Agenda item

GWELLA CYMORTH DEMENTIA YN SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad cynnydd ynghylch Gwella'r Gwasanaethau Cymorth Dementia yn Sir Gaerfyrddin. Soniwyd wrth yr aelodau am yr argymhellion cenedlaethol roedd y Comisiynydd Pobl H?n wedi eu cyhoeddi ynghylch gwelliannau roedd angen eu gwneud i'r gwasanaethau dementia, y gr?p llywio rhanbarthol oedd wedi ei sefydlu i roi'r gwelliannau hyn ar waith, a'r cynnydd a'r camau a gymerwyd ar lefel leol i ymateb i'r argymhellion hyn. 

 

Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at y cyhoeddiad cenedlaethol diweddar gan Gomisiynydd Pobl H?n Cymru o'r enw 'Mwy na dim ond colli'r cof', a oedd yn nodi'r hyn oedd yn bwysig i bobl oedd yn byw â dementia a'u gofalwyr o bob cwr o Gymru.  Roedd yr adroddiad yn nodi bod angen cymorth cyson ar bobl, a oedd yn cynnwys cymorth emosiynol yn ogystal â chorfforol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am ddatblygiad Bwrdd Gweithredu Dementia Sir Gaerfyrddin a rhoddwyd amlinelliad bras iddo o'r gwaith oedd wedi cael ei wneud yn lleol. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys datblygu Cymunedau sy'n Cefnogi Pobl â Dementia a gefnogai'r mudiad cenedlaethol ac a anelai at wella ymateb cymdeithas i bobl sydd â dementia. Dywedwyd mai Pontyberem oedd y gymuned ddementia swyddogol gyntaf yn Sir Gaerfyrddin, ac mai marchnad Llanelli oedd y farchnad gyntaf yng Nghymru i gefnogi dementia.

 

Nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud gyda'r sector gofal sylfaenol i ddarparu gwasanaethau dementia cyfannol. Soniodd swyddogion fod clwstwr Meddygon Teulu Aman Gwendraeth yn parhau i gyllido'r gwasanaeth cof cymunedol, a oedd wedi'i gydnabod yn genedlaethol yn arfer da.  Nodwyd bod Meddygon Teulu yn Llanelli, gyda chefnogaeth y Tîm Cymunedol, yn diagnosio dementia yn y meddygfeydd, a oedd yn atal yr angen am atgyfeirio cleifion i ysbytai ac yn arwain at ddiagnosis mwy amserol. Hefyd roedd cynnydd wedi ei wneud o ran gwaith ar Gomisiynu er mwyn ymchwilio i gyfleoedd i ddatblygu model gofal a chymorth pwrpasol ar gyfer y rheiny oedd yn byw â dementia a nam gwybyddol. Byddai'r model yn ymagwedd fwy hyblyg na'r model gofal cartref traddodiadol ac yn diwallu'n well anghenion yr unigol yn ogystal ag arbed arian ac adnoddau.

 

Dywedodd yr aelodau fod peth o'r gwaith oedd yn cael ei wneud o ran gwasanaethau dementia wedi bod yn rhagorol. Yn benodol, crybwyllwyd cyfleuster iechyd a llesiant T? Golau a dywedwyd ei bod yn gadarnhaol gweld Meddygon Teulu yn cefnogi mentrau buddiol o'r fath.
 

Nododd y Pwyllgor fod y cyfraddau diagnosio dementia yn isel ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Gofynnwyd a oedd hyn oherwydd bod gan lai o bobl yn yr ardal ddementia neu oherwydd bod y Bwrdd Iechyd ddim yn perfformio cystal ag ardaloedd eraill o ran ei ddiagnosio.  Eglurodd swyddogion mai ffigurau Cymdeithas Alzheimer's oedd y rhain a'u bod wedi eu seilio ar wybodaeth am boblogaeth. Fodd bynnag, nid oedd yn wyddor fanwl. Roedd canfyddiadau Cymdeithas Alzheimer's a dadansoddiad y Bwrdd Iechyd ei hun yn awgrymu efallai fod tanberfformio o ran diagnosisau ffurfiol. Yn ogystal â'r cyfraddau isel, eglurwyd bod angen rhoi sylw i'r amser roeddid yn ei gymryd i roi diagnosis.

Gofynnodd yr aelodau a fyddai'r gwaith oedd yn cael ei wneud i wella cymorth dementia yn cael ei ymestyn i bob rhan o'r sir. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y gwasanaeth yn Llanelli yn cael ei gyllido'n bennaf drwy ofal sylfaenol a chan Feddygon Teulu oedd y dweud mwyaf o ran sut y dylid defnyddio'r arian. Fodd bynnag dylid rhannu'r holl arferion da ar draws Sir Gaerfyrddin a rhoddwyd enghreifftiau o ble roedd hyn wedi digwydd. Croesawyd Neil Morgan, y Rheolwr Ardal Leol newydd ar gyfer Aman Gwendraeth, gan y Pwyllgor a nodwyd y byddai'n gweithio gydag arweinydd Meddygon Teulu newydd yn yr ardal.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: