Agenda item

ADRODDIAD MONITRO YNGHYLCH CYLLIDEB REFENIW A CHYLLIDEB GYFALAF 2015/16

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd D.W.H. Richards wedi datgan buddiant sef ei fod yn berchennog tir ger Cronfa Dd?r Trebeddrod yn Llanelli

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Tîm Diogelwch Cymunedol, fel yr oedd ar 31ain Awst 2015, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2015/16. Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at atal wyth aelod o staff o Adran yr Amgylchedd yn ddiweddar a gofynnwyd sut roedd y gwasanaethau'n ymdopi heb y nifer cyflawn o staff a pha effaith roedd hynny'n ei chael ar gyllideb yr Adran. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Stryd wybod i'r Pwyllgor fod y gwasanaethau yn gweithredu cynlluniau eraill yn sgil yr absenoldebau staff, fel oedd yn digwydd wrth ymdrin ag absenoldeb salwch neu wyliau blynyddol. Mewn rhai sefyllfaoedd, roedd gweithwyr asiantaeth yn cael eu cyflogi i gyflenwi yn absenoldeb staff craidd ac roedd cyllideb yr adran yn talu costau hynny. Rhoddodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wybod i'r Pwyllgor nad oedd dim effaith ar ddarparu'r gwasanaethau perthnasol ac er bod yr Adran yn dymuno dod â'r mater hwn i'w derfyn cyn gynted ag y bo modd, roedd dyletswydd ar yr Awdurdod i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a'r polisïau adnoddau dynol er mwyn sicrhau bod pob achos yn cael ei glywed ac yr ymdrinnir â phob achos yn deg. 

 

Yn ateb i gwestiwn ynghylch pryd y byddai trosglwyddo cyfleusterau cyhoeddus yn cael ei gwblhau, atgoffwyd y Pwyllgor gan Bennaeth y Gwasanaethau Stryd fod trosglwyddo cyfleusterau cyhoeddus i Gynghorau Tref a Chymuned yn ei ail flwyddyn o broses tair blynedd ond cytunodd i edrych ar y camau a gymerwyd a rhoi gwybod i'r Pwyllgor. 

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr amrywiad yn ymwneud â'r Gwasanaeth Cynlluniau Argyfwng, gwaith Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a pham roedd yr Awdurdod yn ariannu swydd yng Nghyngor Sir Penfro. Rhoddodd Cyfrifydd y Gr?p a Phennaeth y Gwasanaethau Stryd wybod i'r Pwyllgor fod Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys yn bartneriaeth amlasiantaeth oedd yn cynnwys gwasanaethau brys a gwasanaethau cyhoeddus allweddol a fyddai'n cydlynu'r ymateb i ddigwyddiad mawr yn y rhanbarth (e.e. tywydd difrifol, damwain fawr yn ymwneud â thrafnidiaeth neu ddiwydiant). Y tu allan i oriau arferol y swyddfa, roedd swyddog a gyflogir gan Gyngor Sir Penfro, wrth law ar gyfer y rhanbarth cyfan a'r £3,000 y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad oedd cyfraniad Sir Gaerfyrddin tuag at y trefniant rhanbarthol hwn.

 

Cyfeiriwyd at yr amrywiad o £394,000 yng nghyllideb y Gwasanaethau Eiddo oherwydd targed incwm na ellir ei gyflawni a gofynnwyd cwestiwn ynghylch yr hyn oedd yn cael ei wneud i leihau hyn. Roedd Pennaeth Dros Dro Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladu yn cydnabod bod hwn yn fater hirdymor a bod yr Adran yn gweithio gyda'r Gwasanaethau Ariannol i'w reoli. Rhagwelwyd y byddai'r adroddiad nesaf ynghylch monitro'r gyllideb yn dangos gostyngiad yn y ffigur hwn wrth i'r Adran ymgymryd â rhaglen o ailstrwythuro a defnyddio gweithwyr mewn meysydd eraill.

 

Holwyd ynghylch yr amrywiad o £25,000 yn ymwneud â pharcio ceir, yn ogystal â'r effaith y byddai gwaith Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor yn ei chael ar hyn ac ar gynigion yn y dyfodol ynghylch y gyllideb ar gyfer y gwasanaeth hwn.  Hefyd cyfeiriwyd at y cynllun peilot parcio am ddim yn Llanelli ac effaith bosibl hynny ar gyllideb y gwasanaeth. Atgoffodd Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg y Pwyllgor fod yr amrywiad oherwydd y cynnydd arfaethedig o 20c yn y taliadau a godir ac oherwydd na weithredwyd y taliadau am barcio gyda'r nos.  Roedd y data a gasglwyd yn ystod cynllun peilot Llanelli wrthi'n cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. Hefyd hysbysodd y Pwyllgor fod y Gr?p Gorchwyl a Gorffen wedi cwrdd ddwywaith hyd yma. Roedd y cyfarfod diweddaraf a gynhaliwyd wedi canolbwyntio ar y polisïau a'r ddeddfwriaeth oedd yn sail i'r taliadau am barcio a rhagwelwyd y byddai'r adolygiad wedi'i gwblhau erbyn Mawrth 2016 er mwyn cyfrannu gwybodaeth i'r cynigion cyllidebol ar gyfer 2016/17 ac ar ôl hynny. 

 

Yn ateb i gwestiwn am y gwaith yng Nghronfa Dd?r Trebeddrod, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Stryd wrth y Pwyllgor fod y gwaith yn parhau a bod y cam terfynol i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd Chwefror 2016. 

 

Yn sgil y cynnydd yn y pwysau ariannol a wynebir gan yr Adran, gofynnwyd pa gamau oedd yn cael eu cymryd i reoli'r gweithlu a pharatoi staff ar gyfer newidiadau a gostyngiadau posibl yn y gwasanaethau. Roedd Pennaeth yr Amgylchedd yn cydnabod ei bod yn iawn a phriodol i baratoi am arbedion effeithlonrwydd yn y dyfodol a bod camau ar waith i reoli'r gweithlu drwy'r cyfnod anodd hwn.  Roedd y rhain yn cynnwys y cynllun terfynu cyflogaeth ac edrych ar gyfleoedd i adleoli staff i ddyletswyddau eraill yn yr Adran.

 

Mynegwyd pryder ynghylch y tangyflawniad o ran incwm ffioedd o fewn y Gwasanaeth Safonau Masnach a gofynnwyd pam na chafodd ffioedd yr Awdurdod eu cynyddu'n raddol yn unol â ffioedd awdurdodau cyfagos. Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd eu bod yn ymdrin â hyn ond y gellid olrhain y tangyflawniad i'r ffaith y derbyniwyd symiau mawr o incwm am ddigwyddiadau unwaith yn unig. Ers hynny roedd y symiau hyn wedi'u dilysu'n rhan o gyllidebau'r blynyddoedd i ddod er na fyddai'r gwasanaeth byth wedi gallu cyflawni'r un lefel o incwm mewn unrhyw flwyddyn 'arferol'. Roedd hon yn broblem a wynebai sawl gwasanaeth arall ar draws yr Awdurdod ac roedd angen datrys hyn ar y cyd â'r Gwasanaethau Ariannol.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch colli'r Gronfa Diogelwch Cymunedol a lle y dyrannwyd y cyllid hwn. Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol wrth y Pwyllgor nad gorwariant oedd hwn ond cronfa grant a gafwyd o'r blaen gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fel cyfraniad tuag at weithredu'r gwasanaeth Teledu Cylch Cyfyng. Fodd bynnag, roedd y Comisiynydd wedi atal y cyllid hwn ar ddechrau'r flwyddyn ariannol ac yng ngoleuni hynny roedd y Bwrdd Gweithredol hefyd wedi atal cyfraniad yr Awdurdod i'r gwasanaeth. Fodd bynnag, hyd nes i'r gwasanaeth roi'r gorau i'r gweithrediadau ym mis Gorffennaf, roedd yr Awdurdod yn parhau i orfod talu'r costau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Roedd y ffigyrau'n parhau i gael eu dangos yn yr adroddiad gan fod y costau wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

Trafodwyd y rhaglen i gael fflyd gerbydau arall i'r Cyngor yn lle'r un bresennol a chyfeiriwyd at gyflwr y fflyd bresennol a'r gostyngiad yn nifer y cerbydau arbenigol oedd ar gael i wasanaethu ardaloedd penodol o'r sir. Cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod archeb gwerth £6 miliwn wedi'i chyflwyno i'r cyflenwyr a rhagwelwyd y byddai'n cael ei chyflawni yn 2016. Roedd yr archeb hon wedi blaenoriaethu cerbydau newydd ar gyfer casglu gwastraff a cherbydau ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol. Byddai'r Gwasanaethau Priffyrdd yn rhan o'r cylch nesaf o archebion a'r flaenoriaeth oedd dynodi'r strategaeth ar gyfer cael cerbydau newydd a gweithio gyda defnyddwyr y gwasanaethau. Roedd yn cydnabod bod cerbydau h?n yn anweithredol am gyfnod hwy a bod hyn yn cael ei fonitro'n ddyddiol ond nid oedd yn bosibl cael y ffigyrau terfynol ar gyfer nifer y cerbydau newydd oherwydd byddai adolygiadau oedd ar waith o'r gwasanaethau yn effeithio ar hyn. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Stryd y Pwyllgor y byddai angen i'r Adran, yng ngoleuni'r pwysau ariannol parhaus, ailddiffinio safonau'r gwasanaethau a byddai nifer y cerbydau sydd ar gael yn effeithio ar y rhain.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch cyflwr rhwydwaith priffyrdd y Sir ac yn enwedig y rhwydwaith ffyrdd gwledig. Gofynnwyd a oedd yr Adran wedi archwilio dewisiadau eraill yn lle Menter Benthyca Llywodraeth Leol a oedd wedi dod i ben yn Ebrill 2015 er mwyn gwella'r ffyrdd ac atal yr Awdurdod rhag cael ei ddal yn atebol am unrhyw ddamweiniau a achosir gan wynebau ffyrdd gwael. Roedd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd yn cydnabod y sylwadau ond pwysleisiodd bod y swyddogion yn bwriadu cynhyrchu a thynnu i lawr gyllid ychwanegol yn ogystal â blaenoriaethu'r adnoddau yr oedd gan yr Adran yn barod i ymdrin â'r broblem. Gan fod hwn yn fater oedd yn wynebu holl awdurdodau Cymru, roedd cyfleoedd i weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill i dynnu i lawr gyllid ychwanegol a chanfod atebion blaengar i gynnal a chadw'r rhwydwaith priffyrdd. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Stryd fod swyddogion llywodraeth leol â chyfrifoldeb dros briffyrdd, wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru drwy Gymdeithas y Syrfewyr Sir am estyniad i'r cynllun Menter Benthyca Llywodraeth Leol ond roedd hyn wedi'i wrthod gan weinidogion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: