Agenda item

CYNLLUN HENEIDDIO'N DDA SIR GAERFYRDDIN - ADRODDIAD BLYNYDDOL

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol Cynllun Heneiddio'n Dda Sir Gaerfyrddin. Eglurwyd bod y Cyngor, fel un o lofnodwyr Datganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed, wedi ymrwymo yn 2014 i lunio Cynllun Heneiddio'n Dda a bod ar y Comisiwn ar gyfer Pobl H?n angen Adroddiad Blynyddol.  Y nod cyffredinol oedd manteisio i'r eithaf ar allu cymunedau i helpu pobl h?n i fyw'n annibynnol.

 

Eglurodd y Swyddog Polisi, Ymgynghori ac Ymgysylltu fod yr Adroddiad Blynyddol yn dangos perfformiad y Cyngor o ran y pum prif flaenoriaeth: Cymunedau sy'n Ystyriol o Bobl H?n, Cymunedau sy'n Cefnogi Pobl â Dementia, Atal Codymau, Cyfleoedd am Waith a Sgiliau Newydd, ac Unigedd ac Unigrwydd. Nodwyd ei bod yn bwysig fod y Cyngor yn newid y ffordd roedd gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u darparu er mwyn sicrhau y gallai pobl, wrth i nifer y bobl h?n yn Sir Gaerfyrddin barhau i gynyddu, fwynhau iechyd da a bod yn rhan o fywyd eu teuluoedd a'u cymunedau i'r graddau mwyaf posibl. Eglurwyd bod ystod ehangach o fesurau yn cael eu hystyried yr oedd angen ymyriadau ar lefel is ar eu cyfer i sicrhau cynaliadwyedd.

 

Dywedwyd bod llawer o waith wedi ei wneud i ddatblygu cymunedau sy'n cefnogi pobl â dementia ac roedd y ffaith mai marchnad Llanelli oedd yr un gyntaf yng Nghymru i gefnogi pobl â dementia yn enghraifft dda o hyn. Hefyd roedd cryn waith wedi ei wneud o ran atal codymau ac enghraifft o hyn oedd Cynllun SAVE ar draws partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a oedd yn fenter gwneud i bob cysylltiad gyfrif. Roedd y Cynllun yn darparu hyfforddiant i bartneriaid fel y gallent glustnodi ble y gallai gwasanaethau atal fod yn ofynnol pan oeddent mewn cysylltiad â thrigolion. Dywedwyd bod unigedd ac unigrwydd yn 'lladdwr tawel' ac roedd gweithgareddau a oedd o fudd i drigolion a chymunedau wedi cael eu cyflwyno.  Er enghraifft, annog ffyrdd o fyw egnïol, gwirfoddoli a chonsesiynau theatr.

 

Mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch diffyg trafnidiaeth gyhoeddus reolaidd mewn ardaloedd gwledig a chost defnyddio dulliau eraill o drafnidiaeth er mwyn mynd i ysbytai a chyfleusterau eraill, yn enwedig os oedd pobl wedi cael eu hatgyfeirio yno. Gofynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig a oedd problemau ynghylch mynediad i ofal sylfaenol wedi cael eu codi gyda'r Cyngor Iechyd Cymuned. Cynigiwyd a chytunwyd gan y Pwyllgor fod y Cyngor Iechyd Cymuned yn cael gwahoddiad i gyfarfod yn y dyfodol i drafod materion o'r fath.

 

Dywedwyd nad oedd cynlluniau trafnidiaeth, megis Ceir Cefn Gwlad, ar gael ym mhob rhan o'r sir. Nododd y Pwyllgor y dylai Ceir Cefn Gwlad gael ei hysbysebu'n fwy er mwyn recriwtio rhagor o yrwyr gwirfoddol ac annog pobl i ddefnyddio'r cynllun er mwyn iddo ehangu. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y byddai'n rhaid sicrhau bod capasiti i ateb cynnydd yn y galw cyn hysbysebu rhagor ar y cynllun. Awgrymwyd, pan fyddai'r gwasanaeth mewn sefyllfa i gynyddu hysbysebu, y byddai'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn blatfform delfrydol ar gyfer hysbysebu o'r fath. Dywedodd y Rheolwr Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, o ganlyniad i ymgynghori â phobl h?n, fod y Gwasanaeth yn ceisio creu cymunedau o bobl a oedd yn gallu rhannu trafnidiaeth. 

 

Dywedodd yr aelodau fod y Gwasanaethau Cymdeithasol fel pe baent yn fwy hyblyg o ran diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth na'r Gwasanaeth Iechyd, a oedd yn fwy cyfarwyddol. Dywedwyd bod pobl h?n a oedd mewn ysbytai a chartrefi gofal y tu allan i'r prif ardaloedd trefol, er enghraifft yn Cross Hands, yn mynd yn fwy ynysig, a hynny'n  rhannol o achos diffyg cysylltiadau trafnidiaeth. Nodwyd y byddai cael cartref gofal yn Llanelli yn helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn. Dywedwyd y byddai gwybodaeth am brosiect ARCH yn cael ei chynnwys yn y cyflwyniad ar y Fargen Ddinesig yng nghyfarfod y Cyngor Arbennig y prynhawn hwnnw. Nodwyd mai gwelyau camu i lawr am gyfnod dros dro oedd y lleoliadau yn Cross Hands.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder fod gostyngiad yn y dosbarthiadau cymunedol o achos arbedion effeithlonrwydd o ran y gyllideb, a'r gobaith oedd y byddai datblygiadau newydd fel y llyfrgell yn Llandeilo yn helpu i hybu rhagor o grwpiau cymunedol. Dywedodd yr aelodau fod y consesiynau roedd y theatrau'n eu cynnig yn rhoi gwerth da am arian.

 

Dywedodd yr aelodau fod y Fforwm 50+ wedi tyfu a'i fod yn gwneud yn dda, a diolchodd y Pwyllgor i'r Fforwm. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1       bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

6.2       bod y Cyngor Iechyd Cymuned yn cael gwahoddiad i un o gyfarfodydd y Pwyllgor Craffu – Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Dogfennau ategol: