Agenda item

TREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID

Cofnodion:

[SYLWER:  Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor yngl?n â gweithredu'r ddeddfwriaeth o ran Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, effaith datblygu cyfraith achosion a'r camau sy'n cael eu cymryd i leihau'r risgiau cysylltiedig. Rhoddodd yr Uwch Reolwr Diogelu amlinelliad i'r Pwyllgor o gefndir y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, gan ddweud mai nod y trefniadau diogelu oedd darparu proses gyfreithiol briodol ac amddiffyniad addas yn yr amgylchiadau hynny lle'r oedd yn ymddangos bod colli rhyddid yn anochel, er buddion pennaf unigolyn. Tynnwyd sylw at y ffaith bod dyfarniad y Goruchaf Lys yn 2014 wedi llwyddo i ostwng y trothwy ar gyfer atgyfeirio at Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a chafodd hyn effaith ar unwaith ar y gyfradd atgyfeirio. Canlyniad y cynnydd sydyn oedd bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi cronni llwyth sylweddol o geisiadau heb eu prosesu. Nodwyd fod Comisiwn y Gyfraith wedi cydnabod nad oedd y system bresennol yn gynaliadwy nac yn addas i'w diben. Bwriad y Comisiwn oedd gwneud cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig; fodd bynnag, roedd y ddeddfwriaeth bresennol yn debygol o fod mewn grym tan o leiaf 2018. 

 

Nodwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i dderbyn rhwng 30 a 40 o atgyfeiriadau bob mis, ac ar y pryd roedd yna 630 o geisiadau yn aros i gael eu hasesu. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith mai gan y Cyngor yr oedd un o'r cyfraddau atgyfeirio uchaf, a hynny o ganlyniad i'r nifer uchel o sefydliadau preswyl/nyrsio sydd yn yr ardal. Cadarnhawyd fod yna 88 o gartrefi preswyl a nyrsio yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y Gwasanaeth wedi datblygu cynllun i reoli'r atgyfeiriadau a oedd wedi ôl-gronni ac a oedd yn parhau i lifo i mewn, a rhoddwyd crynodeb i'r Pwyllgor o'r gwaith a oedd yn cael ei wneud. Roedd hyn yn cynnwys secondio dau Aseswr Budd Pennaf dros dro llawn amser i weithio'n unig ar yr asesiadau Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid ac i flaenoriaethu a rheoli'r ôl-groniad. Argymhelliad y cynllun oedd bod pob gweithiwr cymdeithasol mewn Gwasanaethau Oedolion yn cael eu hyfforddi fel Aseswyr Budd Pennaf a bod targedau realistig yn cael eu gosod ar gyfer nifer yr asesiadau a gaiff eu cwblhau gan bob tîm. Byddai systemau monitro ansawdd cadarn hefyd yn cael eu cyflwyno i sicrhau arferion cyson a chyfreithlon.

 

Codwyd pryder ynghylch hyfforddi'r holl weithwyr cymdeithasol i wneud asesiadau a'u gallu i gyflawni'r rôl hon. Tynnodd yr Uwch Reolwr Diogelu sylw at y ffaith fod cynnal asesiadau a gwneud penderfyniadau yn rhan o sgiliau craidd gweithwyr cymdeithasol ac mai'r nod oedd gwneud y gwaith o reoli atgyfeiriadau yn haws. Cafwyd cwestiynau pellach gan yr aelodau yngl?n ag a fyddai'n fuddiol cael mwy o swyddogion penodedig i gyflawni'r rôl yn llawn amser.

 

 Esboniodd y swyddogion mai'r nod oedd datblygu dull cynaliadwy o reoli'r galw a bod awdurdodau lleol ledled Cymru yn mabwysiadu dull tebyg. Nodwyd y byddai'r ôl-groniad o achosion yn cael ei glirio gan yr Aseswyr Budd Pennaf penodedig ac y byddai'r gweithwyr cymdeithasol yn rheoli llif y ceisiadau presennol a newydd.

 

Holodd yr aelodau sut y byddai'r eiriolwr ar gyfer y sawl a fyddai'n colli rhyddid yn cael ei benodi. Eglurwyd pe bai person yn yr ysbyty yna'r Bwrdd Iechyd fyddai'n gyfrifol am y broses a phe bai person mewn cartref gofal yna'r Cyngor fyddai'n gyfrifol.   Esboniodd yr Uwch Reolwr Diogelu mai aelod o'r teulu fyddai fel rheol yn gweithredu fel eiriolwr, oni bai bod neb ar gael.

 

Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch nifer yr atgyfeiriadau a gaiff eu derbyn a'r ffaith fod pobl yn syrthio trwy'r rhwyd oherwydd y cynnydd yn y galw. Y farn oedd y dylid neilltuo mwy o gyllid i fynd i'r afael â'r diffyg adnoddau. Cytunwyd y byddai'r Pwyllgor yn ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'w hannog i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ynghylch y mater hwn.

 

Gofynnodd yr aelodau beth oedd yn digwydd i bobl ar ôl iddynt gael eu hasesu a ph'un a oedd yna systemau priodol ar waith i ddarparu gwasanaethau yn dilyn yr asesiad. Nododd yr Uwch Reolwr Diogelu fod y broses yn un fiwrocrataidd iawn ac ar ôl i rywun gael ei asesu, byddai'n cael ei ailasesu o leiaf unwaith y flwyddyn. Byddai'r aseswr yn penderfynu ar y cyfnod amser sydd ei angen rhwng asesiadau. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod y person yn wybyddus i'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn y rhan fwyaf o'r achosion, ac y byddai yna gynllun gofal ar waith i fynd i'r afael â'u hanghenion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1      dderbyn yr adroddiad;

6.2       bod y Pwyllgor yn ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'w hannog i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ynghylch dyrannu adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn atgyfeiriadau ar gyfer Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.

 

Dogfennau ategol: