Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2017/18 TAN 2019/20

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd D.J.R Bartlett ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu i’r Cynghorydd C.A. Campbell ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymgynghorol ar ran ERW.

 

Bu i’r Cynghorydd M.J.A. Lewis ddatgan buddiant yn gynharach sef ei bod yn Is-lywydd Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Cymru.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Strategaeth y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2017/18 hyd at 2019/20 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 21 Tachwedd 2016.  Roedd yr adroddiad yn rhoi’r sefyllfa bresennol i’r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2017/18, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018/19 a 2019/20. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion o anghenion gwariant, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Hydref 2016. Roedd hwn yn well na’r hyn a ddisgwylid yn gyffredinol mewn llywodraeth leol ac roedd yn sefyllfa well na chynllun rhagolygon cyllidebol gwreiddiol yr Awdurdod. Dywedwyd wrth yr aelodau bod y setliad terfynol wedi dod i law y diwrnod blaenorol ac y byddai’r Cyngor yn elwa o swm net ychwanegol o £382,000. Fodd bynnag, roedd y cyllid ychwanegol yn gysylltiedig â dyletswyddau y byddai disgwyl i’r Awdurdod eu cyflawni mewn perthynas â digartrefedd.  

 

Rhoddwyd gwybod hefyd i’r Pwyllgor bod y cynigion ar gyfer y gyllideb yn rhagdybio y byddai’r £24.6m o arbedion a nodwyd a chynnydd o 2.5% yn y Dreth Gyngor yn cael eu cyflwyno’n llawn. Byddai newid o 1% yn y Dreth Gyngor yn cyfateb i +/-£790,000.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am eglurhad yngl?n â’r hyn oedd yn ymddangos fel diffyg arian wrth gefn a fydd gan ysgolion o fis Mawrth 2018 ymlaen. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch y ffaith bod ysgolion yn defnyddio eu harian wrth gefn i dalu am eu trafferthion ariannol presennol a bod angen adolygu polisi arian wrth gefn yr Awdurdod. Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn cydnabod pryderon yr aelodau ond nododd fod yr adroddiad yn seiliedig ar y data a oedd ar gael neu a oedd wedi cael ei roi gan yr ysgolion eu hunain. Nid oedd y ffaith nad oedd yna ffigurau ar hyn o bryd wedi’u rhagamcanu ar gyfer 2018 ymlaen yn adlewyrchiad cywir o’r sefyllfa debygol, ond yn hytrach yn adlewyrchu’r ffaith nad oedd yr ysgolion yn gallu rhagfynegi eu gweddillion ariannol mor bell â hynny i’r dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at orwariannau adrannol a’r risg na fyddai rhyw £1.8m o’r cynigion effeithlonrwydd gwreiddiol ar gyfer 2016/17 yn cael eu cyflwyno’n llawn yn y flwyddyn ariannol gyfredol, Mynegwyd pryder hefyd ynghylch gorwariant yr adran Addysg a Phlant y bu’r Pwyllgor yn ei fonitro drwy gydol y flwyddyn, a holwyd pam nad oedd modd i hyn gael ei ddatrys a pham y caniatawyd i bethau fynd i’r sefyllfa honno yn y lle cyntaf. Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn cydnabod y sylwadau ond nododd fod y ffigurau a oedd yn ymwneud â diffyg cyflwyno effeithlonrwydd yn cyfeirio at y sefyllfa fel yr oedd ar y pryd ac y byddai llawer o hyn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd y flwyddyn. 

 

Mynegwyd pryder ynghylch y cynnig i godi prisiau prydau ysgol, yn enwedig gan mai Sir Gaerfyrddin oedd â’r prisiau uchaf yng Nghymru a bod y trefniadau prisio presennol yn annheg o ystyried faint o fwyd y mae plant ysgol gynradd yn aml yn ei fwyta, heb sôn am godi’r prisiau eto.   Cynigiwyd bod y Bwrdd Gweithredol yn edrych eto ar y cynnig hwn. Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig ond ar gyfer prydau ysgolion cynradd, yn hytrach nag ysgolion uwchradd a oedd yn gweithredu cyfleusterau caffeteria lle’r oedd yno ddewis o fwydydd. 

 

Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch y cynnig i wneud lleihad o £70,000 i’r gyllideb Anghenion Addysgol Arbennig graidd i ysgolion ac y byddai gwneud hynny yn amharu ymhellach ar allu ysgolion i gynorthwyo disgyblion a oedd eisoes dan anfantais. Cynigiodd a chymeradwyodd y Pwyllgor fod cais yn cael ei wneud i’r Bwrdd Gweithredol am iddynt ailystyried y cynnig penodol hwn. Mewn ymateb i hyn, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro mai’r cynnig oedd lleihau’r cyllid a roddir i’r 72 o ysgolion mwy o faint sydd â thros gant o ddisgyblion.  Byddai’r ddarpariaeth ar gyfer yr ysgolion hyn yn dod allan o’u cyllidebau dirprwyedig. Byddai ysgolion â llai na chant o ddisgyblion yn ceisio cymorth yn uniongyrchol gan yr Awdurdod Lleol mewn perthynas â darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig.  

 

Cyfeiriwyd at y cynnig i wneud lleihad o £1.9m i gyllideb ddirprwyedig yr ysgolion a mynegwyd pryderon difrifol yng ngoleuni setliad Llywodraeth Cymru, sydd yn niwtral o ran cost, mai gweithred bwrpasol oedd hon a fyddai yn y pen draw yn arwain at fod ysgolion yn colli eu staff mwyaf profiadol wrth iddynt geisio cydbwyso eu cyllidebau. Cynigiwyd eto fod y Bwrdd Gweithredol yn ailystyried y cynnig hwn, a chymeradwyodd y Pwyllgor hyn. Mewn ymateb, atgoffodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y Pwyllgor y byddai angen nodi arbedion effeithlonrwydd mewn mannau eraill yng nghyllideb yr adran er mwyn gwrthwynebu cynigion fel yr un hwn. Atgoffodd yr aelodau hefyd fod ysgolion wedi cael eu harbed rhag toriadau sylweddol mewn blynyddoedd blaenorol o gymharu â’r gwasanaethau yng nghylchoedd gorchwyl pwyllgorau craffu eraill (e.e. Gwasanaethau Priffyrdd)

 

Mynegwyd siom ynghylch y wasgfa barhaus ar gyllideb yr adran o ganlyniad i gostau sy’n gysylltiedig â threfniadau Ymddeoliad Cynnar Gwirfoddol mewn ysgolion. Roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro yn cydnabod pryderon y Pwyllgor ond dywedodd fod y mater yn un anodd i’r adran ei reoli gan mai llywodraethwyr ysgolion a oedd yn penderfynu yngl?n â gwariant Ymddeoliad Cynnar Gwirfoddol.   Fodd bynnag, rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor fod y swyddogion wrthi’n ceisio mynd i’r afael â’r gwasgfeuon cyllidebol mewn ysgolion.  Rhoddwyd trefniadau ar waith i herio ysgolion ynghylch ceisiadau am Ymddeoliad Cynnar Gwirfoddol yn y dyfodol trwy banel canolog newydd o swyddogion o’r adran ac o’r Gwasanaethau Ariannol. Roedd yr adran hefyd yn ystyried penodi swyddog newydd i weithio gyda’r Tîm TIC yn ysgolion y Sir er mwyn cynorthwyo ysgolion i nodi effeithlonrwydd mewn materion ariannol a gweithredol. Bu’r adran hefyd yn ymchwilio i strwythurau ysgolion a daethant o hyd i ysgolion â niferoedd amrywiol o staff a staff cymorth, er mai niferoedd tebyg o ddisgyblion oedd ganddynt. Y gobaith oedd y byddai’r gwaith hwn yn arwain at greu ‘strwythur model’ Sir Gaerfyrddin ar gyfer ysgolion o wahanol faint a thrwy hyn, cael unoliaeth o safbwynt strwythurau a niferoedd staff ledled y sir.  

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y taliadau a godir ar gyfer cyrsiau Cymraeg i Oedolion a ddarperir gan yr adran. Cytunodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro i gadarnhau p’un a oedd y taliadau hyn yn cael eu codi fesul sesiwn neu awr ond ychwanegodd y byddai llawer hefyd yn cael eu cynnal gan grantiau o ffynonellau cyllid eraill. Ychwanegodd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr fod y prisiau yn hynod gystadleuol o gymharu â darparwyr eraill a bod llawer o’r cyrsiau yn llawn. 

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor:

 

6.1       Dderbyn yr Ymgynghori ar y Gyllideb Refeniw 3 Blynedd ar gyfer 2017/18 hyd at 2019/20.

 

6.2     Bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant yn cael ei

ymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor:

 

6.3       Ofyn i’r Bwrdd Gweithredol ailystyried y cynigion i godi prisiau prydau ysgol yn y sector cynradd, lleihau cyllid Anghenion Addysgol Arbennig a lleihau cyllidebau dirprwyedig yr ysgolion. 

 

 

Dogfennau ategol: