Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Mrs Bobbie Jones, Arolygydd Strategaeth Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i'r cyfarfod.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu canfyddiadau AGGCC a'r argymhellion ar gyfer Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, yn dilyn arolygiad o'r gwasanaethau ym mis Gorffennaf 2016. Mrs Jones oedd Arolygydd Arweiniol y tîm a ymgymerodd â'r arolygiad gan roi adborth i'r Pwyllgor ar ganfyddiadau'r tîm.
Cynhaliwyd yr arolygiad yn ystod cyfnod o newid sylweddol gan fod y Cyngor yn y broses o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd yr Awdurdod hefyd yn cyflwyno modelau gweithredu diwygiedig o ran gwaith cymdeithasol ledled Gwasanaethau Plant. Roedd yr arolygiad yn defnyddio dull diwygiedig o ran arolygu Awdurdodau Lleol, gyda mwy o bwyslais ar ddeall sut y mae darpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yn gwella canlyniadau i blant a theuluoedd y mae arnynt angen gofal a chymorth.
Pwysleisiodd Mrs Jones nad arolygiad llawn oedd hwn ond yn hytrach cynllun peilot yn defnyddio offer a methodoleg newydd. Adolygwyd rhwng 30 a 40 o ffeiliau achosion, cafodd nifer o weithwyr cymdeithasol eu cyfweld ac roedd y canlyniadau'n gadarnhaol iawn. Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar y trefniadau mynediad i blant a nodwyd bod Sir Gaerfyrddin yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael, fodd bynnag, roedd angen rhagor o waith i godi ymwybyddiaeth o ran darpariaeth cymorth cynnar.
O ran darparu gwasanaethau gwybodaeth, nododd mai dim ond ers mis Ebrill y daeth y Ddeddf i rym, a chynhaliwyd yr arolygiad ym mis Gorffennaf, fodd bynnag, roedd sylfeini da yn cael eu gosod. O ran trefniadau arweinyddiaeth, rheoli a llywodraethu roedd yn glir bod gwasanaethau plant yn cael eu blaenoriaethu yn y Cyngor. Roedd hi o'r farn y byddai'n ddefnyddiol i'r Pwyllgor gael adborth mwy penodol gan y teuluoedd am eu barn ynghylch y gwasanaethau ataliol a chael help yn gynnar. Roedd o'r farn bod angen rhagor o waith gyda phartneriaid i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac awgrymodd y gellid gwneud hyn drwy gyfrwng y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol. Roedd y tîm wedi cael argraff dda iawn o'r ffaith fod y gweithlu'n brofiadol, yn sefydlog ac yn gwbl ymroddedig i weithio mewn modd agored a thryloyw. I gloi dywedodd fod gwaith ardderchog yn cael ei wneud yn Sir Gaerfyrddin.
Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Jones am ei chyflwyniad a'r farn gyffredinol oedd bod yr adroddiad yn gadarnhaol iawn, fodd bynnag, roedd meysydd i'w datblygu ymhellach.
Croesawodd y swyddogion yr adroddiad ac roeddent o'r farn ei fod yn gytbwys ac yn deg ac aethant ymlaen gan ddweud wrth y Pwyllgor eu bod eisoes yn gweithredu'r argymhellion. Roedd yn ddyddiau cynnar o ran y newid yn dilyn y ddeddfwriaeth newydd, fodd bynnag, roedd cynnydd da ar waith.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-
- Mynegwyd pryderon gan fod cymeriadau plant yn datblygu yn ystod eu blynyddoedd cynnar, gofynnwyd i'r swyddogion a oeddent yn ceisio dylanwadu ar y rheini gan mai nhw oedd yr esiampl iddynt. Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Plant os nad oedd rhieni'n ymwybodol o'r problemau yna sut oedd disgwyl iddynt wneud unrhyw beth, roedd yn fater o adnabod ac egluro'r broblem a helpu rhieni i ddarganfod yr hyn sydd angen ei newid/wneud. Roedd yn nod/canlyniad a rennir a byddai'r model Signs of Safety a oedd yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd yn helpu o ran hyn. Ychwanegodd fod cynnydd yn cael ei wneud yn y maes;
- Mynegwyd pryder am y pwysau sydd eisoes ar ysgolion a gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai modd cyflog unigolyn penodedig i ymdrin â'r materion hyn, o bosibl gan weithio gyda chlwstwr o ysgolion. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod llawer o wasanaethau ataliol a chymunedol ar gael, ac roedd yn fater o sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael;
- Croesawodd yr aelodau'r adroddiad a oedd yn galonogol a chadarnhaol iawn.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a'r argymhellion yn dilyn Arolygiad AGGCC o'r Gwasanaethau Plant.</AI6>
Dogfennau ategol: