodol sut yr oedd ei wasanaethau'n wahanol o gofio'r gystadleuaeth yr oedd yn ei hwynebu gan fusnesau yng nghanol y dref.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr effaith y byddai'r toriadau arfaethedig yn sgil y cyni cyllidol yn ei chael ar Ganolfan Coleshill, awgrymodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu y gallai hyn gynyddu nifer y defnyddwyr yn y Ganolfan mewn gwirionedd yn hytrach na pheri gostyngiad yn eu nifer.

 

Yng ngoleuni cais y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2015 am gynllun busnes manwl gywir, gofynnwyd am eglurhad ynghylch camau nesaf y broses a phryd y byddai'r Pwyllgor yn cael gweld y cynigion terfynol ynghylch y Ganolfan. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, gan nad oedd hwn yn newid polisi, na fyddai'n ofynnol i'r mater hwn fynd drwy'r broses wleidyddol, ond byddai'n ddefnyddiol i'r Pwyllgor gael craffu ar y cynllun busnes wrth iddo ddatblygu. Roedd y Cyfarwyddwr yn rhag-weld y byddai adroddiad pellach yn barod yng ngwanwyn 2016.

 

Gofynnwyd a oedd y mentrau micro a chymdeithasol oedd yn gweithredu o Coleshill yn manteisio ar unrhyw fudd-daliadau treth yr oedd ganddynt hawl iddynt. Nododd yr Uwch-reolwr (Cynhwysiad Cymunedol) fod staff wedi cael hyfforddiant yr wythnos honno ynghylch y newidiadau diweddaraf i'r cyfryw fudd-daliadau. Hefyd roedd swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Pontio a Gr?p Strategaeth NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) yr Adran Addysg a Phlant i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu trosglwyddo'n hwylus i brosiectau neu fentrau yn Coleshill drwy ddefnyddio prosesau gweinyddol presennol y gwasanaethau hyn.

 

Cyfeiriwyd at y drafodaeth flaenorol ar gyfleoedd cyflogaeth â chymorth. Awgrymwyd y gallai'r Awdurdod Lleol wneud mwy i sicrhau bod cynifer o unigolion ag y bo modd yn cael cymorth a chyfleoedd i weithio i'r Awdurdod a bod hyn yn cael ei gynnwys ochr yn ochr ag un o'r argymhellion yn yr adroddiad. Croesawodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a'r Uwch-reolwr (Cynhwysiad Cymunedol) yr awgrym gan gytuno y gellid cynnwys datganiad cliriach yn y cynllun gweithredu yn amlinellu ymrwymiad yr Awdurdod i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i unigolion oedd ag anghenion penodol, yn debyg i'r modd yr oedd cyfleoedd cyflogaeth wedi’u darparu hefyd i'r rhai oedd yn ymadael â gofal yn y blynyddoedd diwethaf.

 

Gofynnwyd a oedd cyfleusterau tebyg i'r rhai yn Coleshill ar gael hefyd i breswylwyr yng ngogledd y sir, yn enwedig yn ardal Caerfyrddin. Aeth Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ati i hysbysu'r Pwyllgor fod cyfleoedd tebyg ar gael yng Nghaerfyrddin (e.e. y Ganolfan Gweithgareddau Cymdeithasol yn Nhre Ioan) ond bod llawer o wasanaethau'n cael eu darparu mewn gwahanol ffyrdd gan y sector gwirfoddol. Cytunodd y byddai modd i fanylion y gwasanaethau a ddarperid gael eu cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: