Agenda item

CATEGOREIDDIO YSGOLION 2017

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Cryno Cenedlaethol ar Gategoreiddio ar gyfer Ysgolion Sir Gaerfyrddin gyda golwg ar y flwyddyn academaidd 2016/17. Roedd y wybodaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad yn tynnu sylw at sefyllfa bresennol ysgolion y Sir yn ogystal â mannau i’w gwella.  

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch p’un a oedd yna ddigon o Ymgynghorwyr Her yn Sir Gaerfyrddin, roedd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion yn cydnabod fod yna brinder gan mai dim ond chwe swyddog oedd yn nhîm craidd Sir Gaerfyrddin ar y pryd. Fodd bynnag, cymerwyd camau i fynd i’r afael â’r diffyg trwy gomisiynu penaethiaid a oedd yn gweithredu fel Ymgynghorwyr Her ychwanegol. Roedd yr unigolion hyn i gyd yn cael yr un hyfforddiant er mwyn sicrhau cysondeb ar draws y gwasanaeth. Cynghorwyd y Pwyllgor y byddai yna ymgynghorydd ychwanegol yn ymuno â’r Awdurdod ar ôl y Pasg a bod yna fwriad i recriwtio ymhellach ar gyfer yr haf. 

 

Cyfeiriwyd at ymweliad y Pwyllgor ag ysgol yn ddiweddar lle’r oedd tri ymgynghorydd her gwahanol wedi ymweld â’r Pennaeth mewn un flwyddyn, gyda phob un ohonynt yn rhoi cyngor gwahanol. Mynegwyd pryder felly ynghylch diffyg cysondeb y cyngor a’r heriau a roddir i ysgolion. Roedd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion yn cydnabod fod newidiadau o ran Ymgynghorydd Her wedi digwydd gyda rhai ysgolion o ganlyniad i newid yn nhrefniadau’r Tîm Craidd / Comisiynu. Ychwanegodd fod y swyddogion yn parhau i sicrhau cysondeb ar draws eu gwaith, a bod cynnal digwyddiadau hyfforddi ar y cyd yn rheolaidd yn gymorth mawr yn hyn o beth. Yn ogystal, mae ysgolion bellach yn gweithio’n effeithiol mewn amgylchedd ‘hunanwella’. Er enghraifft, mae nifer o ‘Ysgolion Gwyrdd’ yn darparu cymorth i’w cydweithwyr fel rhan o gynnwys ‘dewislen gymorth’ ERW. Ychwanegodd fod rhai Ymgynghorwyr Her, yn anffodus, wedi gorfod cael eu hadleoli er mwyn cefnogi ein hysgolion. Mae hyn o ganlyniad i swyddi gwag yn y tîm craidd.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y penderfynid ac y cytunid ar gategori ysgol. Atgoffodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion y Pwyllgor fod categori ysgol yn cael ei bennu yn dilyn Ymweliad Craidd cyntaf y flwyddyn academaidd a thrafodaethau rhwng yr ymgynghorydd her, y pennaeth, y corff llywodraethu a’r uwch dîm rheoli. Roedd yr ysgolion yn cael eu hannog i awgrymu pa gategori cymorth oedd yn briodol i’w sefyllfa yn eu barn hwy, a byddai hyn yn cael ei drafod a’i herio ymhellach gan Ymgynghorwyr Her wrth ymgynghori â’r partïon perthnasol. Byddai pawb a oedd yn rhan o’r broses yn cytuno ar y categori terfynol, a lle byddai yna anghytuno, byddai hyn yn cael ei gofnodi’n swyddogol mewn adroddiad. Atgoffodd y Pwyllgor hefyd y gallai ffactorau allanol cenedlaethol (e.e. perfformiad dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim) effeithio ar y categori cymorth terfynol lle’r oedd ysgol yn cael ei rhoi. 

 

Mewn ymateb i awgrym bod yna ddwy adran addysg yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin mewn gwirionedd, sef Gwasanaeth Gwella Ysgolion ERW ar y naill law ac Adran Addysg yr Awdurdod ar y llaw arall, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro fod y swyddogaeth gwella ysgolion wedi’i chomisiynu gan ERW ac felly nad oedd yna unrhyw ddyblygu. Nid oedd gan yr Awdurdod swyddogion gwella ysgolion ar wahân.  Ychwanegodd fod y trefniadau o fewn ERW yn caniatáu perthynas waith lawer agosach rhwng swyddogion y ddau sefydliad. 

 

Mynegwyd pryder fod y pwysau a brofir gan ysgolion uwchradd er mwyn cyrraedd y categorïau cymorth uwch (sydd â chysylltiadau cryfion â chanlyniadau arholiadau) yn arwain at fod rhai ysgolion yn cyflwyno disgyblion i sefyll arholiadau TGAU flwyddyn ymlaen llaw a bod hyn yn rhoi pwysau gormodol ac annheg ar y disgyblion.    Awgrymwyd y gallai disgyblion gyflawni canlyniadau llawer gwell o gael astudio am ddwy flynedd lawn yn hytrach na chael eu gorfodi i astudio’r cwricwlwm cyfan mewn un flwyddyn. Roedd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion yn cydnabod pryder y Pwyllgor a nododd fod yr union fater hwn wedi cael ei drafod gan ERW. Roedd yn cytuno y dylai’r broses fod yn ymwneud â sicrhau bod disgyblion yn gallu gwneud eu gorau ac mai eu cyflawniad hwy oedd y ffactor pwysicaf, ac nid safle categori’r ysgol.  Dywedodd fod ysgolion effeithiol yn olrhain cynnydd disgyblion unigol yn rheolaidd dros ddwy flynedd y cwrs ac y dylid defnyddio’r arfer o gael disgyblion i sefyll arholiadau’n gynnar fel offeryn diagnostig i gynorthwyo’r dysgwyr. Ychwanegodd fod Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg wedi mynegi pryderon yn ddiweddar ynghylch yr arfer o gael disgyblion i sefyll arholiadau’n gynnar ar lefel genedlaethol. Roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro hefyd yn cydnabod pryderon y Pwyllgor a rhoddodd sicrwydd i’r aelodau ei fod wedi bod yn trafod y mater hwn gydag ysgolion uwchradd unigol yn ystod y misoedd diwethaf. Nododd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod Llywodraeth Cymru yn flaenorol wedi cynnwys rhifedd a mathemateg o fewn y data perfformiad L2i a bod hyn wedi arwain at fod ysgolion yn teimlo bod pwysau arnynt i gyflwyno disgyblion ar gyfer arholiadau yn gynharach na’r hyn sy’n arferol. Roedd hyn bellach wedi cael ei newid i naill ai rhifedd neu fathemateg felly roedd disgwyl y byddai’r arfer hwn yn lleihau.

 

Gofynnwyd p’un a oedd perfformiad disgyblion mewn unedau anghenion addysgol arbennig yn cael ei ystyried wrth benderfynu ar gategorïau cymorth ysgolion uwchradd. Cadarnhaodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod hyn yn digwydd wrth ddiffinio’r ‘Gr?p Safonau’ cenedlaethol. Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd, tra bod perfformiad dysgwyr Cyfnod Allweddol 4 sydd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim wedi dylanwadu ar bedwar o’r categorïau ysgolion uwchradd, ei bod hi’n bwysig cofio bod y categorïau’n ymwneud â’r cymorth sydd ei angen ar ysgolion er mwyn cyflawni safonau gwell. 

 

Nodwyd ei bod hi’n ymddangos bod yna gryn wahaniaeth rhwng y graffiau sy’n dangos y gwelliannau a wnaed gan ysgolion cynradd a’r rheiny yn y sector uwchradd. Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion ei bod hi’n ymddangos felly ond bod hyn oherwydd bod 12 ysgol uwchradd yn cael eu cymharu â thros gant o ysgolion cynradd.  Atgoffodd y Pwyllgor eto mai’r mater pwysig oedd y cymorth a oedd yn dod gyda’r gwahanol gategorïau ac y gallai ysgolion, yn lleol, symud i fyny neu i lawr categori yn dibynnu ar y mesurau y gallai ysgol fod wedi’u rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn. Er efallai na fyddai hyn yn cael ei adlewyrchu’n genedlaethol, ar lefel leol roedd y swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion i gefnogi’r agenda gwella.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.  

Dogfennau ategol: