Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL 2014/15

Cofnodion:

Croesawyd y Cynghorydd P.A. Palmer (Cadeirydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol) a'r Prif Arolygydd C. Templeton (Heddlu Dyfed-Powys) i'r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

Cafodd adroddiad blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin, a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gyswllt â'r Heddlu, Diogelwch Cymunedol, Cyfiawnder Cymdeithasol/Troseddau ac Anrhefn (a oedd hefyd yn Gadeirydd y Bartneriaeth), ei roi gerbron y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn rhoi sylw i'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â throseddau ac anhrefn yn ystod 2014/15 a'r newyddion diweddaraf gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a'r gwasanaeth Prawf. Hefyd roedd yn rhoi sylw i'r prif feysydd lle roedd gweithio mewn partneriaeth ac i flaenoriaethau presennol y grwpiau gweithredu amlasiantaeth a oedd yn gyrru'r agenda diogelwch cymunedol yn ei blaen.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at risgiau diogelwch mewn dyfrffyrdd mewndirol ac o'u cwmpas a gofynnwyd pwy oedd yn gyfrifol dros arwain ynghylch materion o'r fath gan nad oedd gan yr RNLI ddigon o weithwyr i gyflawni'r gwaith hwn. Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau wrth y Pwyllgor ei bod wedi cynnal cyfarfod yn ddiweddar â gr?p newydd yng Nghaerfyrddin (Partneriaeth Diogelwch D?r Sir Gaerfyrddin) a bod y mater i'w drafod yng nghyfarfod nesaf y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Roedd y materion yr oedd angen mynd i'r afael â nhw yn cynnwys egluro pa sefydliad oedd yn gyfrifol dros gynnal a chadw offer diogelwch megis bwiau achub. Sicrhaodd hi'r Pwyllgor y byddai'r sefydliadau amrywiol yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â hyn a'i bod hi'n barod rhoi diweddariad mewn cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Yn ateb i gwestiwn ynghylch faint o ddata o gamerâu Teledu Cylch Cyfyng a ddefnyddiwyd i ddatrys troseddau, dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol wrth y Pwyllgor fod y wybodaeth hon yn cael ei chynnwys o'r blaen yn yr adroddiad blynyddol. Fodd bynnag, o Fehefin 2015 ymlaen, nid oedd ystadegau'n cael eu coladu bellach gan fod y monitro byw wedi dod i ben.

 

Gofynnwyd a fyddai modd defnyddio gwirfoddolwyr i fonitro camerâu Teledu Cylch Cyfyng yn fyw o'u cartrefi nhw.Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol fod yn rhaid i weithredwyr gydymffurfio â gofynion y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) a Diogelu Data ac y byddai'n amhriodol i wirfoddolwyr sydd heb eu hyfforddi wylio delweddau byw o'r cyhoedd.   Fodd bynnag, roedd trafodaethau ar waith gyda chynrychiolwyr yr Heddlu ynghylch y modd y gallai'r camerâu gael eu defnyddio yn y dyfodol a'r defnydd gorau ohonynt.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch ymgyrch ‘#PaulsPledge’ a gofynnwyd am eglurhad o ran pa gefnogaeth roedd Paul Pugh yn ei gael gan y Bartneriaeth. Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol wrth y Pwyllgor fod Heddlu Dyfed-Powys yn arwain ynghylch yr ymgyrch hon a bod yr Awdurdod yn rhoi costau teithio i Mr. Pugh pan fyddai'n hyrwyddo'i ymgyrch mewn digwyddiadau ledled y sir. Hefyd roedd elusennau eraill yn cefnogi gwaith Mr. Pugh.

 

Croesawyd y gostyngiad yn y rhan fwyaf o'r categorïau troseddau ond mynegwyd pryder ynghylch troseddau tymhorol mewn ardaloedd gwledig (e.e. dwyn defaid yn ystod y tymor ?yna), gan yr awgrymwyd bod llawer o drigolion cefn gwlad yn teimlo eu bod ar eu pennau eu hunain i raddau yn wynebu'r problemau hyn.Roedd y Prif Arolygydd yn cydnabod, er bod nifer y troseddau wedi gostwng, bod yr Heddlu'n deall bod dal angen iddo wella ei weithrediadau a deall ei gymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Un elfen o'r gwaith hwn oedd cyflwyno gorsafoedd heddlu teithiol.

 

Cyfeiriwyd at oryrru ar y ffyrdd yn ardal cam cyntaf y datblygiad yn Nwyrain Cross Hands (e.e. Heol y Llew Du) a bod angen gwella'r arwyddion er mwyn atgoffa gyrwyr o'r terfyn cyflymder 30m.y.a. Cytunodd y Prif Arolygydd i fwydo'r wybodaeth hon yn ôl i'r swyddogion perthnasol yn yr Heddlu.

 

Gofynnwyd a fu newid yn y mathau o droseddau y rhoddwyd gwybod amdanynt ac a gofnodwyd. Dywedodd y Prif Arolygydd wrth y Pwyllgor fod troseddau yn ymwneud â cham-drin rhywiol hanesyddol wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd yn arbennig o galonogol bod y dioddefwyr yn barod i ddod ymlaen ac roedd yr Heddlu'n barod i ymdrin â'r cynnydd hwn. 

 

Mynegwyd pryder ynghylch nifer uchel y marwolaethau ymhlith beicwyr modur ac awgrymwyd nad oedd y cynlluniau niferus a oedd ar waith yn arwain at ostyngiad yn y niferoedd hyn. Roedd y Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd a'r Prif Arolygydd yn cydnabod bod nifer y marwolaethau'n destun pryder mawr a bod addysg yn allweddol. Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd bod y fenter ymgysylltu yn Llanymddyfri ond wedi cael ei chyflwyno yn ystod 2015/16 ac y byddai ei heffaith yn cael ei hadolygu maes o law. Dull partneriaeth gyda'r Heddlu a'r Gwasanaeth Tân oedd hyn lle roedd swyddogion yn cwrdd â beicwyr modur ac yn trafod materion diogelwch ffyrdd yn ogystal â chynnig cyfleoedd iddynt fynychu cwrs diogelwch ffyrdd a gynhelir gan yr Awdurdod. Hefyd ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ddulliau blaengar ar gyfer targedu'r broblem a disgwylir rhagor o fanylion yn gynnar yn y flwyddyn newydd.  

 

Yn ateb i gwestiwn am y fenter Trin Llwybrau Gwledig, dywedodd y Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd wrth y Pwyllgor fod y fenter hon a ddechreuodd yn 2007 yn canolbwyntio ar y llwybrau cyflymder uchel hynny lle roedd hanes o ddamweiniau yn hytrach na gwella cyffyrdd neu drofeydd penodol yn unig.   Roedd y prosiectau'n cynnwys gwaith peirianyddol, arwyddion a marciau ffordd newydd a therfynau cyflymder diwygiedig. Roedd y fenter wedi cael ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru fel enghraifft o arfer dda ac roedd yr Awdurdod wedi bod yn llwyddiannus unwaith yn rhagor o ran sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau penodol yn 2015/16.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch llwybrau'r A40/A48 yng Nghaerfyrddin a'r cyffiniau. Dywedodd y Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd wrth y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru wedi adolygu a newid terfynau cyflymder ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd yn Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar ac y gwnaethpwyd newidiadau yn y terfynau cyflymder yng nghyffiniau Caerfyrddin. Roedd yr Awdurdod yn cydgysylltu â'r Asiantaeth Cefnffyrdd yn rheolaidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: