Agenda item

CAIS AM AMRYWIO TRWYDDED SAFLE, POPLARS INN, GLAN YR AFON, TRE IOAN, CAERFYRDDIN SA31 3HU

AR ÔL YMWELD Â'R SAFLE UCHOD, BYDD Y CYFARFOD YN CAEL EI OHIRIO AC YN AILYMGYNNULL YN Y SIAMBR, NEUADD Y SIR, CAERFYRDDIN AM 10.00 A.M. ER MWYN YSTYRIED UNRHYW SYLWADAU A PHENDERFYNU’R CAIS TRWYDDEDU UCHOD .

 

 

Cofnodion:

Gadawodd yr Is-bwyllgor Neuadd y Sir, Caerfyrddin, am 9.35 a.m. ac ailymgynnull am 9.45 a.m. ar safle'r Poplars Inn, Glan yr Afon, Tre Ioan er mwyn gweld lleoliad yr eiddo a chael cyfle i archwilio'r cyfleusterau mewnol ac allanol. Ar ôl i'r ymweliad safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 10.05 a.m. i ystyried y cais.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at nifer o ddogfennau ychwanegol a ddosbarthwyd ar ddechrau'r cyfarfod a dywedodd wrth y rhai oedd yn bresennol, er mwyn rhoi cyfle i'r Is-bwyllgor a'r partïon oedd yn bresennol ddarllen y deunydd hwnnw, y byddai dechrau'r cyfarfod yn cael ei ohirio am 10 munud.

 

Ar ôl hynny, soniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, gan ddweud wrth yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr M. Howells am amrywio'r drwydded safle ar gyfer y Poplars Inn, Glan yr Afon, Caerfyrddin fel a ganlyn:-

 

I ganiatáu:

 

Cyflenwi Alcohol:-                               Dydd Llun tan ddydd Sul 07:00 – 01:30

Cerddoriaeth Fyw:-                        Dydd Llun tan ddydd Sul 23:00 – 01:00

Cerddoriaeth a Recordiwyd:-         Dydd Llun tan ddydd Sul 11:00 – 01:00

Lluniaeth Hwyrnos:-                Dydd Llun tan ddydd Sul 23:00 a 01:00

 

Oriau Agor:-                                        Dydd Llun tan ddydd Sul 07:00 – 02:00

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A – copi o'r cais

Atodiad B – sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

Atodiad C – sylwadau Heddlu Dyfed-Powys

Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd

Atodiad E – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.

 

Yn ychwanegol at y dogfennau uchod cafodd yr Is-bwyllgor, gyda chaniatâd yr holl bartïon oedd yn bresennol, y dogfennau ychwanegol canlynol yr oedd wedi bod yn ofynnol yn gynharach i ohirio'r cyfarfod am 10 munud i roi cyfle i'r holl bartïon ddarllen y deunydd:

 

·        E-bost gan Mr M. Price, Heddlu Dyfed-Powys, dyddiedig 5 Rhagfyr, a oedd yn cadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cytuno ar yr 21 o amodau roedd yr Heddlu yn eu cynnig, ac, o'r herwydd, fod yr Heddlu yn tynnu ei wrthwynebiad yn ôl

·        E-bost gan Mr A. Morgan, Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, dyddiedig 8 Rhagfyr, a oedd yn cadarnhau bod Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl, a hynny yn sgil dod i gytundeb â'r ymgeisydd ynghylch yr amodau roedd y Gwasanaethau yn eu hawgrymu, ac oriau gweithredu diwygiedig

·        E-bost gan y Cynghorydd A.D.T. Speake, dyddiedig 7 Rhagfyr, 2016, a oedd yn cyfeirio at ei e-bost blaenorol a anfonwyd ar 10 Tachwedd 2016

·        Copi o'r Drwydded Safle mewn perthynas â'r Friends Arms, Tre Ioan, Caerfyrddin

·        Copi o'r Drwydded Safle ar gyfer y Poplars Inn, Tre Ioan, Caerfyrddin

·        Dogfen P/1 gan yr ymgeisydd mewn ymateb i nifer o faterion a godwyd fel rhan o'r Cais am Amrywio

·        Copi o lythyr cefnogi oddi wrth Mr a Mrs Evans, sef deiliaid rhif 1 Glan yr Afon, Tre Ioan, ger y Poplars Inn.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, y manylwyd arnynt yn Atodiad B yr adroddiad. Rhoddodd wybod i'r Is-bwyllgor fod Heddlu Dyfed-Powys, yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad, wedi cadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cytuno i dderbyn yr 21 o amodau roedd yr Heddlu yn argymell y dylid eu gosod ar unrhyw amrywiad i'r Drwydded Safle (gweler tudalennau 27 -29 o'r adroddiad). O ganlyniad roedd yr Heddlu yn tynnu ei wrthwynebiadau yn ôl. Yn yr un modd, roedd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl ar sail dod i gytundeb â'r ymgeisydd ynghylch gosod 8 amod argymelledig ar unrhyw amrywiad i'r Drwydded Safle ynghyd ag oriau gweithredu diwygiedig (gweler tudalen 33 o'r adroddiad).

 

Dywedodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu nad oedd y cais Amrywio presennol yn cynnwys unrhyw amodau arfaethedig, a'i fod yn gofyn am waredu'r holl amodau oedd ynghlwm wrth y drwydded safle addasedig gyfredol.  O dan amgylchiadau o'r fath, fel arfer byddai'r Awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno asesiad ysgrifenedig yn unol â Pharagraffau 11.2 a 5.2-5.5 o Bolisi Trwyddedu'r Cyngor, gan fanylu ar y mesurau rheoli yr oedd yn bwriadu eu rhoi ar waith i sicrhau bod sylw'n cael ei roi, wrth weithredu'r safle, i broblemau s?n blaenorol ar y safle o dan ddeiliaid trwydded blaenorol. Fodd bynnag, o ystyried yr amodau roedd Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn eu hargymell, fel awdurdodau cyfrifol, ynghyd â'r oriau gweithredu diwygiedig a awgrymwyd, nid oedd gan yr Awdurdod Trwyddedu unrhyw wrthwynebiad i ganiatáu'r cais am Amrywio, yn amodol ar atodi i'r drwydded yr oriau diwygiedig/amodau argymelledig y cytunwyd arnynt.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Dywedodd cynrychiolydd o Gyngor Tref Caerfyrddin wrth yr Is-bwyllgor fod gwrthwynebiad cychwynnol y Cyngor Tref i'r cais Amrywio wedi ei wneud ar sail sicrhau bod oriau gweithredu'r Poplars yr un peth â'r tafarn agosaf sef 'The Friends Arms' yn Nhre Ioan.  Fodd bynnag, ar ôl archwilio'r dogfennau ychwanegol a ddosbarthwyd yn y cyfarfod, ystyried bod Heddlu Dyfed-Powys wedi tynnu ei wrthwynebiad yn ôl, ac ystyried llythyr cefnogi gan berchennog yr eiddo cyfagos, roedd y Cyngor Tref yn tynnu ei wrthwynebiad yn ôl. 

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Cyngor Tref Caerfyrddin ynghylch ei sylwadau.

 

Cafwyd sylw a oedd yn cefnogi'r cais ac yn croesawu ymdrechion yr ymgeisydd i ailagor y safle a manteision posibl hynny i'r gymuned.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r cefnogwr ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr ymgeisydd at ddogfen P/1, a oedd wedi'i dosbarthu i'r Is-bwyllgor yn flaenorol, a dywedodd fod sylwadau'r ymgeisydd, yn amodol ar unrhyw gwestiynau, wedi'u cyfyngu i'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn y ddogfen.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol gwestiynu'r ymgeisydd a'i gynrychiolydd ynghylch eu sylwadau, a chadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi cytuno â'r amodau awgrymedig roedd awdurdodau cyfrifol Heddlu Dyfed-Powys a'r Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn eu cynnig, ynghyd â'r oriau gweithredu diwygiedig.

 

Yna bu i'r Is-bwyllgor

 

BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD bod y cais am amrywio'r Drwydded Safle ar gyfer y Poplars Inn, Glan yr Afon, Tre Ioan, Caerfyrddin yn cael ei ganiatáu, yn amodol ar y telerau yr oedd yr ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol wedi cytuno arnynt 

Y RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

1.   Nid oedd unrhyw broblemau wedi codi o ran y safle ers i'r ymgeisydd ddechrau ei reoli

2.   Cyn hynny fodd bynnag, roedd cwynion a phryderon wedi codi ynghylch y modd roedd y safle'n cael ei redeg

3.   Roedd y safle mewn ardal a oedd yn un breswyl yn bennaf, heb fod ymhell o safle trwyddedig arall

4.   Nid oedd dim gwrthwynebiadau na sylwadau wedi dod i law gan neb oedd yn byw'n agos i'r safle

5.   Nid oedd dim un o'r awdurdodau cyfrifol yn gwrthwynebu caniatáu'r cais mewn egwyddor

6.   Roedd yr Ymgeisydd a'r Awdurdodau Cyfrifol wedi cytuno ar set newydd o amodau trwydded i'w gosod ar y drwydded

 

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr heddlu, gwasanaethau iechyd y cyhoedd a'r awdurdod trwyddedu.

 

Derbyniodd yr Is-bwyllgor dystiolaeth yr awdurdodau cyfrifol y gallai'r cais am ymestyn oriau gweithredu'r safle gael ei ganiatáu'n ddiogel ar yr amod bod  amodau trwydded pendant yn cael eu gosod ar y drwydded safle, er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

 

Yn sgil y cytundeb roedd yr ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol wedi dod iddo, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na fyddai caniatáu'r cais, yn unol â'r amodau hynny y cytunwyd arnynt, yn tanseilio'r amcanion trwyddedu. Hefyd roedd y pwyllgor yn fodlon fod yr amodau hynny yn ymateb cymesur i'r materion a godwyd.

 

Yn unol â hynny, roedd y pwyllgor yn credu bod caniatáu'r cais, yn unol â'r telerau y cytunwyd arnynt, yn briodol.

 

Dogfennau ategol: