Agenda item

ADRODDIAD MONITRO'R CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16

Cofnodion:

Roedd y Cyng. D.E. Williams wedi datgan buddiant gan ei fod ef yn berchennog cyfreithiol Troadau Cystanog (ar y B4300, Capel Dewi).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Tîm Diogelwch Cymunedol, fel yr oeddynt ar 30ain Mehefin 2015, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2015/16. Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Yn ateb i gwestiwn am statws presennol trosglwyddo cyfleusterau cyhoeddus, nododd Cyfrifydd y Gr?p fod yr amrywiad o £44,000 yn ymwneud â'r costau oedd yn parhau fel rhan o'r rhaglen dreigl dair blynedd o drosglwyddiadau.

 

Cyfeiriwyd at yr amrywiad o £50,000 yn y gwasanaeth Dylunio Sifil a gofynnwyd am eglurhad ynghylch ffynhonnell yr incwm. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p wrth y Pwyllgor fod yr incwm yn dod o gleientiaid mewnol ac allanol a bod adolygiad o'r cyfraddau'r awr a'r cynhyrchiant yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i geisio gwneud iawn am y diffyg posibl mewn incwm. Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor fod Timau Dylunio Priffyrdd a Ffyrdd nad ydynt yn Briffyrdd yn uno ar hyn o bryd. Y Cyfarwyddwr blaenorol oedd wedi cynnig hyn ac roedd yr ailstrwythuro'n digwydd er mwyn cronni sgiliau a gwybodaeth, bod yn llai dibynnol ar ymgynghorwyr allanol ac ymdrin â chynnydd a gostyngiad yn y galw.

 

Yn ateb i sylwadau pellach ynghylch creu incwm a'r costau oedd yn gysylltiedig â swyddi gwag, cytunodd Cyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd fod gwaith y Gwasanaeth Dylunio yn gyfle i greu incwm i'r Awdurdod. Un enghraifft o hyn oedd y gwaith oedd yn digwydd gyda sefydliadau allanol yn y sector cyhoeddus i reoli fframweithiau contractwyr rhanbarthol. Roedd y costau oedd yn gysylltiedig â swyddi gwag yn dangos fod pob swydd yn y gwasanaeth hwn yn creu incwm i'r Awdurdod a bod cyflogi staff yn risg pan fyddai'r galw am waith yn gostwng. Dyma reswm arall pam roedd yr Awdurdod Lleol yn gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, a thrwy hynny'n sicrhau bod rhaglenni gwaith yn y dyfodol yn cael eu cynllunio'n well. 

 

Gofynnwyd pam roedd amrywiad o £393,000 yng nghyllideb y Gwasanaethau Eiddo oherwydd targed incwm nad oedd modd ei gyflawni, a hithau'n hysbys y byddai gwaith Safon Tai Sir Gaerfyrddin yn gostwng yn y pen draw wrth i'r prosiect gael ei gwblhau. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p a Chyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor fod y Gwasanaeth yn ystyried amrywiol arbedion effeithiolrwydd a bod uwch swyddogion yn edrych ar y mater hwn gan ei fod yn fater a oedd wedi cael ei gydnabod ers cryn amser a bellach roedd pethau wedi mynd i'r pen.

 

Gofynnwyd a fyddai cronfeydd a glustnodwyd (corfforaethol neu adrannol) yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â'r amrywiad diwedd blwyddyn a ragwelir sef £379,000. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p wrth y Pwyllgor fod cronfeydd adrannol a phenodol y gellid eu defnyddio i dalu'r gorwariant ond bod yr ymarfer monitro diweddaraf o'r gyllideb ar gyfer diwedd Awst 2015, wedi dangos bod y gorwariant wedi gostwng.     Nododd Cyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd fod cronfeydd yn cael eu cadw'n aml ar gyfer prosiectau a fyddai'n arbed arian i'r Awdurdod yn y tymor hir (e.e. uwchraddio'r rhwydwaith goleuadau cyhoeddus gyda bylbiau ynni effeithlon) ond byddai modd dosbarthu rhestr o'r cronfeydd hynny a'r hyn y dyrannwyd nhw'n benodol ar eu cyfer, i'r Pwyllgor.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr amrywiad o £17,000 yn y Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd wrth dangyflawni o ran incwm ffioedd yn 2015/16. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Safonau Masnach wrth y Pwyllgor fod hyn yn adlewyrchu'r hinsawdd ariannol bresennol ac yn ymwneud â'r Gwaith Diogelwch a wnaed i fonitro ac i reoleiddio'r gwaith o storio deunyddiau peryglus (e.e. ffrwydron). Hefyd roedd achosion llys a gallu'r Awdurdod i adennill costau wedi dylanwadu ar yr amrywiad.

 

Yn ateb i gwestiwn am y gwaith yng Nghronfa Dd?r Trebeddrod, roedd Cyfrifydd y Gr?p yn cydnabod nad oedd dim manylion yn yr adroddiad ond bod £112,000 wedi cael ei wario ar y prosiect hyd yma. Ychwanegodd y gellid dosbarthu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: