Agenda item

CWESTIWN GAN MRS. KAREN HUGHES

Yn ystod cyfarfodydd blaenorol, dywedwyd wrthym droeon nad yw'n fwriad gan yr Awdurdod i unrhyw blentyn adael Ysgol Llangennech ac o'r herwydd nad oedd asesiad trafnidiaeth neu asesiad cymunedol yn ofynnol. Fodd bynnag dengys tystiolaeth ddiweddar, yn ogystal â'r 91 sydd eisoes wedi ceisio addysg drwy gyfrwng y Saesneg yn rhywle heblaw Llangennech, fod dros 20 disgybl arall wedi cael eu tynnu o'r ysgol neu heb ddechrau yn yr ysgol o achos y goblygiadau os daw'r cynnig i rym, a bydd y nifer hwn yn parhau i gynyddu. Yr unig ysgol cyfrwng Saesneg a allai ddarparu ar gyfer y disgyblion hyn yw Ysgol yr Hendy ond nid oes gan yr ysgol hon lwybr diogel i'r ysgol. Yn dilyn cael y wybodaeth hon, rydym yn credu bod angen cynnal asesiad cymunedol ac asesiad trafnidiaeth o dan Gôd Trefniadaeth Ysgolion 2013 cyn bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud. O ystyried y wybodaeth hon, a ydych bellach yn mynd i gynnal asesiad cymunedol ac asesiad trafnidiaeth?

Cofnodion:

Yn ystod cyfarfodydd blaenorol, dywedwyd wrthym droeon nad yw’n fwriad gan yr Awdurdod i unrhyw blentyn adael Ysgol Llangennech ac o’r herwydd nad oedd asesiad trafnidiaeth neu asesiad cymunedol yn ofynnol. Fodd bynnag dengys tystiolaeth ddiweddar, yn ogystal â’r 91 sydd eisoes wedi ceisio addysg drwy gyfrwng y Saesneg yn rhywle heblaw Llangennech, fod dros 20 disgybl arall wedi cael eu tynnu o’r ysgol neu heb ddechrau yn yr ysgol o achos y goblygiadau os daw’r cynnig i rym, a bydd y nifer hwn yn parhau i gynyddu. Yr unig ysgol cyfrwng Saesneg a allai ddarparu ar gyfer y disgyblion hyn yw Ysgol yr Hendy ond nid oes gan yr ysgol hon lwybr diogel i’r ysgol. Yn dilyn cael y wybodaeth hon, rydym yn credu bod angen cynnal asesiad cymunedol ac asesiad trafnidiaeth o dan Gôd Trefniadaeth Ysgolion 2013 cyn bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud. O ystyried y wybodaeth hon, a ydych bellach yn mynd i gynnal asesiad cymunedol ac asesiad trafnidiaeth?

 

Ymateb gan y Cynghorydd J.E. Williams – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant

 

Dywedodd y Cadeirydd ar sail data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ar gyfer 2016, roedd 96 o blant sy’n byw yn nalgylch Llangennech yn mynychu ysgolion eraill. O blith y rhain, roedd 16 o blant yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, 7 yn mynychu ysgolion dwy ffrwd a 73 yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg. Roedd 3 o’r plant yn mynychu ysgolion ar sail ffydd. Fodd bynnag, roedd yn gyffredin i ddisgyblion symud rhwng dalgylchoedd ysgolion a hynny ledled y sir yn yr ardaloedd gwledig a’r ardaloedd trefol.

 

Roedd yr Awdurdod Lleol yn ymwybodol o rai disgyblion a oedd wedi newid ysgolion a allai fod o ganlyniad i’r cynnig hwn. Fodd bynnag, roedd hawl gan rieni i fynegi eu bod yn dewis ysgolion gwahanol.  Ar gyfer blwyddyn academaidd 2016/17, roedd 31 o ymgeiswyr wedi gwrthod eu lle yn Ysgol Babanod Llangennech. Fodd bynnag, roedd 27 o’r ceisiadau hyn o’r tu allan i’r dalgylch. O blith y 4 cais o fewn y dalgylch, roedd 2 wedi derbyn lle mewn ysgolion eraill am resymau eraill, ac nid oedd 2 ymgeisydd wedi nodir rheswm dros wrthod y lle. O blith y 31 o ddisgyblion a wnaeth wrthod lle yn Ysgol Babanod Llangennech, roedd 12 o’r disgyblion wedi nodi eu bod yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg, roedd 4 wedi nodi eu bod yn dewis addysg cyfrwng Saesneg, ac nid oedd 15 o ddisgyblion wedi nodi dewis iaith wrth lenwi’r ffurflen gais.

 

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/16, roedd 16 o ddisgyblion wedi gwrthod eu lle yn Ysgol Iau angennech. Fodd bynnag, roedd 10 o’r ceisiadau hyn y tu allan i’r dalgylch. O blith y 6 cais o fewn y dalgylch, roedd 1 wedi derbyn lle mewn ysgol cyfrwng Cymraeg ac roedd un disgybl wedi symud i fyw rhywle arall. O blith y 16 o ddisgyblion a wnaeth wrthod lle yn Ysgol Iau Llangennech, roedd 10 o’r disgyblion wedi nodi eu bod yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg, roedd 2 wedi nodi eu bod yn dewis addysg cyfrwng Saesneg, ac nid oedd 4 o ddisgyblion wedi nodi dewis iaith wrth lenwi’r ffurflen gais. 

 

Ychwanegodd fod y ddogfen ymgynghori wedi cael ei pharatoi a’r broses ymgynghori wedi cael ei chynnal yn unol â gofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion a chynnig y Cyngor Sir oedd i blant Llangennech fynychu’r ysgol leol. Os gweithredir y cynnig, bydd y plant sy’n preswylio yn nalgylch ysgol Llangennech ac sy’n mynychu Ysgol Llangennech yn cael budd o bolisi derbyn Disgyblion a Pholisi Cludiant i’r Ysgol yr Awdurdod Lleol, sy’n rhoi sylw llawn i’r ystyriaethau diogelwch. Fodd bynnag, pe bai rhieni’n dewis gosod eu plant mewn ysgolion eraill lle’r oedd lleoedd ar gael, byddent yn gwneud hynny ar ôl rhoi ystyriaeth lawn i’r holl ffactorau perthnasol, gan gynnwys y goblygiadau o ran cludiant, ac ati.