Agenda item

DIWYGIO DARPARIAETH Y CYMORTH AR GYFER DYSGWYR GYDAG ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

Cofnodion:

Roedd Mrs. K. Hill wedi datgan yn gynharach ei bod hi yn ymgynghorydd Anghenion Addysgol Arbennig annibynnol.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad yn amlinellu trawsnewidiad y cymorth anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru a’r sefyllfa bresennol yn Sir Gaerfyrddin. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil newydd i ddiwygio’r system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd Llywodraeth Cymru ac ymarferwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol o’r farn bod angen diwygio’r system a hynny ers cryn dipyn o amser oherwydd:

 

·         Roedd y broses asesu bresennol yn aneffeithiol, yn fiwrocrataidd ac yn gostus ac yn seiliedig ar fodel a gyflwynwyd dros 30 mlynedd yn ôl

·         Nid oedd y system bresennol yn canolbwyntio’n ddigonol ar y plentyn nac yn hawdd ei defnyddio.

·         Roedd anghenion yn cael eu nodi’n hwyr ac nid oedd yr ymyraethau’n ddigon amserol nac yn effeithiol.

·         Yn 2015, 23% yn unig o ddysgwyr ag Anghenion Addysgol Arbennig a lwyddodd i gyrraedd y trothwy Lefel 2 cynhwysol o gymharu â 58% o’r holl ddisgyblion.

 

Disgwyliwyd y byddai Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2016. Byddai’r Bil yn creu fframwaith deddfwriaethol i wella’r broses o gynllunio a darparu darpariaeth dysgu ychwanegol, drwy ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a fydd yn nodi anghenion yn gynnar, yn gosod cymorth effeithiol gan fonitro gwaith ac addasu ymyraethau er mwyn sicrhau y darparir y canlyniadau a ddymunir. Yna byddai’r Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn darparu’r canllawiau statudol sy’n tanategu’r Bil, gan gynnwys y gofynion gorfodol. Nododd yr aelodau mai’r ddau newid allweddol fyddai:

 

·         Ymestyn yr ystod oedran o 0-18 i 0-25 – Byddai gan bob plentyn a pherson ifanc yr un hawliau i gael y ddarpariaeth yr oedd ei angen arno a byddai hyn yn cynorthwyo i wella’r broses bontio rhwng ysgol ac addysg ôl-16.

 

·         Cynllun statudol sengl – Byddai Cynlluniau Datblygu Unigol yn disodli’r amrywiaeth o gynlluniau statudol ac anstatudol ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion ac addysg amser llawn.

 

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y dull yr oedd yr Awdurdod Lleol yn ei gymryd wrth baratoi i weithredu’r ddeddfwriaeth newydd, yn bennaf drwy ddatblygu’r gweithlu, cymorth gweithredu/pontio, codi ymwybyddiaeth a pholisi cymorth.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth ynghylch yr eitem hon:

 

Gofynnwyd a oedd swyddogion yn rhagweld arbedion cost i’r Awdurdod yn yr hirdymor o ganlyniad i symleiddio’r broses asesu ac a fyddai angen llai neu ragor o staff. Roedd y Rheolwr Darpariaeth Anghenion Ychwanegol yn cydnabod y byddai angen adolygu’r gweithlu ac roedd yn debygol y byddai rhai staff yn cael eu hadleoli i weithio mewn gwahanol feysydd cyfrifoldeb (e.e. heb fod yn rhan o’r broses asesu bresennol) a byddai angen cynyddu’r capasiti mewn meysydd eraill (e.e. gwaith gyda phobl ifanc yn y categori oed 18-25 oed). Nododd fod llawer o bethau’n anhysbys a hyd nes y byddai’r rhaglen yn dechrau, byddai’n anodd darparu manylion penodol ynghylch yr effaith bosibl.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynghylch arbedion posibl i’r gwasanaeth oherwydd y gostyngiad yn nifer yr asesiadau a oedd yn cael eu cyflawni, cadarnhaodd y Rheolwr Darpariaeth Anghenion Ychwanegol y byddai unrhyw arbedion yn cael eu hailgyfeirio at wasanaethau eraill. Rhagwelwyd y byddai’r prif arbedion yn gysylltiedig ag amser staff. Un enghraifft fyddai’r seicolegwyr addysg, a fyddai’n cael eu hanfon i ysgolion er mwyn cynyddu’r capasiti ymhlith y staff, yn hytrach na threulio amser yn cynnal asesiadau dianghenraid.   

 

Cyfeiriwyd at y cwymp sylweddol yng nghyrhaeddiad academaidd disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, yn enwedig rhwng cyfnodau allweddol 3 a 4 a gofynnwyd pam y mae wedi cymryd cymaint o amser cyn sylwi ar y cwymp a mynd i’r afael â’r mater. Nododd y Rheolwr Darpariaeth Anghenion Ychwanegol fod y data a ddyfynnwyd yn y cyflwyniad yn ffigurau ar gyfer Cymru gyfan ac yn hanesyddol, roedd y ffocws o ran ‘anghenion addysgol arbennig’ wedi bod ar namau gwybyddol (gallu isel) ac roedd hyn wedi arwain at ddisgwyliadau a dyheadau isel o ran disgyblion yn y categori hwn. Roedd swyddogion o’r farn bod cyflwyniad y Bil newydd yn amserol iawn a byddai’n codi dyheadau a disgwyliadau’r holl ddisgyblion oherwydd roedd llawer ag anghenion na fyddai o reidrwydd yn effeithio ar eu gallu i gyflawni’n addysgol (e.e. anghenion ymddygiad, emosiynol).

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch rôl rhieni a’u hawliau wrth ofyn am asesiadau i’w plant, cadarnhaodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol fod gan rieni eisoes rôl sylweddol i’w chwarae yn y broses bresennol yn ogystal â’r broses newydd, a byddai hawl ganddynt o hyd i ofyn am asesiad ffurfiol o’u plentyn. Fodd bynnag, rhagwelwyd gan fod y broses gynllunio yn dechrau’n gynharach mewn ysgolion, byddai unrhyw broblemau’n cael eu nodi a gellid cyfeirio rhieni at yr asiantaethau perthnasol llawer yn gynharach yn ystod y broses.

 

Er y dylid croesawu’r newidiadau oedd ar ddod, gofynnwyd a fyddai’n golygu unrhyw oblygiadau ariannol i’r Awdurdod o ran gorfod gweithredu’r newidiadau hyn. Dywedodd y Rheolwr Darpariaeth Anghenion Ychwanegol y byddai’n rhaid i awdurdodau aros i weld hyd nes i’r manylion a’r canllawiau gael eu cyhoeddi maes o law. Fodd bynnag, roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod cyllid naill ochr ar gyfer grant arloesedd a fyddai ar gael i helpu awdurdodau lleol i weithredu’r trefniadau newydd a throsglwyddo atynt.

 

Gofynnwyd a fyddai’r hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu i staff ysgolion yn ddigonol. Rhoddodd y Rheolwr Darpariaeth Anghenion Ychwanegol sicrwydd i’r Pwyllgor fod llawer o’r gwaith eisoes wedi’i gyflawni o ran cynllunio ar gyfer y trefniadau newydd yn ogystal â’r cymorth a oedd yn bodoli eisoes ar gyfer ysgolion (e.e. Fforwm Cydgysylltydd Anghenion Addysgol Arbennig, sesiynau hyfforddi ysgol gyfan). Roedd y Gwasanaeth Cynhwysiad yn defnyddio ‘model hyfforddia oedd yn rhoi cymorth i staff ysgol a byddai hyn yn parhau yn y dyfodol. Fodd bynnag, ychwanegodd fod penaethiaid yn ymwybodol o’r newidiadau arfaethedig hyn ers amser maith a bod cyfrifoldeb ar arweinwyr ysgolion i gynllunio ymlaen llaw a threfnu’r hyfforddiant angenrheidiol ar gyfer eu haelodau staff.

 

Er y croesawyd y cyflwyniad, mynegwyd pryder bod y broses bresennol o ddyrannu cyllid yn anhrefnus, a gofynnwyd a oedd cynllun peilot wedi cael ei gynnal, neu yn cael ei gynnal i brofi’r trefniadau newydd. Cadarnhaodd y Rheolwr Darpariaeth Anghenion Ychwanegol fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn rhan o brosiect peilot a gyflawnwyd rhai blynyddoedd yn ôl gydag Ysgol Uwchradd Glan-y-Môr a’i hysgolion bwydo priodol. Cafodd cynlluniau datblygu personol eu cynnal fel cynllun peilot a gwahoddwyd holl ysgolion y Sir i weld yr arfer da. Atgoffodd y Pwyllgor unwaith eto fod gan arweinwyr ysgolion a Chydgysylltwyr Anghenion Addysgol Arbennig gyfrifoldeb i ddarparu hyfforddiant yn eu hysgolion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei derbyn.

Dogfennau ategol: