Agenda item

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y SEFYLLFA YNGHYLCH Y DIGWYDDIAD GOLLWNG KEROSENE YN NANT-Y-CAWS

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 5 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd, 2016 derbyniodd y Pwyllgor adroddiad i’w ystyried ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch y digwyddiad gollwng kerosene ar 4 Hydref 2016 yn Nant-y-caws, Sir Gaerfyrddin.  Nododd yr aelodau nad oedd yr adroddiad yn nodi achos y digwyddiad na’r  ymateb brys cychwynnol (i’w ystyried gan gyfarfod amlasiantaeth ar 19 Rhagfyr), fodd bynnag, bu'r aelodau'n ystyried y meysydd allweddol canlynol ynghylch y digwyddiad ar 29 Tachwedd 2016:-

 

·         Monitro

·         Goblygiadau Iechyd

·         Ymgysylltu Cymunedol

·         Adennill Costau (Asiantaethau)

·         Adennill Costau (Cynghorau Cymuned a Phreswylwyr Preifat)

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegwyd nifer o bryderon am dir ffermio tua 40-50 erw a oedd o bosibl wedi’i halogi a’r gallu i ffermio’r tir hwnnw yn y dyfodol. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor mai cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru oedd materion a oedd yn ymwneud â'r pryderon a’r ymholiadau hyn. Dywedwyd wrth yr aelodau, os oeddent yn dymuno cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol byddai’n fodlon darparu manylion cyswllt yn unol â hynny. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch halogi d?r eiddo cyfagos a goblygiadau iechyd preswylwyr.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor y byddai unrhyw erlyniadau posibl yn cael eu trafod yn ystod y Gr?p  Adfer, ond mater i Cyfoeth Naturiol Cymru fyddai hynny.

 

Mynegwyd pryder ynghylch yr elifion ‘du’ a gafodd eu darganfod yn ddiweddar yn Nant Pibwr a’r gobaith oedd y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd ag ymchwiliad trylwyr. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dilyn yr adroddiad cychwynnol hwn, yn parhau i ymchwilio i ffynhonnell y digwyddiad.

 

Cyfeiriwyd at halogiad d?r ffynnon posibl a mynegwyd pryderon ynghylch yr amseru o ran pryd cafodd samplau eu cymryd. Teimlwyd er mwyn cael y darlleniad mwyaf manwl, dylai samplau gael eu cymryd ar unwaith yn dilyn cyfnod trwm o law. Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wrth yr aelodau fod samplau yn cael eu cymryd yn uniongyrchol o’r twll turio er mwyn cael darlleniad cywir.  Ar wahân i’r sampl cychwynnol a gymerwyd yn fuan ar ôl y digwyddiad, nid oedd unrhyw arwydd o halogiad. Fodd bynnag, byddai’r eiddo yr effeithiwyd arno yn parhau’n gysylltiedig â'r prif gyflenwad d?r hyd nes y byddai rhagor o samplau yn cael eu cymryd er mwyn diystyru unrhyw halogiad yn y dyfodol. Byddai cynrychiolwyr Tîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin ac ymgynghorwyr monitro Valero yn cysylltu â phreswylwyr yr eiddo er mwyn esbonio’r rheswm dros barhau i fonitro'r cyflenwad d?r.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch ymgysylltu â’r gymuned, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, er ei bod yn cydnabod rhwystredigaeth yr aelod lleol a’r Cynghorwyr Cymuned, roedd cyfarfod y Gr?p Adfer fel arfer yn cynnwys cynrychiolwyr o’r asiantaethau hynny a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gweithrediad a’r gwaith adfer. Fodd bynnag, roedd y Gr?p Adfer wedi cynnig anfon cynrychiolydd i gyfarfod Cyngor Cymuned Llangynnwr er mwyn darparu adborth am y digwyddiad. Ar ben hynny, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn cynnal cyfarfodydd â chynrychiolwyr o’r gymuned bysgota leol.

 

Gofynnwyd a fyddai modd i’r Pwyllgor wahodd cynrychiolydd o Valero i roi adborth yn dilyn y cyfarfod amlasiantaeth ar 19 Rhagfyr 2016. Cytunodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y byddai’n cysylltu â chwmni Valero a gwahodd cynrychiolydd i fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol ar ôl i’r adroddiad am yr ymchwiliad i’r digwyddiad gael ei gwblhau er mwyn trafod y mater ymhellach.

 

Codwyd y mater ynghylch iawndal i fusnesau yn nhref Caerfyrddin oherwydd effaith cau ffordd yr A48 ar fusnesau. Yn dilyn trafodaeth, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor fod Valero wedi nodi y dylai unrhyw geisiadau am iawndal gael eu hanfon atynt yn uniongyrchol.

 

Ar yr adeg hon, bu i'r Cynghorydd D. Davies ddatgan buddiant sef ei fod yn aelod o Glwb Pysgota Caerfyrddin a’r Ardal.

 

Gofynnwyd a fyddai modd i gynrychiolaeth o glybiau Pysgota Caerfyrddin a’r Ardal, Abergwili a Rhydaman fod yn bresennol mewn cyfarfodydd a oedd yn ymwneud â’r digwyddiad yn y dyfodol.  Mewn ymateb, atgoffodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y Pwyllgor y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal cyfarfodydd â chynrychiolwyr y grwpiau pysgota lleol.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: