Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGHYLCH DIOGELU OEDOLION (2015-16)

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu Oedolion (2015-16), a oedd yn berthnasol i’r flwyddyn ariannol ddiwethaf ac a roddai grynodeb o’r cyd-destun polisi cenedlaethol a goblygiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Cyflwynwyd yr Uwch Reolwr Diogelu newydd gan Bennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, a diolchodd i Uwch Reolwr Gwasanaethau Iechyd ac Anableddau Dysgu am ymgymryd â’r rôl dros dro.

 

Cafodd y materion allweddol yn yr adroddiad eu pwysleisio wrth yr Aelodau ac esboniwyd mai dyma’r adroddiad diwethaf gan Fwrdd Diogelu Oedolion Sir Gaerfyrddin, gan y bu i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) sefydlu Bwrdd Rhanbarthol. Nodwyd bod y Bwrdd Rhanbarthol ar hyn o bryd wedi’i gadeirio gan Gyfarwyddwr Cyngor Sir Powys ac mai Cyngor Sir Caerfyrddin yw’r partner arweiniol ar gyfer Diogelu Oedolion. Bu blwyddyn ariannol 2015/16 yn flwyddyn bontio ar gyfer gweithredu’r Ddeddf newydd ac awgrymwyd cynnal Seminar i’r Aelodau oll i ystyried y Ddeddf ymhen blwyddyn a pha gynnydd a wnaed. Cytunai’r Pwyllgor y byddai hyn yn fuddiol ar ôl yr etholiadau lleol ym mis Mai 2017 fel bod modd i’r Aelodau newydd dderbyn y wybodaeth hon hefyd a gofynnwyd iddo gael ei gynnal ym mis Mehefin 2017.

 

Pwysleisiodd Uwch Reolwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu y prif feysydd ar gyfer diogelu grwpiau penodol, fel pobl h?n mewn cartrefi gofal. Hysbyswyd y Pwyllgor o Adroddiad Flynn, “Chwilio am Atebolrwydd” yn dilyn adolygiad a gomisiynwyd gan y Gweinidog i Operation Jasmine (ymchwiliad i achosion honedig o gam-drin pobl h?n mewn cartrefi gofal). O ganlyniad i hyn, roedd gofyn i’r Bwrdd Rhanbarthol ddatblygu datganiad sefyllfa a chynllun gweithredu a chynnydd yn erbyn y Cynllun.

 

Darparwyd gwybodaeth i’r Pwyllgor am drefniadau gweithredol ac astudiaethau achos yngl?n â sut mae’r Tîm Diogelu yn ymdrin ag atgyfeiriadau. Roedd y wybodaeth am berfformiad yn dangos mai’r prif gategori o gleientiaid o ran atgyfeiriadau diogelu oedolion oedd pobl dros 65 oed a’r lle mwyaf tebygol i achosion honedig o gam-drin ddigwydd oedd mewn cartrefi gofal. O ran y math o gamdriniaeth, esgeulustod oedd y prif gategori. Nodwyd mai haws oedd nodi materion mewn cartrefi gofal na phan fo pobl yn eu cartrefi eu hunain, gan fod gweithwyr proffesiynol a theuluoedd yn ymweld. Pwysleisiwyd bod 152 o atgyfeiriadau wedi arwain at ymchwiliadau yn 2015/16 a bod y nifer yn tueddu i gynyddu’n flynyddol. Roedd y duedd hon, a’r ffaith bod y trothwy ar gyfer diogelu oedolion wedi gostwng, yn golygu bod y Tîm yn derbyn rhagor o atgyfeiriadau. Mynegodd y Pwyllgor bryderon mai tîm diogelu bach sydd i ymdrin ag atgyfeiriadau a gofynnwyd a fyddai’r tîm hwn yn cael ei gynyddu. Cadarnhaodd y swyddogion eu bod wedi herio’r Cyngor i ystyried cynyddu’r garfan o swyddogion ymchwilio a phwysleisiwyd bod diogelu o bwys i bawb. Nododd y Pwyllgor y dylid sicrhau bod arian ychwanegol ar gael gan y Llywodraeth Genedlaethol i weithredu’r ddeddfwriaeth newydd.

 

Holodd y Pwyllgor yngl?n â chanlyniadau Sir Gaerfyrddin a ph’un a fu unrhyw erlyniadau yn ystod 2015/16 yn dilyn honiadau o gam-drin. Esboniodd yr Uwch Reolwr ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu na fyddai’r holl ymchwiliadau wedi bod yn droseddol a bod gwaith pellach i’w wneud i gynorthwyo ag erlyniadau. Roedd prosiect peilot wedi’i ariannu gan y loteri ar y gweill mewn dwy ardal (Sir Gaerfyrddin oedd un o’r ardaloedd hyn), a oedd yn ymwneud â chyfiawnder i bobl h?n a ddioddefodd o gamdriniaeth. Nodwyd nad yw pobl weithiau eisiau erlyn – eisiau i’r cam-drin ddod i ben yn unig y maent. Hefyd, roedd achlysuron, fel yn achos Operation Jasmine, lle nad oedd tystiolaeth ddigonol i Wasanaeth Erlyn y Goron fynd â pethau ymhellach. Nodwyd na fu erlyniadau yn ystod 2015/16, ond y cafwyd erlyniadau mewn blynyddoedd blaenorol.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryderon yngl?n â’r cartrefi gofal hynny a roddwyd o dan gamau embargo, gan gynyddu pryderon a dod a chontractau i ben, a gofynnwyd am sicrwydd na chafodd pobl eu rhoi mewn perygl. Esboniodd y swyddogion bod gweithdrefnau gan Lywodraeth Cymru a bod amryw resymau iddynt gael eu gweithredu, megis pryderon yngl?n ag ymarfer, materion staffio neu faterion rheoli. Pwysleisiwyd bod y ffigurau hyn wedi gostwng yn sylweddol ers cyflwyno Gr?p Monitro Perfformiad Darparwyr trylwyr. Nodwyd bod protocol pryderon cynyddol yn broses ddwys iawn sy’n rheoli risgiau a phryderon drwy gynllun gweithredu trylwyr. Holodd yr Aelodau p’un a fyddai’r Cyngor yn dal i roi trigolion mewn cartrefi a oedd o dan weithdrefnau pryderon cynyddol. Esboniodd Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu y câi pob achos ei ystyried yn unigol a chadarnhawyd y câi perthnasau eu hysbysu o unrhyw bryderon. Gofynnwyd am ba hyd y byddai pryderon yn parhau cyn bod gofyn gweithredu gweithdrefn pryderon cynyddol. Dywedodd y swyddogion wrth yr Aelodau mai geirfa genedlaethol yw hyn, a phe câi pryderon eu mynegi byddai camau yn cael eu cymryd.

 

Cytunodd y Pwyllgor y byddai Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn dod ag adroddiad diweddaru ar y Cynllun Gweithredu Rhanbarthol a ddeilliodd o’r gwaith mewn perthynas ag Operation Jasmine a byddai hefyd yn cynnwys gwybodaeth bellach ar brosesau pryderon cynyddol.

 

PENDERFYNWYD

 

9.1       derbyn yr adroddiad yn unfrydol;

 

9.2       trefnu Seminar i’r Aelodau oll ym mis Mehefin 2017 i ddarparu gwybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r cynnydd a wnaed ar ei gweithrediad.

 

Dogfennau ategol: