Agenda item

DATGANIAD CWRICWLWM DRAFFT SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd D.J.R Bartlett ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu i’r Cynghorydd C.A. Campbell ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymgynghorol ar ran ERW.

 

Bu i’r Cynghorydd M.J.A. Lewis ddatgan buddiant yn gynharach sef ei bod yn Is-lywydd Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Cymru.

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad yn amlinellu cydrannau arfaethedig cwricwlwm i’w gynllunio’n lleol a chynigiodd fersiwn drafft o’r egwyddorion lefel uchel ar ffurf Datganiad Cwricwlwm Drafft Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd gwybod y byddai’r cynllun hwn, yn amodol ar gymeradwyaeth gorfforaethol, yn cael ei ddatblygu ymhellach mewn rhaglen dreigl rhwng 2017 a 2021, gan gynnwys ymarferwyr ysgolion ar bob cam o’r broses.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y cyflwyniad:

 

Cyfeiriwyd at y seminar diweddar i aelodau a gofynnwyd a fyddai yna sesiynau pellach yn cael eu cynnal yn fuan. Cadarnhaodd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr y byddai rhagor o sesiynau yn cael eu cynnal unwaith y bydd manylion ac arweiniad pellach ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru. Rhagwelwyd hefyd y byddai seminar yn cael ei chynnal gyda chyflogwyr lleol hefyd i gysylltu cwricwlwm y dyfodol â’u hanghenion a bod o fudd economaidd i’r sir.

 

Croesawyd yr hyblygrwydd arfaethedig i ddarparu ar gyfer anghenion lleol a hyrwyddo hanes lleol a gofynnwyd a yw ysgolion cynradd ar hyn o bryd yn rhoi digon o bwyslais ar hanes Cymru er mwyn i bobl ifanc leol a’r rheiny a allai fod wedi symud i’r ardal gael ymdeimlad o’u gwreiddiau a’u hanes. Roedd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr yn cytuno, a dywedodd ei bod yn bwysig bod plant a phobl ifanc yn gwerthfawrogi pwy oeddent a bod gwerthoedd yn cael eu gosod ynddynt a fyddai o fudd iddynt yn y dyfodol. Roedd yn cydnabod bod yna faterion pwysig iawn a lleol a materion hanesyddol a allai gael eu cynnwys yn y cwricwlwm ond ei bod hi hefyd yn bwysig peidio â chreu pobl ifanc fewnblyg ond yn hytrach meithrin gwerthfawrogiad o dreftadaeth Cymru a dymuniad i gyfrannu fel dinasyddion byd-eang.  Ychwanegodd fod y bardd lleol Mererid Hopwood wedi cael gwahoddiad i annerch Ymgynghorwyr Her ERW ynghylch yr agwedd benodol hon ar y cwricwlwm newydd mewn seminar yn y flwyddyn newydd.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y gwaith presennol a wneir gan yr adran i feithrin a hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro fod llawer o waith eisoes wedi cael ei wneud yn y maes hwn a bod gan y Sir nifer o adnoddau ardderchog a oedd yn cael eu defnyddio gan ysgolion.

 

Cyfeiriwyd at y gwaith o ddatblygu cwricwlwm newydd yn yr Alban a’r bwlch o ganlyniad rhwng yr hyn a ddysgwyd mewn ysgolion a’r fframwaith asesu. Gofynnwyd pa fesurau oedd yn cael eu cymryd i sicrhau nad yw hyn yn digwydd yng Nghymru. Roedd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr yn cydnabod y pryder a dywedodd wrth y Pwyllgor fod is-gr?p eisoes wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio ymhellach i hyn a sicrhau nad oedd problem o’r fath yn codi yng Nghymru.

 

Croesawyd y cam o ddatblygu cwricwlwm newydd ond teimlwyd nad mater i’r Adran Addysg yn unig oedd hwn ond yn hytrach bod angen i holl adrannau’r Cyngor gyfrannu mewn rhyw fodd neu’i gilydd gan fod eu cynlluniau a’u gweithgareddau hefyd yn effeithio ar y cymunedau y mae ysgolion y sir yn gweithredu ynddynt.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor gymeradwyo Datganiad Cwricwlwm Drafft Sir Gaerfyrddin i gael ei ystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

Dogfennau ategol: